Hatch
Currently closed for applications
‘Rydym o’r farn y dylai plant a phobl ifanc fedru mwynhau amrywiaeth gyffrous o straeon sinematig. Dyna pam mae ein Cronfa Hatch yn datblygu ffilmiau byw (live-action) i’r teulu neu i bobl ifanc sy’n adlewyrchu gwahanol brofiadau plant a phobl ifanc Cymru heddiw.
Mae rhaglen Hatch yn cynnig cyngor a hyfforddiant arbenigol fydd yn eich cynorthwyo i wireddu eich gweledigaeth sinematig, ac i ennyn dealltwriaeth sylfaenol o’ch cynulleidfa darged.
Pwy all ymgeisio?
Cynhyrchwyr sydd eisoes wedi arwain ar y gwaith o greu ffilm nodwedd neu ar waith sgrin arwyddocaol. Dylai naill ai’r awdur, y cynhyrchydd neu’r cyfarwyddwr sy’n arwain ar y prosiect fod wedi ei g/eni neu ei l/leoli yng Nghymru.
Am faint gai ymgeisio?
75% o holl gostau datblygu’r prosiect, hyd at uchafswm o £24,999.
Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?
Yn ogystal â ffurflen gais wedi ei chwblhau, bydd angen sgript ar gyfer y prosiect os ar gael, neu driniaeth 8-10 tudalen a sampl o’r sgript, a CVs ar gyfer aelodau allweddol y tîm creadigol.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Hatch darllenwch ein Canllawiau Hatch.
Mae’r ffurflenni cais ar gael isod, ac unwaith i chi eu cwblhau rhaid eu gyrru at hatch@ffilmcymruwales.com