Beacons: Cyllid ar gyfer Ffilmiau Byrion
Drwy ddarpariaeth RHWYDWAITH BFI Cymru, mae Ffilm Cymru yn comisiynu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang ar ffurf gweithredu byw, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales.
Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i fwrw ymlaen â’u gyrfa. Mae ffilmiau byr Beacons wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru Wales a’u rhyddhau ar iPlayer.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth:
- Timau awdur, cyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr) a chynhyrchydd
- Timau awdur a chyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr unigol) lle nad oes cynhyrchydd yn gysylltiedig ar hyn o bryd
Dylai awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn flaenorol fod wedi ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu o leiaf un ffilm fer sydd wedi’i dangos neu’i darlledu’n gyhoeddus a/neu fod â hanes blaenorol mewn cyfrwng creadigol cysylltiedig (e.e. theatr, teledu, delwedd symudol, cyfresi ar y we, gemau, cynnwys ymdrochol).
Byddwn hefyd yn ystyried rhai sydd â phrofiad mewn rolau sgrin perthnasol eraill (e.e. cyfarwyddwr ffotograffiaeth sy’n dymuno cyfarwyddo).
Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwr ar y prosiect fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu fod yn seiliedig yng Nghymru.
Pa fath o ffilm fer sy’n gymwys?
Ffilm gweithredu byw, animeiddiad, ffilm ddogfen neu hybrid o hyd at 15 munud o hyd.
Am faint allaf i wneud cais?
Hyd at £25,000.
Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?
7 Gorffennaf 2023 am 3pm.
Canllawia a Gwybodaeth Bellach
Darllenwch neu wrandewch ar y Canllawiau isod cyn cychwyn ar eich cais. Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn ag unrhyw beth, cymrwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin a’n hadnoddau ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau byr.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau am ddim ar-lein a bydd modd trefnu sesiynau un i un gyda’n tîm, pe gallech chi fod ar eich ennill o gael arweiniad pellach.
Sut i Wneud Caid
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais isod (Gweithredu Byw, Ffilm Ddogfen neu Animeiddiad) a’i hanfon mewn e-bost i network@ffilmcymruwales.com ynghyd â:
- Sgript
- ymdriniaeth (yn achos ffilm ddogfen yn unig)
- fwrdd stori (yn achos animeiddiad yn unig)
- CVs aelodau allweddol o’r tîm creadigol
- Dolen i o leiaf un darn blaenorol o waith gan y cyfarwyddwr
Mae rhai o’r cwestiynau yn y ffurflen gais yn cynnwys opsiynau i gyflwyno’r atebion ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu nodyn llais.
Fel arall, os yw’n well gennych chi, fe allwch chi ymateb i’r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu alwad ffôn fyw. Dylid trefnu hyn gyda’n tîm ymlaen llaw cyn y dyddiad cau.
Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael i unigolion sydd yn F/fyddar, â nam ar eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eu golwg. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol:
Jude Lister, Rheolwr RHWYDWAITH BFI Cymru, jude@ffilmcymruwales.com
Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu, gwenfair@ffilmcymruwales.com
07754 927191