Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

26 th February 2010

 image of Gwneuthurwyr ffilm ifanc o gymru'n cael eu henwebu am wobr First Light 2010

Gwneuthurwyr ffilm ifanc o gymru'n cael eu henwebu am wobr First Light 2010

Mae gwneuthurwyr ffilm ifanc, sydd rhwng naw ac un deg saith mlwydd oed, o ysgolion yn Llanbrynmair ac Abergafenni, wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau First Light.

Mae GWOBRAU FIRST LIGHT yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos talentau creadigol pobl ifanc ledled y DU. Cynhelir y digwyddiad ysbrydoledig hwn eleni yn yr ODEON, Leicester Square, Llundain, brynhawn dydd Mawrth yr 2 o Fawrth.

Bydd grŵp o wneuthurwyr ffilm ifanc o Lanbrynmair, sydd rhwng 13 a 17 mlwydd oed, yn mynychu’r digwyddiad eleni. Bu’r grŵp yn cyd-weithio â Film 15 i gynhyrchu eu ffilm fer Chucks. Gyda chefnogaeth ariannol ar y cyd gan Asiantaeth Ffilm Cymru, mae Film 15 yn cynnig amrediad o fentrau addysg ffilm gwerthfawr i bobl ifanc difreintiedig. Maent hefyd yn aelod gweithredol o Rwydwaith Addysg Ffilm Cymru.

Enwebwyd Chucks yng nghategori’r ‘Ffilm Orau gan Bobl Ifanc dros 13 oed’, ac fe’i crëwyd gan naw o bobl ifanc, rhai ohonynt yn economaidd ddifreintiedig, neu sydd mewn perygl o gael eu heithrio o addysg ffurfiol. Mae eu ffilm yn adrodd hanes Chuck sy’n berchen ar dÅ· bwyta sydd ymhell o bobman, ac sydd wedi hen arfer â phentrefwyr busneslyd yn ymyrryd yn ei fywyd. Pan mae Ted, y bachgen drwg lleol, a’i gang yn penderfynu mai yn nhÅ· bwyta Chuck maent am dreulio pob awr o’r dydd o hyn ymlaen, mae Chuck yn cael ei orfodi i ddangos ochr mwy sinistr o’i gymeriad.

Mae Chucks eisoes wedi ennill gwobr yn y ‘Pink Snowball Awards’ ym Machynlleth yn y categori Dan 18 mlwydd oed. Yn y categori ‘Ffilm Orau gan Bobl Ifanc dros 13 mlwydd oed’, a noddir gan HBO, bydd y grŵp yn cael eu beirniadu gan y cynhyrchydd/gyfarwyddwr Fred Schepsi (Empire Falls, Fierce Creatures), Kwame Kwei-Armah (Hotel Babylon, Casualty) a Robert Sheehan (Misfits). Yn cystadlu yn eu herbyn mae dwy ffilm o Swindon a Leeds.

Mae grŵp o ddisgyblion naw a deg mlwydd oed o Ysgol Gynradd Cantref, Abergafenni hefyd wedi eu henwebu ar gyfer Gwobr First Light. Bu’r grŵp yma’n gweithio gyda gwneuthurwyr ffilm proffesiynol o Flycatcher Films i gynhyrchu eu ffilm fer Mary and The Miners.

Crëwyd y ffilm fer Mary and The Miners gan 46 o blant, rhai ohonynt yn berchen ar broblemau ymddygiad. Wedi eu cyd-arianu gan Asiantaeth Ffilm Cymru, Flycatcher Films oedd yn gyfrifol am y gwaith cyn-gynhyrchu, gan annog y plant i ystyried y gwahanol elfennau sydd eu hangen ar gyfer animeiddio. Bu i chwech o’r plant gyfansoddi cân ar gyfer y prosiect.

Lleolir eu ffilm yn 1841, ac mae’n cyflwyno Mary Watkins sy’n ddeg mlwydd oed ac yn gweithio mewn pwll glo. Wrth iddi dywys y gwyliwr ar daith drwy ei diwrnod cawn ein cyflwyno i’w chyfaill a’i thri brawd, sy’n gweithio yn y pwll glo gyda’u tad. Seiliwyd y ffilm animeiddio fer yma, sy’n hyfryd o grefftus, ar dystiolaethau plant o’r 19eg ganrif oedd yn gweithio yn y pyllau glo.

Fel rhan o gategori'r ‘Animeiddio Gorau’, bydd y grŵp yn cael eu beirniaidu gan y cynhyrchydd/gyfarwyddwr Rob Minkoff (Stuart Little, The Lion King), y cynllunydd cynhyrchu Terry Ackland-Snow (Batman, Superman) a’r cyfarwyddwr John Landis (Honey I Shrunk The Kids). Maent yn cystadlu yn erbyn ffilmiau o Burntisland, yr Alban a Colchester.

Dick and Dom fydd yn llywio’r seremoni, a bydd cymysgedd o enwogion a sêr y diwydiant ffilm yno i gyflwyno’r gwobrau ar draws amrediad eang o gategorïau, gan gynnwys yr Animeiddio Gorau, y Ddrama Orau, y Sgript Ffilm Orau, y Gomedi Orau a’r Gerddoriaeth Wreiddiol Orau. Mae digwyddiad eleni hefyd yn cynnwys gwobr newydd sbon, mewn cysylltiad â BAFTA, sef Gwobr Mynediad Agored, ac aelodau o’r cyhoedd fydd yn pleidleisio amdani.

Dywedodd Dick and Dom: “’Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno Gwobrau’r First Light ym mis Mawrth - bydd hi’n hwyl garw; mae pob un o’r ffilmiau sydd wedi eu henwebu yn wych, a bydd y gwobrau’n ddathliad rhagorol i bawb sydd wedi cymryd rhan.”

Dywedodd Barbara Broccoli, Cadeirydd First Light a chynhyrchydd rhyddfraint James Bond: “Mae First Light yn gwneud gwaith ardderchog wrth feithrin creadigrwydd pobl ifanc. Mae safon enwebiadau eleni’n arbennig, ac yn tynnu sylw at dalent sylweddol ieuenctid ein gwlad. Drwy gyfrwng First Light mae pobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu dweud, ac i adrodd eu straeon drwy ffilm. Mae’r broses hon yn eu galluogi i ddysgu sgiliau pwysig ac yn cyfrannu tuag at gynyddu eu hyder a’u hunan barch".

Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru: “Llongyfarchiadau a phob lwc i’r holl bobl ifanc mae eu ffilmiau gwych wedi eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Mae Flycatcher Films a Film 15 yn sefydliadau hynod o werthfawr, sy’n arwain y ffordd yn gyson ar brosiectau addysg ffilm sy’n safonol, ysbrydoledig a deniadol. ‘Rydym yn falch ein bod yn gallu hyrwyddo’r prosiect, ac yn falch o lwyddiannau’r bobl ifanc.”

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd yng Nghymru.

Newyddion archif

Chwarterol archif

2010 Newyddion archif

Gorfennaf – Medi 2010

Ebrill – Mehefin 2010

Ionawr – Mawrth 2010

2009 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2009

Pre 2010 archif

Archif chwarterol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006