Film Agency News
16 th May 2012
Gwneuthurwyr ffilm o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol yng Ngwyl Ffilm Cannes 2012
Bydd cynrychiolaeth gref o wneuthurwyr ffilm o Gymru yng Ngwyl Ffilm Cannes eleni (16 - 27 Mai 2012) ac maent yn llawn gobaith y gallant sicrhau cefnogaeth ryngwladol ar gyfer amrywiaeth o ffilmiau nodwedd a dogfen. Dyma Keith Potter, Pennaeth Cynhyrchu Asiantaeth Ffilm Cymru yn egluro pam ei bod yn RHAID bod yn Cannes…
Heb unrhyw amheuaeth Cannes yw’r wyl ffilm orau bosib, ac nid yn unig oherwydd presenoldeb sêr mwyaf y byd ffilm, sy’n dod yno â swyn a chyffro yn eu sgil! Mae mwy na 10,000 o brynwyr ac o werthwyr o bedwar ban byd yn heidio i Cannes bob blwyddyn, gan sicrhau mai hon yw’r farchnad ffilm ryngwladol bwysicaf un i’r diwydiant ffilm. Erbyn hyn mae dros 50 o wledydd mewn 58 pafiliwn wedi eu lleoli o amgylch y Palais des Festivals.
Dechreuodd Gwyl Ffilm Cannes yn 1946, ac mae hanes yr wyl yn gyforiog o bwysigion y byd ffilm. Mae enillwyr y Palme d’or--, sef y brif wobr, yn y gorffennol yn cynnwys Federico Fellini, Luis Bunuel, David Lynch a Steven Soderbergh. Erbyn heddiw dyma’r arddangosfa bwysicaf un i wneuthurwyr ffilm o Ewrop.
Eleni, mae 65ain Gwyl Ffilm flynyddol Cannes yn cychwyn ar 16eg Mai, gan bara tan 27ain Mai. Nanni Moretti yw Llywydd y Rheithgor. Saethodd ei ffilm fer gyntaf yn 1973. Saethwyd ei ffilm nodwedd gyntaf, I am Self Sufficient, ar ffilm Super 8 ac yna fe’i addaswyd i 16mm ar gyfer ei rhyddhau mewn sinemau. Dilynwyd hyn gan Ecce Bombo (1978), Sweet Dreams (1981), Bianca (1984), The Mass is Ended (1985) - Gwobr y Silver Bear yng Ng?yl Ffilm Berlin - Red Lob (1989), Dear Diary (1993) cyfarwyddwr gorau yng Ngwyl Cannes 1994, April (1998), The Son’s Room (2001) Palme d’or-- yng Ngwyl Cannes, The Caiman (2006) a We Have a Pope (2011).
Gan fod Cannes yn denu arianwyr ffilm, asiantaethau gwerthu, dosbarthwyr a phartneriaid cyd-gynhyrchu posib o bedwar ban byd, mae’n rhaid cael eich gweld yn Cannes os ydych yn chwilio am roi hwb cychwynnol sylweddol i’ch prosiect ffilm, neu ei werthu. Yn wir, mae nifer o wneuthurwyr ffilm yn mynd i Cannes i rwydweithio yn unig, fodd bynnag mae’n rhaid i chi gael prosiect sydd yn barod ar gyfer ei marchnata neu gall fod yn anodd iawn sicrhau cynnal cyfarfodydd gyda’r bobl iawn.
Mae ffilm, ‘da chi’n gweld, yn fusnes hynod gystadleuol. Yng nghyd-destun ffilmiau gorffenedig, mae tua 4000 o ffilmiau’n cael eu cyflwyno ar gyfer Cannes bob blwyddyn, ond tua 50 yn unig sy’n cael eu dangos yn yr wyl. Ger y gweithgaredd ar y carped coch, fodd bynnag, mae marchnad anferth yn cael ei chynnal, ble mae ffilmiau’n cael eu prynu a’u gwerthu gan gwmnïau sy’n mynychu’r wyl o bedwar ban byd. Er holl swyn y Croisette, Cannes yw pythefnos bwysicaf calendr busnes asiantaethau gwerthu, dosbarthwyr a nifer o brif gynhyrchwyr Ewrop. Felly mae’n hollbwysig fod gan Gymru bresenoldeb yno. Gall fod yn lle effeithiol dros ben i wneud busnes.
Yn wir, ‘rydym yn falch fod cymaint o’r dalent gorau o Gymru yn cael proffil yn yr wyl eleni, gan gynnwys Eryl Phillips, cynhyrchydd The Gospel of Us gyda Michael Sheen; Rebekah Tolley, cynhyrchydd y ddogfen We Went to War; Kieran Evans, awdur/gyfarwyddwr Kelly + Victor gyda Antonia Campbell-Hughes a Julian Morris; a Marc Evans, cyfarwyddwr Hunky Dory gyda Minnie Driver a’r seren newydd o Gymru, Aneurin Barnard. Byddwn hefyd yn chwilio am arian ar gyfer Greenland Time gan yr awdur-gyfarwyddwyr o Gymru, Catherine Linstrum a David John Newman, a gynhyrchwyd gan Sigma Films, ac a ddatblygwyd ar y cyd â’r BFI.
Gan fod asiantaethau gwerthu eisoes ynghlwm â’r prosiect, byddwn yn annog dosbarthu rhyngwladol ar gyfer We Went to War a Hunky Dory. Bydd Kelly + Victor aThe Gospel of Us hefyd yn chwilio am sicrhau cynrychiolaeth ryngwladol yn y dyfodol.
Ein busnes yw sicrhau bod ffilmiau’n cael eu gwneud - felly rhaid bod yn Cannes.
Prosiectau a ariannwyd gan Asiantaeth Ffilm Cymru fydd yn cael eu hybu yn Cannes:
HUNKY DORY
Hunky Dory - drama gerdd a leolir yn ystod haf poeth 1976 ac sy’n dathlu helyntion pobl ifanc yn ystod eu tymor olaf yn yr ysgol. Dewiswyd y ffilm ar gyfer G?yl Ffilm Llundain. Minnie Driver ac Aneurin Barnard sy’n serennu ynddi.
Cwmni cynhyrchu: Big Pond Productions
Cynhyrchwyr: Jon Finn, Dan Lupovitz
Cyfarwyddwr: Marc Evans
Awdur: Laurence Coriat
Cast: Minnie Driver, Aneurin Barnard
Gwerthu: Independent
Dosbarthu’r DU: Entertainment One
THE GOSPEL OF US
The Gospel of Us - ffilm nodwedd am gynhyrchiad arloesol y National Theatre Wales am Ddrama’r Dioddefaint. Michael Sheen sy’n serennu.
Cwmni cynhyrchu: Rondo Media
Cynhyrchydd: Eryl Phillips
Cyfarwyddwr: Dave McKean
Awdur: Owen Sheers
Dosbarthu’r DU: Soda Pictures
WE WENT TO WAR
We Went to War - dogfen delynegol wedi ei lleoli mewn tref yn Texas. Cyn-filwyr y rhyfel yn Fietnam yn rhannu profiadau â milwyr a anafwyd yn fwy diweddar mewn rhyfeloedd yn Afghanistan ac Iraq.
Cwmnïau cynhyrchu: Tarian Films, Soho Moon Pictures
Cynhyrchydd: Rebekah Tolley
Cyfarwyddwr: Michael Grigsby
Gwerthu: Electric Sky
KELLY + VICTOR
Stori garu amrwd, gyfoes a addaswyd o nofel lwyddiannus Niall Griffiths.
Cwmni cynhyrchu: Hot Property Films
Cynhyrchydd: Janine Marmot
Awdur/Gyfarwyddwr: Kieran Evans
Cast: Antonia Campbell-Hughes, Julian Morris




