Film Agency News
21 st June 2012
Enwi Tom Harries yn Seren Newydd
Mae Screen International wedi enwi Tom Harries o Gaerdydd, seren Hunky Dory, yn eu nawfed adroddiad blynyddol ar ‘Sêr Yfory’, sy’n rhoi sylw i’r talentau gorau i ymddangos ym Mhrydain eleni yn y byd actio a ffilm.
Gwnaeth Tom argraff fawr yn Hunky Dory, gan Marc Evans, fel Evan, bachgen ifanc sydd yn ansicr am ei duedd rhywiol. ‘Roedd yn chwarae gyferbyn â Minnie Driver ac Aneurin Barnard (saethwyd y ffilm pan oedd Harries, sy’n 21 mlwydd oed, yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi gadael erbyn hyn).
Cafodd Hunky Dory, ffilm am bobl ifanc yn ‘dyfod i oed’, ei hariannu gan Asiantaeth Ffilm Cymru, a fe’i dangoswyd am y tro cyntaf yn 55 Gwyl Ffilm Llundain fis Hydref llynedd. Saethwyd y ffilm ar leoliad yn Abertawe. Fe’i rhyddhawyd mewn sinemâu drwy eOne, ac mae ar gael ar DVD ar 25 o Fehefin.
Ers cwblhau Hunky Dory mae Tom wedi chwarae rhan mewn cyfres i’r BBC/HBO, sef Parade’s End, cyfres sy’n seiliedig ar nofelau Madox Ford. Saethwyd y gyfres yng Ngwlad Belg, ac mae Benedict Cumberbatch hefyd yn serennu. Erbyn hyn mae Tom i’w weld yn y Menier Chocolate Factory yn Llundain mewn cynhyrchiad newydd o Torch Song Trilogy, sy’n cael ei gyfarwyddo gan Douglas Hodge. Mae’n chwarae rhan Alan, y rhan a chwaraewyd yn ffilm wreiddiol Harvey Fierstein gan Matthew Broderick.
Dywedodd Marc Evans, Cyfarwyddwr Hunky Dory: “Mae’n beth gwych i gyfarwyddwr bob tro pan fydd talent actor ifanc y mae gennych chi ffydd ynddo, yn cael ei gydnabod yn ehangach. Dydw i ddim eisiau rhoi ‘jinx’ ar Tom drwy ddweud y bydd yn seren yn y dyfodol, ond does gen i ddim amheuaeth nad ydi Tom yn actor talentog sy’n dangos cryn addewid. Hunky Dory oedd ei ffilm gyntaf. ‘Roedd y ffilm hefyd yn gyforiog o dalentau ifanc eraill o Gymru sydd fel Tom, gobeithio, am gael dyfodol disglair. Rhaid diolch yn fawr i Asiantaeth Ffilm Cymru i’r ffilm gael ei gwneud yn y lle cyntaf - bu iddynt ein cefnogi ar hyd y daith - ac mae’n enghraifft dda o sut all buddsoddiad lleol mewn ffilmiau lleol wneud gwahaniaeth. Mae cronfa gyfoethog o dalent yma, yn enwedig yn y byd actio, ac mae ffilmiau fel Hunky Dory yn fodd perffaith o ddangos y dalent yma i’r byd ehangach.”




