Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 02920 766931

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

17 th May 2012

 image of Treuliwch benwythnos yn y Gelli yng nghwmni rhai o'n prif wneuthurwyr ffilm

Treuliwch benwythnos yn y Gelli yng nghwmni rhai o'n prif wneuthurwyr ffilm

Bydd Gwyl lenyddol a chelfyddydol fyd-enwog y Gelli yn cychwyn ar ddiwrnod olaf mis Mai eleni. Am dridiau cyn hynny, fodd bynnag, o Fai 25ain, bydd sawl un sydd wedi ennill neu wedi eu henwebu am wobrau Oscar, yn ymuno â nifer o wneuthurwyr ffilm yn y Gelli am benwythnos o ddosbarthiadau meistr, dangosiadau a sesiynau C&A yn ‘Hay on Film’, digwyddiad agoriadol Ysgol Ffilm y Gelli.

Syniad Alan Trow o Gymdeithas Ffilmwyr Prydain, a Miguel Ferros MBKS, arbenigwr ar ôl-gynhyrchu digidol, yw ‘Hay on Film’, ac fe’i gefnogir gan yr Asiantaeth Ffilm. Maent wedi casglu ffilmwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a thechnegwyr ynghyd o bob rhan o Brydain i ddathlu’r gelfyddyd a’r grefft o wneud ffilm. Cynhelir y digwyddiad yn Sinema Siop Lyfrau Richard Booth - y siop lyfrau fyd-enwog.

Siop Richard Booth yw siop lyfrau fwyaf y Gelli, Tref y Llyfrau, a hi hefyd yw canolfan gelfyddydol y dref. Fe’i sefydlwyd yn 1962 gan Richard Booth, fu’n gyfrifol am selio enwogrwydd y Gelli fel canolfan fyd-enwog ar gyfer llyfrau ail-law. Mae wyneb hynod gain i’r siop gyda’r teils ‘animalier’ gwydrog sy’n arwain at siop eang o dri llawr sy’n gyforiog o gannoedd o filoedd o lyfrau ail-law, llyfrau hynafiaethol a llyfrau newydd.

Nid llenyddiaeth yw’r unig bluen yn het y ganolfan gelfyddydol hon, fodd bynnag. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r perchennog newydd, Elizabeth Haycox, wedi cychwyn ar y gwaith o ail-wampio’r siop lyfrau enwog, gan gyflwyno sinema gelfyddydol newydd sbon.

Mae’r enwogion fydd yn dod i ‘Hay on Film’ yn cynnwys y Cyfarwyddwr a’r Sgriptiwr Bruce Robinson (Withnail & I, The Killing Fields, The Rum Diary); y Ffilmiwr Doug Milsome ASC BSC (Full Metal Jacket; The Shining); Nigel Ashcroft, Cynhyrchydd (The Tree of Life); a Revel Guest, Uwch-gynhyrchydd, (War Horse).

Bydd gweithdai a dangosiadau hefyd yn cael eu cynnal. Bydd y rhain yn cynnwys - Bloody Marvellous! y Cynllunydd Coluro Claire Williams yn rhannu cyfrinachau creu gwaed a gôr; a bydd Tom Harris, arbenigwr ar effeithiau arbennig, yn creu ffrwydradau, effeithiau brwydro a llanast yn gyffredinol!

Yn ysbryd gwyl fendigedig CamerImage Gwlad Pwyl, bydd y digwyddiadau a gynhelir gan Ysgol Ffilm y Gelli yn yn dod â myfyrwyr a gwneuthurwyr ffilm profiadol ynghyd i ddathlu eu celfyddyd.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Emma Flatley, Pennaeth Arddangos ac Addysg Asiantaeth Ffilm Cymru: “Mae hwn yn ddigwyddiad hynod gyffrous ac uchelgeisiol, sy’n cynnwys rhestr o wneuthurwyr ffilm cwbl ysbrydoledig o bob maes o fyd y sinema. ‘Rwy’n siwr y bydd yn hynod boblogaidd gan ddilynwyr ffilm o bob rhan o Gymru a thu hwynt”.

Mae uchafbwyntiau penwythnos ‘Hay on Film’ yn cynnwys:

- C&A gyda Revel Guest, Uwch-gynhyrchydd, War Horse

- Gweithdy ysgrifennu sgript gyda Bruce Robinson, Withnail & I; The Killing Fields; The Rum Diary

- Gweithio gyda Kubrick: Doug Milsome ASC, BSC, gyda Richard Greatrex BSC

- Teithio’r byd gyda Jack Cardiff: Craig McCall

- Technoleg Cynhyrchu – ‘Fight, Flight or Embrace’: Miguel Ferros

- Celfyddyd Cyllideb/The Art of the Budget: David Ball

- Cynllunio Sain: Paul Davies

- C&A gyda Nigel Ashcroft: Cyd-gynhyrchydd The Tree of Life, Terrence Malick

‘Hay on Film’ yn Sinema Siop Lyfrau Richard Booth Mai 25ain - 27ain 2012. Pris tocynnau - £10 yr un

www.hayfilmschool.co.uk

Swyddfa docynnau: 01497 821526

Ymholiadau : 07896 044044 / 07805 039290

Newyddion archif

Chwarterol archif

2013 Newyddion archif

Ebrill – Mehefin 2013

Ionawr – Mawrth 2013

2012 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2012

Gorfennaf – Medi 2012

Ebrill – Mehefin 2012

Ionawr – Mawrth 2012

2011 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2011

Gorfennaf – Medi 2011

Ebrill – Mehefin 2011

Ionawr – Mawrth 2011

2010 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2010

Gorfennaf – Medi 2010

Ebrill – Mehefin 2010

Ionawr – Mawrth 2010

2009 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2009

Pre 2010 archif

Archif chwarterol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006