Film Agency News
03 rd February 2010
Cyhoeddi fod Sleep Furiously wedi ennill gwobr First Film y Guardian 2009
Yn y Guardian disgrifir y ffilm ddogfen fel ‘ffilm gynnil a thonyddol gymhleth’, ac ynddi ceir darlun o gymuned amaethyddol Gymreig Trefeurig yng Ngheredigion. Magwyd Koppel yn Nhrefeurig, ac yma cafodd ei rieni loches rhag cyfnod y Natsïaid yn yr Almaen. Llwyddodd i ennill mewn cystadleuaeth galed oedd yn cynnwys ffilmiau o bedwar ban byd - dwy ffilm a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar District 9 gan Neill Blomkamp, ac In the Loop gan Armando Lannucci; a hefyd Synecdoche, New York, gan Charlie Kaufman; Moon gan Duncan Jones; Better Things gan Duane Hopkins; ac Anvil! The Story of Anvil gan Sacha Gervasi.
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn y DU mewn cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2008, ac fei’ harianwyd gan Asiantaeth Ffilm Cymru. Cyd-gynhyrchwyr Koppel ar Sleep Furiously yw Margaret Matheson (Abigail’s Party Scum ac Eve’s Bayou), a’r Uwch-gynhyrchywr Mike Figgis (Leaving Las Vegas) a Serge Lalou (Etre et Avoir).
Mae Sleep Furiously yn farwnad bersonol am dirwedd a phoblogaeth sy’n prysur newid wrth i amaethyddiaeth ar raddfa fechan ddiflannu, a’r genhedlaeth oedd yn byw yn y byd cyn-beirianyddol farw o’r tir. Dylanwadwyd Koppel gan ei sgyrsiau â’r awdur o Awstria Peter Handke, ac mae’n ein tywys ar daith farddonol a dwys, i fyd sy’n gyforiog o ddechrau a diwedd; byd sy’n llawn tylluanod wedi’u stwffio, defaid a thân. Adlewyrchir ansawdd gweledol y ffilm gan drac sain pwerus yr artist cwlt Aphex Twin.
Cymaint oedd effaith Sleep Furiously ar y gwneuthurwr ffilm Alex Cox, aeth ati i ysgrifennu erthygl yn Film Comment gan ei disgrifio fel ffilm; “weledol ryfeddol… Mae’r hyn allai fod yn llwm mewn ffilm arall yn arbennig o hardd yma… ac mae’r hyn allai ymddangos yn anobeithiol yn cael ei achub a’i ddyrchafu. Sleep Furiously yw’r ffilm leiaf anthroposentrig i mi ei gweld erioed.”
Dywedodd y curadur ffilm Mark Cousins, sy’n enwog am adfywio Gŵyl Ffilm Caeredin, ac am ysgrifennu 'The Story of Film', llyfr ar hanes ffilm a ddisgrifiwyd gan Y Times fel “y llyfr gorau i ni ei adolygu erioed”: “Wrth wylio’r ffilm yma cefais f’atgoffa o ddogfennau gwych Humphrey Jennings a Georges Rouquier. Dyma sinema bur: yn weledol effro, yn gerddorol wych, ac yn wefreiddiol yn y modd mae’n portreadu treigl amser a bywydau’n darfod.”
Dywedodd Andrew O’Hagan o’r Evening Standard: “Efallai mai Sleep Furiously yw’r ffilm ddogfen elfenaidd harddaf i ddod o Brydain mewn degawd, ac ni allaf ei chanmol ddigon.”
Mae gwaith toreithiog Koppel fel gwneuthurwr ffilm yn cael ei arddangos mewn sawl gwahanol fformat: o’r ‘gosodiad ffilm’ ar gyfer y label ffasiwn Comme des Garcons a welwyd yn y Biennale yn Fflorens, i’r gyfres ddogfen glodwiw ‘Undressed: a history of 20th Century Fashion’ i Sianel 4. Yn fwyaf diweddar ‘roedd yn gyfrifol am 'Ooh la la and the art of dressing up' i BBC Wales, rhaglen ddadleuol na ddarlledwyd erioed, sy’n archwilio seicopatholeg enwogrwydd. Mae hefyd wedi ennill gwobrau am ei waith cyfarwyddo hysbysebion ffilm; mae’n aelod o gyfadran Prifysgol Llundain, ac yn Athro gwadd gyda Theodore Zeldin yn HEC, Paris.
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd yng Nghymru.




