Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 02920 766931

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

10 th August 2012

 image of Plant ysgol i holi'r ser yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Plant ysgol i holi'r ser yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd plant ysgol dros Gymru gyfan yn cael cyfle unigryw i holi rhai o brif bersenoliaethau’r diwydiant ffilm yng Nghymru mewn digwyddiad a drefnwyd gan yr elusen addysgol FILMCLUB Cymru ac a gefnogir gan ei brif bartner yng Nghymru, Asiantaeth Ffilm Cymru. Ym mysg y rhai sy’n cymryd rhan yn y sesiwn Holi & Ateb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lland?, ar 9fed o Awst, fydd yr actorion Matthew Rhys a Nia Roberts, a’r cyfarwyddwr Marc Evans. Y comedïwr a’r ysgrifennwr Daniel Glyn fydd yn cadeirio’r sesiwn, - sesiwn a drefnwyd gan yr elusen fel rhan o’u rhaglen Diwydiant Rhyngweithiol, sy’n galluogi pobl ifanc o bob cefndir, ble bynnag maent yn byw yn y DU, i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda phobl greadigol broffesiynol, yn ystod ymweliadau ag ysgolion, a thrwy ddigwyddiadau arbennig a gwe-ddarllediadau byw.

Cynhelir y sesiwn hon yn Gymraeg ar ddydd Iau Awst 9fed rhwng 1 a 2pm ar stondin S4/C ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lland?, Bro Morgannwg. Gwahoddir newyddiadurwyr i fynychu’r digwyddiad sydd hefyd ar agor i’r cyhoedd.

Yn ddiweddar, amlygwyd y ffaith fod cael mynediad at bobl greadigol broffesiynol tra’n dal yn yr ysgol, yn hynod fanteisiol i bobl ifanc yng nghyd-destun codi gobeithion, ehangu gorwelion, a thrwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am yrfaoedd posib yn y dyfodol. Ym mysg yr enwau adnabyddus sydd eisoes wedi rhannu cyfrinachau am eu llwyddiant gydag aelodau FILMCLUB, mae’r actor a Llysgennad FILMCLUB dros Gymru, Michael Sheen, yr awdur ac eiriolwr FILMCLUB, Owen Sheers, a chynhyrchydd Submarine, Kate Crowther.

Bydd y digwyddiad Cymraeg yn yr Eistedfodd yn ategu’r tymor o ffilmiau Cymreig sydd i’w gweld ar y wefan www.filmclub.org/cymru. Mae’r elusen, mewn cydweithrediad ag S4C, yn gobeithio ychwanegu pum ffilm Gymraeg i’r tymor yn ddiweddarach eleni. Mae’r digwyddiad yn dilyn lansio’r Fforwm Ddiwylliannol ar Dlodi Plant ym Mehefin - menter a arweinwyd gan FILMCLUB - i gyflwyno amrediad eang o brofiadau diwylliannol a chyfleoedd dysgu newydd i’r 200,000 o bobl ifanc yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi ar hyn o bryd.

Gan dynnu sylw at werth diwylliant a ffilm i bobl ifanc dywedodd Michael Sheen:

“Mae’r syniad mai atodiad yn unig yw diwylliant yn wirion bost. Mae cael mynediad at ddiwylliant nid yn unig yn galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â’u diwylliant eu hunain mewn modd artistig a chreadigol, ond hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau byw. Mae ffilm yn ffordd dda o gyrraedd plant nad ydynt yn ymgysylltu’n hawdd â phlant drwy ddulliau eraill.”

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C: “FILMCLUB Cymru yw un o bartneriaethau mwyaf newydd a chyffrous S4C. Mae rhoi mynediad i bobl ifanc at ffilmiau na fyddai ganddyn nhw gyfle i’w mwynhau neu ddysgu oddi wrthyn nhw fel arall, yn brosiect clodwiw gan FilmClub Cymru, a ‘rydym yn falch cael bod yn gysylltiedig ag ef. Fel sianel sy’n darlledu ffilmiau a dramau yn yr iaith Gymraeg, mae’n amlwg fod gennym ddiddordeb i sicrhau fod pobl ifanc yn magu angerdd tuag at ffilm.”

Gyda chefnogaeth ei brif bartner, Asiantaeth Ffilm Cymru, lansiwyd FILMCLUB yng Nghymru ym mis Mai 2011 mae FILMCLUB Cymru yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru.

Am ragor o wybodaeth am FILMCLUB neu i gofrestru i gael sesiwn gychwynol yn rhad ac am ddim ewch i filmclub.org/blog/cymru neu ffoniwch 020 7288 4520.

Newyddion archif

Chwarterol archif

2013 Newyddion archif

Ebrill – Mehefin 2013

Ionawr – Mawrth 2013

2012 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2012

Gorfennaf – Medi 2012

Ebrill – Mehefin 2012

Ionawr – Mawrth 2012

2011 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2011

Gorfennaf – Medi 2011

Ebrill – Mehefin 2011

Ionawr – Mawrth 2011

2010 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2010

Gorfennaf – Medi 2010

Ebrill – Mehefin 2010

Ionawr – Mawrth 2010

2009 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2009

Pre 2010 archif

Archif chwarterol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006