Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

11 th November 2009

 image of Asiantaeth Ffilm Cymru'n Cyhoeddi Penodi Aelodau Newydd i'r Bwrdd

Asiantaeth Ffilm Cymru'n Cyhoeddi Penodi Aelodau Newydd i'r Bwrdd

Mae Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru, wedi cyhoeddi Bwrdd o Gyfarwyddwyr newydd ar gyfer y sefydliad  holl Gymreig yma.

Bydd wyth aelod newydd yn ymuno â'r Bwrdd i gymryd lle nifer o Gyfarwyddwyr sydd wedi cwblhau eu tymor, ac i ehangu'r Bwrdd presennol o 10 i 14 o ran nifer. Mae'r penodiadau, sy'n uchel eu proffil, yn cynnwys Delyth Evans, yr Is-Weinidog dros Dreftadaeth, Cynulliad Llywodraeth Cymru; y Cynhyrchydd Rebekah Gilbertson (sy'n gyfrifol am ffilmiau megis Edge of Love gyda Keira Knightley, Mathew Rhys a Sienna Miller, a Patagonia, ffilm nodwedd ddiweddaraf Marc Evans); a Heather Stewart, Cyfarwyddwr Rhaglen Ddiwylliant y Sefydliad Ffilm Prydeinig.

Cryfheir y Bwrdd eto fyth yn dilyn penodi Gethin Scourfield, Cynhyrchydd o Gymru ac un o raddedigion EAVE, yn ogystal â Rhiannon Wyn Hughes, cyn-arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, (fydd yn ymuno ym Mawrth 2010). Mae Hughes wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu'r Scala, y Sinema Ddigidol annibynnol arloesol ym Mhrestatyn.

Mae'r bargyfreithiwr a goruchwyliwr Cronfa Gyfalaf Venture, Thomas Dillon, hefyd yn ymuno, ynghyd â'r cynhyrchydd Jane Dauncey, sydd â chymwysterau sylweddol rhwydweithiol a chorfforaethol ym myd teledu, yn ogystal â'r asiant Rob Kraitt sydd â chysylltiadau eang â thalent, cwmnïau cynhyrchu ac arianwyr.

Wrth sôn âm y penodiadau dywedodd Peter Edwards:

    "Fel yr unig asiantaeth strategol ar gyfer ffilm yng Nghymru, 'rydym yn canolbwyntio ar hybu'r agenda ffilm masnachol a diwylliannol. 'Rydym yn falch dros ben inni ennyn diddordeb ac ymrwymiad unigolion profiadol, sydd oll yn gweithio ar lefel uchel yn eu meysydd penodol, er mwyn ategu ein bwrdd presennol.  Bydd pob un ohonynt yn chwarae rhan hollbwysig wrth i ni fynd i'r afael â materion allweddol fydd yn ein galluogi i ni symud ymlaen.  Ein gobaith yw creu amgylchedd fydd yn hybu ac annog busnesau ffilm cynaliadwy, ac i wireddu'r holl fanteision ddaw yn sgil mentrau digidol yng nghyswllt arddangos a dosbarthu.


    "Yn dilyn arolwg Ian Hargreaves o holl elfennau'r diwydiannau creadigol, mae hwn yn gyfnod tyngedfenol ar gyfer ail-drefnu posib pob ffurf ar ffilm a theledu yng Nghymru. 'Rydym o'r farn bydd gan holl aelodau ein Bwrdd ran hynod o bwysig i'w chwarae wrth iddynt ddod â'u harbenigedd a'u gwybodaeth werthfawr atom, er mwyn ein cynorthwyo i chwarae rhan flaenllaw yn y drafodaeth am y cyfleoedd ddaw yn sgil Cymru Ddigidol newydd - ar y daith tuag at economi Cymru Ddigidol, ni yw'r asiantaeth dros newid."

 

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru.  Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu amrywiaeth a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sy'n bodoli yng Nghymru.

Newyddion archif

Chwarterol archif

2010 Newyddion archif

Gorfennaf – Medi 2010

Ebrill – Mehefin 2010

Ionawr – Mawrth 2010

2009 Newyddion archif

Hydref – Rhagfyr 2009

Pre 2010 archif

Archif chwarterol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006