Hyfforddiant
21 Gorffennaf 2009

Hufen Talent y Byd Ffilm yn Ewrop yn dod i Gaerdydd…
Heddiw mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi cyhoeddi mai Caerdydd a ddewiswyd i gynnal EAVE, sioe Mentrwyr Clyweled Ewrop (European Audiovisual Entrepreneurs), ym mis Tachwedd 2009. Mae ‘nawr yn gwahodd cynhyrchwyr ffilm i wneud cais i fynychu ‘Blas ar EAVE’ ('A Taste of EAVE').
Bydd 100 o oreuon y byd gwneud ffilm Ewropeaidd yn dod i Gaerdydd ar gyfer wythnos gweithdai o broffil uchel, o rwydweithio, o ddangosiadau a digwyddiadau cysylltiol, gan gyfarfod â hufen y dalent gwneud ffilm yng Nghymru, er mwyn edrych ar y posibilrwydd o gyd-gynhyrchu a’r cyfleoedd rhyngwladol sy’n bodoli ar gyfer gwneud ffilm. Uchafbwynt y digwyddiad sydd i’w gynnal yng Ngwesty St. David’s, fydd cyfres o sesiynau pitsio sy’n ymwneud â’r diwydiant, pan ddaw rhai o brif arianwyr, dosbarthwyr, cynhyrchwyr profiadol a chynrychiolwyr y farchnad Ewropeaidd wyneb yn wyneb â rhai o gynhyrchwyr mwyaf addawol Ewrop, gan gynnwys cwmni dethol o Gymru, a’r dalent sy’n cyd-weithio â nhw.
Ym myd y cyfryngau, EAVE yw un o brif asiantaethau Ewrop ar gyfer hyfforddi a datblygu prosiectau, ac maent yn cynnal amrywiaeth o raglenni ar gyfer cynhyrchwyr clyweled o Ewrop a thu hwnt, oll yn cael eu harwain gan y diwydiant. Cefnogir EAVE yn ariannol gan nifer o bartneriaid rhyngwladol gan gynnwys rhaglen EU MEDIA a Chronfa Ffilm Luxembourg, ac mae’n bodoli ers dros 20 mlynedd. Ym mysg rhai o gyn-fyfyrwyr EAVE mae nifer o brif wneuthurwyr ffilm y byd, fel cynhyrchwyr ‘The Wind that Shakes the Barley’, a enillodd wobr y Palme d’Or yn Cannes, a chynhyrchwyr ‘The Last King of Scotland’ a ‘The Counterfeiters’ a enillodd wobrau Oscar.
Craidd gweithgaredd EAVE yw’r Gweithdy ar gyfer Cynhyrchwyr
www.eave.org/workshophome.html, rhaglen ddatblygu broffesiynol sy’n para blwyddyn gyfan i gynhyrchwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau proffesiynol i lefel Ewropeaidd, a datblygu rhwydwaith gyd-gynhyrchu o wybodaeth, cysylltiadau a phartneriaid.
Cefnogir y digwyddiad gan Asiantaeth Ffilm Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Busnes Creadigol Cymru, Skillset Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Theledwyr Annibynnol Cymru (TAC). Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad mor uchelgeisiol, ar raddfa mor eang, ac sydd â phroffil mor uchel ddod i Gymru, gan gynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer y cynhyrchwyr Cymreig.
Cynhelir rhaglen ddwys EAVE o 16eg - 22ain o Dachwedd, fydd yn cynnwys gweithdy arbennig i gynhyrchwyr gyda thua 50 o gynhyrchwyr o Ewrop, o fwy na 28 o wledydd yn cymryd rhan. Yn ystod y flwyddyn bydd y cynrychiolwyr yn dilyn proses ddwys i ddatblygu eu prosiectau fydd yn diweddu mewn sesiwn Pitsio ddwys, ble fydd eu prosiectau EAVE yn dod wyneb yn wyneb â’r farchnad: byddant yn cwrdd â 40-50 o bobl sy’n "gwneud penderfyniadau" ym myd y cyfryngau yn Ewrop - yn arianwyr, yn ddarlledwyr, yn benaethiaid cronfeydd ffilm, yn ddosbarthwyr ac yn asiantaethau gwerthu.
Yn ogystal â dod a Chynhyrchwyr o Ewrop gyfan i Gymru ym mis Tachwedd, bydd EAVE hefyd yn cynnal EAVE Bach - digwyddiad ychwanegol fydd yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y diwydiant yn lleol, ac a fydd yn cynnwys gweithdai fydd wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer ateb anghenion y diwydiant ffilm yng Nghymru.
Wrth gyd-weithio ag Asiantaeth Ffilm Cymru, Skillset Cymru a Sgrin Gogledd Iwerddon, mae EAVE wedi datblygu digwyddiad ychwanegol sy’n arbennig ac yn unigryw, “Blas ar EAVE “ (" A Taste of EAVE"), sy’n rhoi cyfle i gynhyrchwyr o Gymru ac Iwerddon i gyd-weithio ag un o fentoriaid EAVE i ddatblygu prosiect hir. Ar ddiwedd y rhaglen gyffrous hon bydd y sawl sydd wedi cymryd rhan yn “Blas ar EAVE" yn ymuno â’r cyfranogwyr, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, pan ddaw EAVE i Gaerdydd ym mis Tachwedd. Mae hawl gan gynhyrchwyr o Gymru wneud cais am nawdd o Gronfa Hyfforddi Llawrydd Skillset Cymru.
"Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig dros ben sy’n rhoi cyfle tu hwnt o werthfawr i gwmnďau cynhyrchu o Gymru sefydlu a datblygu perthnasau yn y farchnad cyd-gynhyrchu Ewropeaidd a thu hwnt. Mae hefyd yn gyfle unigryw iddynt godi eu proffil a datblygu eu huchelgais busnes yn yr hir dymor," meddai
Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru.
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film
Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog a gwella’r amrywiaeth a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd yng Nghymru. Cefnogir nawdd ar gyfer datblygu a chynhyrchu ffilmiau nodwedd gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Am fanylion sut i wneud cais ar gyfer ‘Blas ar EAVE’ ewch i http://www.filmagencywales.com/training.php neu ffoniwch Anne-Marie Margerison ar 0292046 7484.
Dyddiad cau'r ceisiadau yw hanner dydd, dydd Mercher 5ed Awst.




