Bywgraffiadau'r staff
Am ymholiadau ynglŷn â materion corfforaethol a chynhyrchu ffilm
Pauline Burt
Prif Weithredwr
Ymunodd Pauline ag Asiantaeth Ffilm Cymru fel Prif Weithredwr, newydd iddo gael ei sefydlu ym Mai 2006. Treuliodd y pedair blynedd flaenorol yn gweithio i Mansfield Associates, Llundain yn y byd ariannu masnachol, i Fanc Brenhinol yr Alban a Banc Masnachol Rand, ynghyd ag eraill, fel Rheolwr Risg. Cyn hynny hi oedd pennaeth cynhyrchu Sgrin, yr Asiantaeth Gyfryngol Gymreig flaenorol.
Mae ganddi brofiad helaeth, ac wedi bod ynghlwm ag ariannu dros ddeugain o ffilmiau ledled y byd, gan gynnwys A Good Woman gan Mike Barker gyda Scarlett Johansson a Helen Hunt; Tulse Luper Suitcases gan Peter Greenaway; On A Clear Day gan Gaby Dellal – ffilm agoriadol Sundance; Creep gan y cynhyrchydd ifanc Chris Smith; Opal Dream gan Peter Cattaneo; Head in the Clouds gan John Duigan gyda Charlize Theron a Penelope Cruz; a Flick gan David Howard.
Dilynodd Pauline gwrs Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Stirling, cyn treulio blwyddyn ym Mhrifysgol enwog California Los Angeles ar Raglen Cynhyrchwyr. Yn ystod ei chyfnod yno, gweithiodd i August Entertainment, asiantaeth gwerthu ryngwladol, ac i gwmni Alan Ladd Jnr, The Ladd Company, a fu'n gyfrifol am Braveheart.
pauline@filmagencywales.com
Llinell uniongyrchol: 029 2046 7482
Ffacs uniongyrchol: 029 2046 7483
Am ymholiadau ynglŷn â phrosiectau, talent neu ddatblygiad ffilm
Keith Potter
Pennaeth Talent
A chanddo mwy nag wyth mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant ffilm, ymunodd Keith Potter ag Asiantaeth Ffilm Cymru ym mis Medi 2007 fel 'Pennaeth Talent'. Mae ganddo gyfrifoldeb i adnabod a meithrin talent Cymreig yn y byd gwneud ffilmiau.
Yn flaenorol bu Keith yn gweithio ar lechen o brosiectau sinema i Dan Films, gan gynnwys 'Blonde', ffilm arswyd a ysgrifenwyd gan yr awdur-gyfarwyddwr o Gymru Caradog James. Ef hefyd a ddatblygodd 'Triangle', prosiect diweddaraf Christopher Smith a oedd yn gyfrifol am 'Creep' a 'Severance', a 'Put Together' gan Tom Smith, awdur sydd â'i nofel gyntaf wedi ei hopsiynu gan y cyfarwyddwr Ridley Scott. Mae Keith hefyd wedi gweithio'n agos â'r nofelydd Jeff Noon yn addasu ei stori 'Creeping Zero'.
Fel aelod o fwrdd ymgynghorol yr UK Screenwriters Festival, mae Keith yn ymroddedig i ddatblygu ysgrifennu ar gyfer ffilm, ac i gyfarwyddo a chynhyrchu talent. Yn sgîl ei waith ar addasiadau, sgriptiau ar sbec a thriniaethau ar draws amrediad eang o gyllidebau a genre, drwy'r broses ddatblygu gyflawn, mae wedi datblygu perthynas gref ag asiantaethau, cyrff ariannu, cymdeithasau sgiliau ac yn bwysicaf oll, â thalent ysgrifennu a chyfarwyddo.
keith@filmagencywales.com
Llinell uniongyrchol: 029 2046 7492
Ffacs uniongyrchol: 029 2046 7493
Am ymholiadau ynglŷn â materion arddangos, gŵyl ffilm ac/neu addysg ffilm
Daniel Thomas
Rheolwr Datblygu Cynulleidfa
Ymunodd Dan Thomas â'r Asiantaeth Ffilm ym Medi 2006, ac mae'n gyfrifol am ehangu a lledaenu mynediad cynulleidfa i ffilmiau arbenigol ledled Cymru, ac am gefnogi'r sector arddangos a gweithgaredd addysgol ffilm.
Wrth dderbyn y swydd dychwelodd Dan i'w wlad enedigol, wedi iddo fod yn gweithio dros Brydain gyfan, gan gynnwys bod yn Reolwr Marchnata i UGC yn Sheffield a threulio tair blynedd yn Reolwr Busnes Sinema yn y West End yn Llundain. Yn ddiweddar bu Dan yn gweithio yn Ne-Orllewin yr Alban yn hybu rhaglennu ffilm, marchnata a mentrau addysgol mewn ffilm ar ran Scottish Screen.
Mae gan Dan dystysgrif olradd mewn Newyddiaduraeth Ffilm o'r British Film Institute, a gradd Dosbarth Cyntaf BA Anrhydedd Gyfun mewn Ysgrifennu Creadigol a Ffilm.
daniel@filmagencywales.com
Llinell uniongyrchol: 029 2046 7488
Ffacs uniongyrchol: 029 2046 7489
Am ymholiadau cyllid corfforaethol/anfonebau
Sue Milford
Swyddog Cyllid
Dechreuodd Sue ar ei gwaith rhan amser fel Rheolwr Cyllid gyda'r Asiantaeth Ffilm yn Awst 2006. Mae ganddi radd mewn Rheolaeth Cyfrifyddiaeth a Chyllid, mae'n Gyfrifwr Siartredig, ac mae wedi gweithio ym myd busnes Caerdydd ers dros 20 mlynedd. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr cyllid gyda nifer o gwmnïau lleol, yn ogystal â bod yn Bartner mewn cwmni o Gyfrifwyr Siartredig. Ar hyn o bryd mae ganddi ei chwmni ei hun, Cyfrifwyr Siartredig Isis.
sue@filmagencywales.com
Llinell uniongyrchol: 029 2046 7486
Ffacs uniongyrchol: 029 2046 7487
Datblygu talent
Adam Partridge
Gweithredwr Datblygu Talent
Ymunodd Adam â'r Asiantaeth yn Ionawr 2007, ac ef sy'n gyfrifol am gefnogi y Pennaeth Talent.
Yn y gorffennol bu Adam yn gweithio i Breakthru Films ar y prosiect ffilm Sh ac ar Peter and the Wolf , ffilm wedi'i hanimeddio. Mae hefyd wedi cyd-lynu prosiect drama dwy flynedd o hyd, ar gyfer ScriptNet, gyda gwneuthurwyr ffilm newydd yn Sierra Leone, ac mae wedi gweithio fel rheolwr cynyrchiadau ac fel cynhyrchydd ffilmiau byrion.
adam@filmagencywales.com
Llinell uniongyrchol: 029 2046 7490
Ffacs uniongyrchol: 029 2046 7491