Strategaeth gynhyrchu
I lawrlwytho'r strategaeth gynhyrchu mewn fformat pdf (79 KB)
Cyflwyniad
Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw darparu cyfleoedd i dalent newydd yng Nghymru i weld eu ffilmiau yn cael eu cynhyrchu, ac wrth wneud hyn, ehangu amrediad a nifer y ffilmiau sy'n cael eu cynhyrchu gan dalent o Gymru. 'Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi talent newydd sydd heb ei sefydlu hyd yma, yn awduron, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr; a phrosiectau ble fydd ein buddsoddiad yn gwneud cyfraniad arwyddocaol. Wrth wneud hyn 'rydym yn ceisio darparu llwyfan i arddangos talent a rhoi cychwyn i yrfaoedd, gan gyfrannu tuag at sefydlu diwydiant fydd yn gynaliadwy. Gwnawn hyn drwy:
- Gynnig cyngor a chymorth fydd yn berthnasol i bob prosiect unigol drwy adnabod, paratoi ar gyfer, nesáu tuag at ac ymdrin â chyllidwyr trydydd parti, dosbarthwyr a/neu asiantaethau gwerthu a marchnadoedd diwydiant;
- Ehangu a gwella proffil y talent ar gyfer cyllidwyr trydydd parti, y dosbarthwyr, yr arianwyr a chyfleoedd eraill o fewn y farchnad;
- Darparu cyd-ariannu ar gyfer 2-3 ffilm cyllid isel bob blwyddyn;
- Gefnogi talent newydd gyda chymorth personél a chynghorwyr profiadol, ble fydd hynny'n addas, a hwyluso mynediad at gyfleoedd hyfforddi fydd yn cynnig hyfforddiant ymarferol ym maes cynhyrchu, ble fydd hynny'n bosib;
- Gynnig cyngor a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â chyfleoedd o fewn y diwydiant a hwyluso mynediad iddynt ble mae hynny'n bosib.
Egwyddorion arweiniol
Wrth gynnig y gwasanaeth hwn, bydd yr Asiantaeth yn gweithredu gan ddilyn yr egwyddorion arweiniol canlynol:
- 'Rydym yn gweithredu polisi cyflwyno 'drws agored' parhaol. Hynny yw, byddwn yn derbyn cyflwyniadau ar unrhyw adeg, gan unrhyw un, a byddwn yn ymateb yn gyflym, yn wybodus ac yn gwrtais bob tro. Bydd penderfyniadau cyllido o fwy na £50k yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Bwrdd.
- 'Rydym yn bwriadu cefnogi cynhyrchu'r prosiectau hynny sydd â photensial i fod o fudd i dalent gwneuthurwyr ffilm Cymru. Bydd y ffocws pennaf yn cael ei roi i brosiectau sy'n cynnwys unrhyw un o'r talentau canlynol: awduron, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr/cwmnïau cynhyrchu. Bydd raid i brosiectau heb y mewnbwn uchod ddangos budd i Gymru drwy ddulliau amgen, fel cynnig cyfleoedd mentora i ddarpar-gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a Phenaethiaid Adrannau, a chastio arwyddocaol (ble mae hynny'n bosib) a dethol criw ar draws pob graddfa, hyd yr eithaf posib.
- 'Rydym yn annog gwario gymaint â phosib o'r gyllideb yng Nghymru drwy ddefnyddio cast a chriw o Gymru, o bob gradd, a thrwy ddefnyddio cyfleusterau Cymreig ble bynnag mae hynny'n ymarferol. Fodd bynnag, ein prif gonsyrn wrth ddosrannu nawdd ar gyfer unrhyw gynhyrchiad fydd y cyfranogiad o dalent greadigol Gymreig allweddol (awduron, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr). Bydd hyn yn cynnwys cefnogi prosiectau a fydd efallai'n cael eu ffilmio y tu allan i Gymru, naill ai mewn rhan arall o Brydain neu yn rhyngwladol.
- 'Rydym yn annog cynhyrchu prosiectau sydd yn wreiddiol ac sy'n berchen ar gryfderau creadigol, sydd â llais cryf, unigryw, yn llawn dychymyg, ac sydd hefyd yn arbrofol ac yn arloesol, ble mae hynny'n addas.
- Prif fwriad yr Asiantaeth yw cynhyrchu ffilmiau hir ar gyfer dosbarthu theatrig. Nid ydym yn rhagweld cefnogi cynlluniau ar gyfer Ffilmiau Byr ar hyn o bryd.
- Hyderwn y bydd ein hamcanion yn fanteisiol, ac na fyddwn yn dyblygu gwaith sefydliadau a/neu arianwyr eraill. Felly 'rydym yn gweithio'n agos â chwmnïau fel Cronfa Gyllid IP Cymru, Cyngor Ffilm DU, darlledwyr a Skillset, er mwyn gweld pa gyfleoedd fydd ganddynt hwy i'w cynnig ar gyfer y prosiectau a'r talent byddwn ni'n dod ar ei draws, yn ogystal ag adnabod ffyrdd y gallwn ni gyd-weithio er mwyn llwyddo i gyrraedd y bwriadau a'r amcanion sy'n gyffredin i ni.
- 'Rydym yn cefnogi cynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, ac unrhyw iaith arall a allai fod yn addas i brosiect arbennig.
- 'Rydym yn bwriadau cefnogi prosiectau sydd â chynulleidfa graidd benodol, sydd yn . addas i'w cyllideb.
- 'Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio pobl dan hyfforddiant ar draws amrediad y gweithgareddau cynhyrchu a bydd rhaid i'r sawl sy'n derbyn nawdd gyfrannu tuag at Gronfa Buddsoddi Sgiliau.
- 'Rydym yn cefnogi cod arferion gorau'r diwydiant a chytundebau sy'n ymwneud â chyflog teg.
Gweithgareddau craidd
Gweithgarwch cynhyrchu craidd yr Asiantaeth yw cynnig cyngor penodol ar gyfer prosiect arbennig, a hwyluso mynediad i ariannwr/dosbarthwr trydydd parti; yn arbennig er mwyn cynyddu cyfleoedd cynhyrchu a chefnogi talent newydd a thalent sydd heb ei sefydlu, ac i ehangu'r amrywiaeth o ffilmiau sydd yn cael eu gwneud gan y talent Cymreig. Wrth gyflawni'r gweithgareddau craidd hyn byddwn yn:
- Darparu gwasanaeth gwybodaeth, fydd yn cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â chynhyrchu ffilm a hyfforddiant i'r cyfeiriad priodol. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wefan gynhwysfawr a digwyddiadau 'mynediad agored', ble gall yr Asiantaeth gyflwyno ei chynlluniau a'i gweithgareddau, a ble gall unrhyw un sydd â diddordeb gyfarfod â thîm yr Asiantaeth a thrafod pynciau o ddiddordeb.
- Darparu cyngor a chymorth ar gyfer pob prosiect penodol mewn ymateb i'r cynigion a ddaw i law. 'Rydym yn bwriadu cefnogi'r cynhyrchwyr drwy gyd-weithio'n agos â nhw a hybu potensial ariannu a dosbarthu eu prosiectau ymhellach. Mewn rhai achosion byddwn yn cynghori datblygiad pellach, ac efallai byddai cyflwyniad i'r Gronfa Ddatblygu yn briodol er mwyn cael cefnogaeth i'r gwaith.
- Darparu gweithdai a threfnu cyfarfodydd penodol ar gyfer y prosiect er mwyn cael gwybodaeth am fynediad i'r diwydiant. Bydd y rhain yn cael eu cynnal gan gynghorwyr, arbenigwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau sy'n gweithio yn y diwydiant.
- Darparu cyd-gyllido ar gyfer isafswm o 2-3 ffilm y flwyddyn – cynyrchiadau o gyllid isel. Bydd y cyllid ar gyfer y ffilmiau hir hyn, lle bwriedir eu dangos mewn theatrau, fel arfer rhwng £400,000 a £750,000. Byddwn hefyd yn cysidro prosiectau o gyllid isel iawn (yn unol â'r hyn sy'n digwydd yn bresennol – ffilmiau o £50,000 – £100,000), os ydynt yn cydymffurfio â'n Egwyddorion Arweiniol, gan gynnwys cod arferion gorau'r diwydiant a chytundebau cyflog teg. Gall ein buddsoddiad fod hyd at 50% o'r gyllideb, neu £200,000 y prosiect, p'run bynnag yw'r swm isaf. Bydd yr Asiantaeth yn penderfynu beth fydd y cyfraniad ariannol addas ar sail bob prosiect yn unigol. Mae'r Asiantaeth yn cydnabod fod ffilmiau cyllid isel o'r natur yma yn gosod cyfyngiadau penodol ar y math o ffilm a all gael ei chefnogi, ac felly'n gorfod diystyru drama gyfnod ddrud a chomedïau rhamantus, sydd fel arfer yn gofyn am gast adnabyddus er mwyn treiddio'r farchnad. Yn hytrach, mae'r cyllidebau hyn yn cynnig eu hunain i wneuthurwyr ffilm 'auteur' a ffilmiau 'genre', fel storïau arswyd a storïau ias a chyffro. 'Rydym bob tro'n agored i gynigion arloesol. Wrth asesu prosiectau sydd eisoes wedi derbyn nawdd gan gynllun cyllid-meicro Cyngor Celfyddydau Cymru, byddwn yn eu hail-werthuso ynghyd â bwriadau ac amcanion yr Asiantaeth ac ochr yn ochr â chyflwyniadau eraill sydd wedi eu derbyn drwy drefn 'mynediad agored' yr Asiantaeth.
- Ble bynnag fydd talent newydd yn cael ei ddefnyddio mewn prosiect sydd wedi ei gyd-ariannu gan yr Asiantaeth, byddwn yn ceisio eu hamgylchynu â chriw, mentoriaid a goruchwylwyr profiadol, fel bydd yn addas. Bydd raid i bob prosiect sy'n cael ei ariannu gan yr Asiantaeth gynnig cyfleoedd hyfforddiant arwyddocaol ar draws amrediad o raddfeydd, a byddwn yn cyd-weithio gyda chi a gyda sefydliadau hyfforddi er mwyn gwneud y defnydd gorau ohonynt.
Gweithgareddau ychwanegol
Yn ogystal â'n gweithgareddau craidd, byddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol pan fydd y rheiny'n hyrwyddo Bwriadau ac Amcanion yr Asiantaeth, ac yn dangos budd sylweddol i dalent gwneuthurwyr ffilm yng Nghymru, ble mae cyfyngiadau'r gyllideb yn caniatáu. Er enghraifft, byddwn yn:
- Ystyried ceisiadau ar gyfer nawdd i gwblhau ffilmiau theatrig hir sy'n cyd-fynd â'n Egwyddorion Arweiniol a lle gellir gweld budd penodol i'r farchnad.
- Gweithio â Skillset, Cyfle, Cronfa'r IP, Comisiwn Lleoliad a chyrff eraill i ddatblygu system integredig i ddilyn cyfleoedd hyfforddi ymarferol sydd eisoes yn bodoli, neu fydd yn ymddangos yn y dyfodol, ar brosiectau hir i gydlynu adnabyddiaeth, asesiad a lleoli gweithwyr ffilm dan hyfforddiant.


