Canllawiau cynhyrchu'r Asiantaeth Ffilm
I lawrlwytho'r canllawiau cynhyrchu mewn fformat pdf (164 KB)
Amcanion cyffredinol a phenodol
Bwriad yr Asiantaeth yw darparu cyfleoedd newydd i alluogi gwneuthurwyr ffilm Cymreig i gynhyrchu eu ffilmiau, gan ehangu ystod a nifer y ffilmiau sy'n cael eu gwneud. Byddwn yn canolbwyntio'n arbennig ar gefnogi talent newydd a thalent sydd heb ei sefydlu hyd yma, gan ffocysu ar awduron, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, ac ar brosiectau ble fydd ein buddsoddiad yn gwneud cyfraniad arwyddocaol.
Mae'r Asiantaeth yn cynnig:
- cyngor a chymorth perthnasol drwy adnabod, paratoi ar gyfer, nesáu tuag at ac ymdrin ag arianwyr trydydd parti posib, dosbarthwyr a/neu asiantaethau gwerthu a marchnadoedd diwydiant;
- cymorth i godi proffil talent ar gyfer arianwyr trydydd parti, dosbarthwyr, comisiynwyr a digwyddiadau'r farchnad;
- cyd-ariannu lleiafswm o 2-3 ffilm cyllid isel bob blwyddyn;
- cefnogi talent newydd gyda chymorth personél a chynghorwyr profiadol, ble fydd hynny'n addas, a hwyluso mynediad at gyfleoedd hyfforddi fydd yn cynnig hyfforddiant ymarferol yn y maes cynhyrchu, ble fydd hynny'n bosib;
- cyngor a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â chyfleoedd o fewn y diwydiant a hwyluso mynediad atynt, ble mae hynny'n bosib.
Byddwch cystal â darllen Strategaeth Cynhyrchu'r Asiantaeth am fanylion pellach ar flaenoriaethau ariannu.
Cymhwyster
Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu derbyn ar unrhyw amser ac unrhyw adeg yn natblygiad pecynnu'r cynhyrchiad, ond mae'n rhaid iddynt gael eu cyflwyno gan gwmni cynhyrchu, nid gan unigolyn.
Gellir gwneud cais ar gyfer un o ddwy lefel o gefnogaeth: Cyllid Cynhyrchu neu Gyllid Cloi'r Cynhyrchiad.
Ni fydd yr Asiantaeth yn debygol o gyflwyno arian hyd nes bydd rhywfaint o gyllid gan bartneriaid wedi ei gadarnhau yn barod. Fodd bynnag, os bydd y prosiect, mewn egwyddor, yn un diddorol byddwn yn cyd-weithio â'r cynhyrchydd er mwyn hyrwyddo adnabod a chodi nawdd gan bartneriaid posib. Er mwyn gwneud hyn efallai y byddwn yn gyrru llythyrau o ddiddordeb yn nodi ymrwymiad posib yr Asiantaeth, ond ni fydd y rhain yn cael eu dosbarthu ar bob achlysur. Pan fydd prosiect wedi codi rhywfaint/y mwyafrif o'r arian drwy bartneriaeth, ond heb eto gwblhau'r ariannu, gallwn gyhoeddi llythyr o fwriad, fel arwydd pellach fod ariannu yn debygol, cyn symud ymlaen at gynnig cyflawn. Unwaith eto, ni fydd y llythyrau hyn yn cael eu rhannu i bawb, ar bob achlysur, ond byddant yn dangos pa mor gryf yw awydd yr Asiantaeth i barhau â'r prosiect, a gellid defnyddio hwn ar gyfer nesáu tuag at ddarpar gyd-arianwyr, dosbarthwyr, a/neu asiantaethau gwerthu.
Gall yr Asiantaeth ariannu hyd at 50% o gostau cymwys y cynhyrchiad, hyd at fwyafswm o £200,000 y prosiect. Yn yr un modd, mae cap o 50% ar y cyllid ar gyfer gwaith cymwys sydd heb gael ei gwblhau eto ar gyfer Cyllid Cloi'r Cynhyrchiad. Fodd bynnag, ar adegau fel hyn ni fyddwn yn arferol yn cynnig cyllid o fwy na £50,000. Gellir cyfuno'r cyllid a ffynonellau Loteri eraill, ar yr amod nad yw cyfraniad cyfan y Loteri yn fwy na 50% o'r cyllid.
Criteria dewis
Pan fyddwn yn dewis prosiectau byddwn yn ystyried y criteria canlynol:
- ansawdd, potensial a gwreiddioldeb y gwaith;
- y budd i wneuthurwyr ffilm Cymreig a lefel o gyfranogiad gan dalent Gymreig allweddol;
- cymhwyster y prosiect yn nhermau cyllid a phartneriaeth ariannu, a gallu personél allweddol;
- cymhwyster y prosiect i gael ei hadnabod fel ffilm Brydeinig, yn dilyn termau'r Ddeddf Ffilm 1985 (Diwygiedig 1999). (Edrychwch ar wefan DCMS am fanylion pellach: www.culture.gov.uk).
- apêl marchnad y prosiect. Dylai'r cais ddangos yn glir pwy yw cynulleidfa graidd y prosiect – sut i'w hadnabod a sut i'w chyrraedd – o fewn cyfyngiadau'r gyllideb.
Yn ychwanegol i'r uchod mae'n rhaid i'r Asiantaeth ddilyn cyfarwyddiadau ar gyfer asesu ceisiadau sydd wedi eu gosod gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1993 (Diwygiedig 1998). Gweler Atodiad 1.
Tref gwneud cais
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais. Gellir llawr lwytho hon o'r wefan a'i chyflwyno fel copi caled, neu gallwch gysylltu â'r Asiantaeth er mwyn i ni yrru copi caled atoch chi.
Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn drwy gydol y flwyddyn.
Penderfyniadau ariannu
Bydd penderfyniadau hyd at £25,000 yn cael eu gwneud gan y Prif Weithredwr, y Pennaeth Talent a'r Swyddog Datblygu Talent.
Bydd penderfyniadau ar geisiadau ariannol rhwng £25,000 a £50,000 yn cael eu gwneud gan yr uchod a gan Gadeirydd Bwrdd yr Asiantaeth.
Bydd penderfyniadau ariannol ar fwy na £50,000 yn rhwym i gymeradwyaeth y Bwrdd.
Bydd pob penderfyniad yn cael ei gadarnhau drwy lythyr.
Pan na fydd prosiect yn llwyddiannus byddwn yn darparu esboniad byr.
Pan fyddwn yn ystyried fod potensial gan brosiect, ond nad yw wedi ei ddatblygu yn ddigonol i gael cynnig cefnogaeth ariannol, gellir cyhoeddi llythyr o ddiddordeb neu o fwriad (fel uchod).
Bydd llythyrau o gynnig yn manylu ar amodau penodol o ariannu yn ogystal ag amodau arferol yr Asiantaeth.
Dyfarniadau ac amodau
Mae'r cynnig o gyllid yn parhau ar agor am gyfnod penodol, a bydd manylion am hyn yn y llythyr o gynnig. Os na fydd defnydd o'r arian yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn, efallai y byddwn yn tynnu'r cynnig yn ôl.
Mae prosiectau sy'n derbyn nawdd yn dibynnu ar gytundeb cynhyrchu, sy'n cynnwys cynllun ariannu, sy'n diffinio cynllun taliad ac amodau ad-daliad fydd yn cael eu penderfynu ar sail prosiect-wrth-brosiect. Byddwn fel arfer yn disgwyl adennill pro rata gydag arianwyr ecwiti eraill, a byth yn llai ffafriol nag unrhyw ariannu cyhoeddus arall beth bynnag fo'n digwydd. Bydd amodau arferol y Loteri hefyd yn cael eu gweithredu (bydd y rhain ar gael gyda phob llythyr o gynnig).
Bydd prosiectau'n cael eu gweld yn gyntaf gan y Prif Swyddog Gweithredol, gyda chefnogaeth y Pennaeth Talent, mewn cydweithrediad â'r cynhyrchwyr. Bydd yr Asiantaeth yn ymddwyn yn ymarferol ac yn greadigol, er ein bod yn cydnabod fod y math o gefnogaeth fydd ei hangen yn cael ei haddasu ar gyfer amgylchiadau pob prosiect.
Bydd yn rhaid i'r Asiantaeth gymeradwyo pob trefniant cyllid ac unrhyw newidiadau arwyddocaol i'r prosiect. Efallai y bydd yn tynnu'r nawdd yn ôl, neu yn lleihau'r nawdd, yn sgil newidiadau o'r fath.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd o'ch prosiect cyn gwneud y cais, cysylltwch â:
Keith Potter
Pennaeth Talent
Asiantaeth Ffilm Cymru
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd
CF10 5LH
E-bost: keith@filmagencywales.com
Atodiad 1
Mae Deddf y Loteri Genedlaethol 1993 (Diwygiedig 1998) yn amlinellu'r criteria allweddol y dylid eu hystyried wrth wneud cais am nawdd. Mae'r Asiantaeth yn dehongli'r rhain fel a ganlyn:
Ansawdd artistig
Mae'r Asiantaeth yn ceisio cefnogi gwneud ffilmiau gwreiddiol a dramatig.
Budd cyhoeddus
Gellir llwyddo i wneud hyn drwy amrywio ystod y deunydd sinematig sydd ar gael; rhoi proffil i dalent newydd neu ehangu'r gynrychiolaeth o gymunedau sydd heb gael sylw digonol yn y gorffennol.
Datblygiadau newydd
Nid oes modd cyfnewid cronfeydd y Loteri. Hynny yw, ni ddylid eu defnyddio yn lle ffynonhellau eraill o nawdd sydd ar gael i unrhyw brosiect. Gellir eu defnyddio, fodd bynnag, i godi buddsoddiad ychwanegol i brosiectau. Gellir defnyddio ein nawdd mewn partneriaeth ag arianwyr Loteri eraill, ond yn rhwym i gap cyflawn o 50% o ffynonhellau Loteri.
Ymarferoldeb ariannol
Byddwn yn ystyried ymarferoldeb ariannol y prosiect a chydnawsedd yr elfennau ariannol eraill gyda thermau ariannu'r Loteri. Mae angen i'r ceisiadau gael eu cyllido'n addas ar gyfer cynulleidfa darged y prosiect a'r farchnad derfynol.
Cyllid partneriaeth
Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o arian datblygu trydydd parti neu lefelau addas o gefnogaeth 'mewn ffyrdd eraill'.
Angen
Clir Mae'r Asiantaeth yn dymuno cefnogi prosiectau ffilm sydd yn debygol o gael dosbarthiad llwyddiannus.
Rheolaeth effeithiol
Mae'r Asiantaeth yn gyfrifol am wariant arian cyhoeddus, ac felly mae'n rhaid iddo fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn debygol i gyflawni o fewn cyllideb, ac ar amser, ac i ddefnyddio'r ariannu ar gyfer y rhesymau pwrpasol.


