Gynhyrchu
Dymuniad Asiantaeth Ffilm Cymru yw cynyddu amrywiaeth a nifer y ffilmiau sy'n cael eu cynhyrchu gan dalent Cymreig profiadol a newydd. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cefnogi awduron, awduron-gyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru.
Mae ein drws ar agor ar gyfer sgwrs anffurfiol, hyd yn oed os nad oes bwriad i wneud cais ariannol ffurfiol, a 'rydym yn fwy na bodlon cynnig cyngor, i roi gwybodaeth ac i gynnig cysylltiadau ble bynnag mae hynny'n bosib.
Drwy ein harian loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gallwn, ar hyn o bryd, gyfrannu hyd at £200,000 i ffilmiau theatrig, gan gynnwys dogfennau hir sy'n ateb y gofynion ffilm Prydeinig. Gallwn gyd-ariannu gydag arianwyr Cymreig eraill, Derwen, er enghraifft, yn ogystal â chyd-ariannu ochr yn ochr â chyrff y Loteri (yn ddibynnol ar uchafswm o 50% o'r cyllid cyfan) gan gynnwys yr UK Film Council, Scottish Screen, Comisiwn Screen Gogledd Iwerddon a'r amrywiol Asiantaethau Sgrin Rhanbarthol.
Bydd pob prosiect yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a phob cais yn cael ei drin â pharch.
Am wybodaeth bellach neu i gychwyn sgwrs, cysylltwch â:
Keith Potter
Pennaeth Talent
Direct dial: 029 2046 7492
Keith@filmagencywales.com


