Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi ymrwymo i barchu ac i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae ein Polisi Preifatrwydd Ar-lein yn rhoi manylion am arferion gwybodaeth Asiantaeth Ffilm Cymru ar y we.

Mae gwefan (y "Safle") Asiantaeth Ffilm Cymru'n gweithredu fel ystorfa wybodaeth, sy'n cynnwys gwybodaeth am Asiantaeth Ffilm Cymru, ac am adnoddau. Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn yn ofalus cyn defnyddio'r Safle. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn cael ei weithredu ar gyfer Asiantaeth Ffilm Cymru'n unig, ac nid ar gyfer unrhyw wefan arall sy'n cael ei reoli gan gwmnïau a chyrff eraill 'rydym yn cysylltu â nhw.

Gwybodaeth a Gesglir gan Asiantaeth Ffilm Cymru

Gwybodaeth Ganfyddadwy-nad-yw'n-Bersonol

Pan ymwelwch â'n Safle, efallai byddwn yn cadw peth gwybodaeth ar yriant caled mewn ffurf "cwci". Ffeiliau testun yw cwcis sy'n galluogi ein gwasanaethwr i adnabod eich cyfrifiadur, ac nid ydynt yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol. Efallai byddwn yn defnyddio cwcis i bersonoli eich profiad wrth ddefnyddio ein Safle. Er mwyn gwneud hyn, efallai bydd y cwcis 'rydym yn eu defnyddio yn cofnodi gwybodaeth ganfyddadwy-nad-yw'n-bersonol, sy'n ymwneud â'r hyn sydd orau gennych chi ei weld ar dudalennau arbennig o'r we. Efallai byddwn hefyd yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ganfyddadwy-nad-yw'n-bersonol i'n cynorthwyo i ddadansoddi tueddiadau, i olrhain symudiadau ein defnyddwyr, ac i gasglu gwybodaeth ystadegol fras ar gyfer defnydd cyfanredol.