Datganiad polisi cyfle cyfartal
- Mae Asiantaeth Ffilm Cymru (AFfC) wedi ymrwymo i bolisi o gyfle cyfartal.
- Bydd AFfC yn ceisio sicrhau na fydd unrhyw weithiwr presennol, nag unrhyw ddarpar weithiwr, nag unrhyw unigolyn neu gwmni sydd yn cysylltu â'r sefydliad ynglŷn â nawdd, cyfleodd hyfforddi neu i ofyn am gyngor, yn cael ei drin yn fwy nag yn llai ffafriol na'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys termau ac amodau gwaith, ar sail anabledd, crefydd, hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig, statws priodasol, rhyw neu ogwydd rhywiol.
- Mae'r criteria a'r dulliau dewis yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod unigolion yn cael eu penodi ar sail eu rhinweddau a'u galluoedd.
- Dyletswydd pob gweithiwr yw derbyn cyfrifoldeb personol am weithredu'r polisi yn ymarferol, ond ar yr un pryd, mae AFfC yn cydnabod fod gan y staff rheoli a'r staff arolygol gyfrifoldebau penodol.
- Gall unrhyw ymgeisydd neu weithiwr sy'n credu ei fod ef/hi wedi ei drin/ei thrin yn annheg ysgrifennu at Brif Weithredwr AFfC fydd yn ymchwilio i'r gŵyn.
- Ni fydd AFfC yn goddef unrhyw wahaniaethu annheg yn erbyn ei staff gan unrhyw un o'r gweithwyr neu unrhyw berson arall sydd yng ngwasanaeth AFfC. Bydd Prif Weithredwr AFfC yn ymchwilio i unrhyw gwyn fydd yn cael ei wneud gan unrhyw weithiwr sy'n credu iddo ef/hi gael ei drin/thrin yn annheg.
Mehefin 2006