Newyddion yr Asiantaeth Ffilm
Cynnig Syniad i ennill
Tachwedd 14, 2006
Mae dau newydd-ddyfodiad i'r diwydiant ffilm wedi ennill gwobr o £2,500 yr un, wedi iddynt ddod yn fuddugol mewn sesiwn agored yr Asiantaeth Ffilm Cymru – Cynnig Syniad i Ennill! Llwyddodd Aled Roberts o Lanelli ac Anthony James o Gaerdydd ddarbwyllo'r gynulleidfa a'r beirniaid mae eu syniad hwy oedd orau wedi sesiwn o gynnig syniadau, a gynlluniwyd fel platform ar gyfer hybu talent ifanc ym myd y ffilm yng Nghymru. Y stori gyflawn
Asiantaeth newydd yn rhoi ffilm yn gyntaf
Tachwedd 14, 2006
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru, â sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith y bobl sydd yn gweithio neu yn ymgeisio i weithio o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru -yn cael ei lansio heddiw fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ffilm Caerdydd. Y stori gyflawn
Dau aelod newydd yn ymuno â'r asianaeth ffilm
Hydref 16, 2006
Mae dau aelod newydd wedi cael eu apwyntio i ymuno â Asiantaeth Ffilm Cymru. Daniel Thomas a Sue Milford sy'n ymuno â thim rheoli yr Asiantaeth â arweinir gan y Prif Weithredwr Pauline Burt, ac fe'u lleolir ym Mae Caerdydd gyda'r briff o hyrwyddo diwydiant ffilm lwyddiannus a blaengar yng Nghymru. Y stori gyflawn
Talent ar y top
Hydref 12, 2006
Mae'r Asiantaeth Ffilm Cymru, sy'n sefydliad newydd gyda'r nôd o sicrhau bod y Diwydiant Ffilm yng Nghymru yn un hyfyw a chynaliadwy, wedi apwyntio tim o weithwyr talentog. Y Prif Weithredwr Pauline Burt sy'n arwain yr Asiantaeth ac yn ymuno â hi fydd Britt Harrison fel Pennaeth Talent. Caiff yr Asiantaeth ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ffilm y DG. Y stori gyflawn
Pedair Wal i'r Asiantaeth Ffilm
Hydref 5, 2006
Cyhoeddodd Asiantaeth Ffilm Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar fod ei pencadlys newydd am gael ei leoli ym Mae Caerdydd. Symudodd yr Asiantaeth, sef yr unig asiantaeth ffilm Gymreig, i mewn i'w swyddfeydd yn 33-35 West Bute St sydd gerllaw nifer o sefydliadau eraill sydd yn gweithio o fewn y sector diwydiant creadigol yng Nghymru, er enghraifft Busnes Creadigol Cymru, Skillset, Cyfle, y Welsh Music Foundation, NESTA a Griff Films. Y stori gyflawn
Archif chwarterol
2007
2006


