Film Agency News
25th May 2009

Michael Sheen yn datgelu ei gyfrinachau i blant ysgolion Cymru
Ysbrydolwyd FILMCLUB gan y syniad fod ffilm yn gallu ehangu’r meddwl mewn ffyrdd gwbl anghyffredin ac annisgwyl, ac mae wedi rhoi cyfle i ddisgyblion weld miloedd o ffilmiau clasurol a phoblogaidd yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd cynllun peilot sy’n cael ei weithredu yng Nghymru, ac mae’r fenter yn denu cefnogaeth rai o brif ffigyrau ein diwydiant ffilm.
Ddydd Llun, Mai 18 aeth y seren ffilm o Gymru, Michael Sheen, sy’n fwyaf adnabyddus am "The Damned United", "Frost Nixon" a "The Queen" - ffilm a enillodd wobrau Oscar - i ymweld ag aelodau FILMCLUB Ysgol Gymunedol Sir y Porth. Siaradodd am ei deimladau angerddol tuag at ffilm, ac am y tair ffilm fu’n bennaf gyfrifol am ei ysbrydoli ef, "Apocalypse Now", "A Matter of Life and Death" a "The Great Escape". Dangoswyd clipiau o’r ffilmiau a chynhaliwyd sesiwn Cwestiwn ac Ateb. Aeth 45 o bobl ifanc rhwng 11-18 mlwydd oed o Ysgol Sir y Porth, a rhai o ddisgyblion Ysgol Tonypandy i’r digwyddiad, sy’n rhan o Gynllun 'Close Encounters' FILMCLUB, cynllun sydd wedi ei anelu at ddod â’r diwylliant ffilm yn uniongyrchol at bobl ifanc mewn modd creadigol a deniadol.
Mae Michael, a dderbyniodd OBE yn gynharach eleni am ei wasanaeth i Ddrama, yn gefnogwr brwd o FILMCLUB. Mae’n un o nifer o enwogion sydd wedi cyfrannu i’r tymor newydd "Ffilmiau a Newidiodd Fy Mywyd", sy’n dangos sut gall ffilm ysbrydoli ac effeithio ar ein bywydau.
"Mae FILMCLUB yn fenter ysbrydoledig sy’n rhoi cyfle i blant fwynhau a thrafod ffilm mewn modd hwylus a hawdd i’w ddeall," meddai. "Mae’n gyffrous meddwl beth allai ddigwydd, a dychmygu beth fydd rhai o’r plant hyn yn ei gyflawni."
Yn gweithio ar y cyd gydag Asiantaeth Ffilm Cymru, Academi Sgrin Cymru Skillset, a’r elusen genedlaethol Continyou Cymru, mae dwy ar bymtheg o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru wedi ymuno â FILMCLUB fel rhan o’r cynllun peilot cychwynnol hwn, a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth ar gael i bob ysgol yng Nghymru yn ddiweddarach eleni.
Wrth wylio amrediad eang o ffilmiau, a thrwy gyfarfod â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant ffilm, mae FILMCLUB yn annog ehangu gwybodaeth am ffilm, codi uchelgais, a bod o gymorth i ddatblygu sgiliau beirniadol a chymdeithasol drwy archwilio ac ymwneud â’r byd ffilm.
Bob wythnos, trwy garedigrwydd LOVEFILM, gall disgyblion ddewis o fwy na 60,000 o wahanol ffilmiau. Ar hyn o bryd mae 1,500 ohonynt wedi eu trefnu mewn tymhorau arbennig sy’n apelio’n uniongyrchol at bobl ifanc. Gall yr aelodau hefyd gofnodi eu hadolygiadau ffilm eu hunain, gymryd rhan mewn cystadlaethau a darganfod mwy am y diwydiant, drwy gynnal cyfweliadau a sgyrsiau byw ar y we gyda’r ymarferwyr ffilm sy’n cyfrannu i wefan FILMCLUB. Gwahoddir athrawon i gymryd rhan mewn sesiynau anwytho rhad ac am ddim, ac i dderbyn cefnogaeth barhaus drwy’r we neu dros y ffôn.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru: "Cynlluniwyd FILMCLUB i ysbrydoli disgyblion ynglyn â phob agwedd o ffilm ac i roi syniad da iddynt am y diwydiant. Mae’n gyfle gwych i’r disgyblion hyn gwrdd â seren fel Michael Sheen. ‘Rwy’n siwr iddo danio dychymyg ein pobl ifanc, ac i ehangu eu gorwelion."
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sy’n bodoli yng Nghymru.
- Diwedd -




