Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

11th May 2009

Mark John

A BOY CALLED DAD, ffilm nodwedd gyntaf Mark John o Gaerdydd, yn cael ei derbyn i 63ain Gwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.

Mae A BOY CALLED DAD, ffilm nodwedd gyntaf y cynhyrchydd o Gaerdydd Mark John, wedi cael ei derbyn gan Wyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, gwyl bwysig dros ben.

Cyhoeddwyd cynnwys yr wyl heddiw (6 Mai 2009), a bydd A BOY CALLED DAD yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar ail noson y rhaglen (18 Mehefin am 8pm).

Saethwyd y ffilm dros gyfnod o chwe wythnos ar leoliad yng Ngogledd Cymru, ar Lannau Merswy ac yn Nottingham. Sęr y ffilm yw Ian Hart (Harry Potter and the Philosopher's Stone, Backbeat, Land and Freedom) a Kyle Ward, 15 oed, sy'n ymddangos ar y sgrin fawr am y tro cyntaf erioed. Ysgrifennwyd A BOY CALLED DAD gan Julie Rutterford, a Brian Percival sy'n cyfarwyddo. Dyma'r tro cyntaf i Brian Percival gyfarwyddo ffilm ar gyfer y sgrin fawr, er ei fod eisoes yn adnabyddus am weithio ym myd y teledu yn dilyn North and South, Clocking Off, Much Ado About Nothing, ac yn fwy diweddar Ruby in the Smoke, gyda Billie Piper a Julie Walters.

Cyd-gynhyrchwyd A BOY CALLED DAD gan Mark John sy'n gweithio i'r cwmni annibynnol o Gaerdydd, Vision Thing Communications, a Michael Knowles a Stacey Murray o Made Up North Productions, sydd wedi eu sefydlu yn Swydd Derby. Mae eu llwyddiannau hwy'n cynnwys Talking with Angels, rhaglen sydd wedi ennil gwobr BAFTA.

Arianwyd A BOY CALLED DAD gan Asiantaeth Ffilm Cymru, EM Media, North West Vision ac arianwyr preifat, ac mae'n adrodd stori ddoniol-ddu, hanes Robbie, bachgen pedair ar ddeg oed o Lerpwl, sydd wedi ei ddiffinio gan absenoldeb ei dad, a ddiflannodd pan oedd Robbie yn ddwy oed.

Nid oes unrhyw bwrpas i fywyd Robbie, mae wedi diflasu ac yn teimlo'n rhwystredig. Treulia ei amser yn sglefrfyrddio gyda'i ffrindiau ac yn ceisio'i orau i beidio â chael ei weld gyda'i niwsans o chwaer fach - nes mae popeth yn newid, pan ddaw Robbie ei hun yn dad yn ei arddegau. Wedi cipio'i blentyn o afael llys-dad treisgar mae'n ffoi i Ogledd Cymru - gan fwydo bwydydd parod i'r babi a chanu hwiangerddi ar ffurf rap iddo.

Erbyn hyn un peth yn unig mae Robbie ei eisiau mewn bywyd ... yr hawl i fod yn rhiant i'w blentyn ei hun ... ond sut allwch chi fod yn dad da, pan 'rydych chi dal yn blentyn eich hun? Mae A BOY CALLED DAD yn ffilm am yr angen am gariad, am fod yn dad ac am dyfu i fyny yn gyflym.

Wedi cychwyn ei yrfa yn y byd darlledu, mae'r cynhyrchydd Mark John wedi graddio o'r rhaglen ffilm Ewropeaidd enwog EAVE, ac mae wedi gweithio'n eang mewn teledu a radio, ar raglenni cerddorol, celfyddydol, comedi a drama. Erbyn hyn ef yw cydlynydd Cymru i EAVE.

Meddai Mark John:

"'Roedd hi'n wych cael saethu fy ffilm nodwedd gyntaf adref yng Nghymru - 'roedd ein lleoliad, y Gogarth Fawr, ar arfordir Gogledd Cymru, ar ei orau yn arw ac yn ddramatig; 'roedd yr amgylchiadau'n sialens. Mae gennym olygfeydd ffantastig - yn llythrennol ar fin y dibyn - diolch i'r dalent wych oedd gennym, fel Ian Hart o Lerpwl, a'r actor bach newydd Kyle Ward, sy'n cyrraedd llawn oed yn y ffilm hon.

"Cawsom gyngor am y lleoliadau a chefnogaeth heb ei ail gan Gomisiwn Sgrin Cymru, a chefnogaeth cyson a pharhaol gan dîm rhagorol Asiantaeth Ffilm Cymru. Mae hyn wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i'n galluogi i gwblhau'r ffilm nodwedd gyntaf hon - y ffilm gyntaf honno yw'r un anoddaf i unrhyw gynhyrchydd ei chwblhau - a 'nawr 'rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Asiantaeth Ffilm eto, ar ragor o brosiectau sydd wedi eu seilio yng Nghymru, neu sy'n deillio o Gymru - gan ddefnyddio'r dalent, y lleoliadau a'r adnoddau gorau sydd gan Gymru i'w cynnig - ar gyfer cynulleidfa ryngwladol. Ar lefel bersonol, mae'n rhoi boddhad mawr i mi weld Cymru yn mynnu i'w llais gael ei chlywed yn y byd ffilm ehangach, ac mae'r ffaith i ni gael ein dewis ar gyfer Caeredin yn coroni'r cwbl."

Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru,

"Mae A BOY CALLED DAD wedi rhoi cyfle gwych i gynhyrchydd sydd eisoes wedi gwneud ei enw mewn radio a theledu i arallgyfeirio i fyd ffilm. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Mark, ac mae wedi manteisio i'r eithaf ar ei holl sgiliau er mwyn dod â'r prosiect hwn i'r farchnad. 'Rydym wrth ein bodd fod y ffilm am gael ei dangos yng Ngwyl Ffilm Caeredin. "

Cynhelir 63ain Gwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin rhwng 17 a 28 Mehefin 2009 mewn lleoliadau ledled Caeredin.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ben Hooper ar 0790 873 8763 neu drwy e-bost

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006