Film Agency News
22 Jun 2009

Ymateb Asiantaeth Ffilm Cymru i Adroddiad Prydain Ddigidol
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad yr Arglwydd Stephen Carter, Digital Britain, ac yn cefnogi’r adnabyddiaeth glir sydd ynddo o bwysigrwydd hanfodol darparu mynediad i bawb at y rhwydwaith cyfathrebu diweddaraf - gan ddarparu cysylltedd a chyfle i gyfranogi; yn ogystal ag hyrwyddo’r rôl hollbwysig sydd gan y diwylliannau creadigol i’w chwarae fel sector allweddol sy’n tyfu.
Cymerwyd cam arwyddocaol ymlaen yn y potensial i ddemocrateiddio a chreu cyfleoedd busnes newydd drwy arwyddo cronfa gyfryngol newydd ddadleuol, a cheisio creu modelau busnes newydd yn yr oes ddigidol hon;
- ‘rydym yn falch iawn fod yr adroddiad yn cydnabod y dylid diogelu ein talent greadigol a’n menter yn y diwydiannau creadigol - fel gyda’r mesurau gwrth-ladrad arfaethedig - a’u hybu;
- fod y cyfleoedd gwych sydd ar gael i sinemâu fydd yn derbyn sgriniau digidol, 3D a thechnoleg cyswllt lloeren yn cael eu cydnabod. Mae hyn yn trawsffurfio profiad cymdeithasol sinema sy’n hanfodol yn ddiwylliannol, gan alluogi i leoliadau gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac ehangu’r arlwy sydd ar eu rhaglen, gan ddangos, er enghraifft, opera byw, theatr a digwyddiadau eraill ar y sgrin fawr; yn ogystal â chael gafael ar ffilmiau'r un pryd â’r mwyafrif o’r gweithredwyr masnachol. Fodd bynnag, y cafeat pwysig yn y cyswllt yma yw fod y dechnoleg hon yn parhau’n afresymol o gostus i’r mwyafrif o’r sinemâu annibynnol ac arbenigol, y sinemau sydd wrth galon nifer o ganolfannau celfyddydol Cymru, yn ogystal â sinemâu llai - yr unig leoliadau efallai i gynnig y gwasanaeth hwn yn eu hardaloedd. Mae felly’n flaenoriaeth gan yr Asiantaeth Ffilm i weithio mewn partneriaeth â'n cyd-weithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn hyn o beth;
- ‘rydym yn croesawu’r cynlluniau a amlinellwyd yn yr adroddiad i ganiatáu mynediad masnachol i’r hyn a elwir yn ‘gwaith amddifad’ (‘orphan works’) - hynny yw, cynnwys lle nad yw’n hysbys pwy yw perchennog yr hawliau, neu na ellir dod o hyd iddo/iddi er mwyn clirio’r gwaith at ddefnydd pellach. Bydd y ddeddfwriaeth a gynigwyd yn caniatáu i waith o’r fath gael ei ddefnyddio, gan ddilyn dulliau diogelwch penodol, er mwyn galluogi i Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac archifau eraill Cymru a ledled y DU, i ddarparu mynediad at, a diogelu’r deunydd hwn. Bydd hyn yn cyd-fynd ac yn ategu'r Strategaeth Dreftadaeth Sgrin Brydeinig, fel y cynigwyd gyntaf gan yr UK Film Council a’r BFI. Mae Cymru’n eiddgar i gyfranogi’n llwyr ac i elwa o hyn, yn amodol ar adnoddau;
- ‘rydym yn arbennig o falch gweld fod pwysigrwydd ffilm mewn addysg yn cael ei gydnabod mor bendant - un o ardaloedd craidd gweithgaredd yr Asiantaeth Ffilm. Ar y cyd, ae Asiantaeth Ffilm Cymru mewn partneriaeth â’r Asiantaethau Sgrin Cenedlaethol a Rhanbarthol eraill, First Light, y Clwb Ffilm, Addysg Ffilm, y BFI a’r UK Film Council, wedi cefnogi amryfal fuddiannau addysg ffilm - gan gynnwys gwelliant mewn sgiliau TchG, sgiliau cyfathrebu, hunan hyder ac ymwneud cymdeithasol. ‘Rydym hefyd yn awyddus fod ffilm yn cael sail gadarnach ac ehangach yn y cwricwlwm, yn ogystal â bod ar gael i holl bobl ifanc Cymru drwy nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys mewn sinemâu, mewn clybiau wedi’r ysgol, drwy fentrau cymunedol a thrwy adnoddau dysgu ar-lein.
Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio i hybu nodau ac amcanion argymhellion Digital Britain, gan wireddu buddiannau’r oes ddigidol ymhellach fyth.
Peter Edwards, Cadeirydd
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn (pdf)
Notes to Editors:
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog a gwella amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd ar gael yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ben Hooper, Swyddog y Wasg, Asiantaeth Ffilm Cymru Ffôn:029 20 467480 neu ewch i www.filmagencywales.com.
- Diwedd -




