Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

22 Mehefin 2009

Robert

Cymru yn Washington 2009 – Delweddau symudol o Gymru’n cael eu dangos am y tro cyntaf yn UDA

Yn ddiweddarach y mis hwn bydd chwe ffilm o Gymru, sydd eisoes wedi ennill gwobrau, yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau. Fe’u gwahoddwyd i gymryd rhan yng Ngwyl Wales Smithsonian Cymru yn Washington DC.

Trefnwyd hyn gan Sarah Howells mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Ffilm Cymru ac Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol Cymru, a dangosir y ffilmiau yn y Goethe Institut. Mae’r ffilmiau’n cynnwys ffilm ddogfen hir ddiweddaraf Gideon Koppel, Sleep Furiously, a ariennir gan Asiantaeth Ffilm Cymru, ynghyd â Dal: Yma Nawr gan y cyfarwyddwr Marc Evans. Bydd y cynhyrchydd Ynyr Williams, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, ac un o aelodau Bwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru yn cynnal sesiwn C&A yn dilyn dangos Dal: Yma Nawr, ffilm sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith hir dros 2000 o flynyddoedd drwy draddodiad barddol hynaf Ewrop.

Bydd David, drama ddogfen o’r 50au gan y cyfarwyddwr o Gaerdydd, Paul Dickson, hefyd yn cael ei dangos, ynghyd â Dylan Thomas, ffilm a enillodd wobr Oscar gyda Richard Burton yn y brif ran. Bydd y cyfarwyddwr Wyndham Price yn cyflwyno Abrahams’ Point, a’r cyfarwyddwr Justin Kerrigan yn cyflwyno I Know you Know cyn eu dangos am y tro cyntaf yn America (ariennir y ddwy ffilm gan Asiantaeth Ffilm Cymru).

Meddai Dan Thomas, Pennaeth Arddangos ac Asiantaeth Ffilm Cymru: “Bydd y gyfres gyffrous hon o ffilmiau Cymreig yn cynnig pleser pur i’r gynulleidfa, cynulleidfa fydd yn siwr o werthfawrogi’r wledd weledol hon o ddelweddau symudol, a bydd cyfle gwych iddynt gyfarfod â, a chlywed beth sydd gan y gwneuthurwyr ffilm o Gymru a’u gwesteion arbennig i’w ddweud.”

“Wrth gwrs, mae’r wyl hefyd yn cynnig cyfle arwyddocaol i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r dalent gwneud ffilm sydd yng Nghymru o flaen cynulleidfa fydd, gan fwyaf, yn Americanwyr. Mae o leiaf 100 o ymarferwyr unigol, perfformwyr a chyflwynwyr o Gymru’n cymryd rhan yn yr wyl.”

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu’r amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ben Hooper ar 0790 873 8763 neu drwy e-bost ar ben@filmagencywales.

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006