Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

11 Tachwedd 2008

Asiantaeth Ffilm Cymru’n ychwanegu gwerth drwy ehangu’r tîm

Mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi cyhoeddi iddynt benodi dau aelod newydd i’r tîm. Bydd Kate Crowther, Cynhyrchydd gyda BBC Wales, yn ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Cynyrchiadau, ac Hana Lewis, Cyn-Ymchwilydd gyda’r Cynulliad, fydd y Swyddog Addysg ac Arddangos newydd.

Wedi cynhyrchu dwy gyfres o ‘Belonging’, a enwebwyd ar gyfer BAFTA Cymru, mae gan Crowther brofiad eang yn y maes cynhyrchu. Cychwynnodd ei gyrfa fel Cynhyrchydd dan hyfforddiant gyda Screen Gems, y cynllun ffilmiau byr, ac ers hynny mae wedi cynhyrchu ffilmiau byr ar gyfer y teledu, ac wedi datblygu llechen o ffilmiau nodwedd theatrig. Enillodd ei ffilm fer ‘Dawn’, a ysgrifennwyd gan Anthony Hurley a’i chyfarwyddo gan Shreepali Patel, Wobr DM Davies, am y Ffilm Fer Orau 2005 a Ffilm Fer Orau BAFTA Cymru 2006.

Bydd Crowther yn gweithio ar lechen amrywiol Asiantaeth Ffilm Cymru, sy’n cynnwys mwy na 30 o ffilmiau nodwedd, ochr yn ochr â’r Pennaeth Talent, Keith Potter (gynt o Dan Films), a’r Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Talent, Adam Partridge. Mae penodi Crowther yn brawf o ymrwymiad yr Asiantaeth Ffilm i sicrhau eu bod yn dilyn hynt a helynt y prosiectau hynny sydd wedi derbyn arian datblygu i’r broses gynhyrchu. Bydd y tîm, dan arweiniad y Prif Weithredwr, Pauline Burt, yn cyd-weithio â gwneuthurwyr ffilmiau er mwyn targedu, ac yna thrafod â, partneriaid posib ar gyfer ariannu, gwerthu a dosbarthu.

Mae Hana Lewis hefyd yn ymuno â’r Asiantaeth Ffilm, fel Swyddog Addysg ac Arddangos. Daw White yma wedi cyfnod o weithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel ymchwilydd i un o Aelodau rhanbarthol y Llywodraeth dros Ogledd Cymru, a hefyd Diwylliant, y Gymraeg, a Chwaraeon.

Bydd White yn gweithio gyda Dan Thomas, y Pennaeth Arddangos ac Addysg, a hi fydd yn gyfrifol am gyd-drefnu a datblygu prosiectau addysg ac arddangos, gan gynnwys Soundtrack; gwyl ryngwladol gyntaf ffilm a cherddoriaeth Cymru, a gynhelir fis Tachwedd eleni yng Nghaerdydd

Wrth siarad am y penodiadau dywedodd, Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, “Bydd Kate ac Eve yn gaffaeliad mawr i dîm yr Asiantaeth Ffilm, gan fod ill dwy’n hawdd siarad â nhw, yn ogystal â bod yn wybodus.

Mae’r swyddi newydd hyn yn dangos penderfyniad yr Asiantaeth Ffilm i gefnogi talent, i ychwanegu gwerth ac i ddiwallu anghenion. ’Rydym yn frwdfrydig iawn i weithio â gwneuthurwyr ffilmiau er mwyn eu cynorthwyo i ddod â’u prosiectau i’r sgrin; ac i weithio’n uniongyrchol ag arddangoswyr a threfnwyr gwyliau - yn hytrach na rhoi arian yn unig a chamu’n ôl. Mae cyfle da hefyd i newid tirwedd addysg ffilm, er mwyn ymateb i ofynion strategol ehangach. ‘Rydym yn awyddus i chwyddo niferoedd y rheiny sydd am weithio ym myd addysg ffilm, gan ddarparu gwell adnoddau a hyfforddiant, a sicrhau mynediad i bobl ifanc ledled Cymru.”

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu amrywiaeth a nifer y ffilmiau sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac i feithrin y doreth dalent creadigol sydd ar gael yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ben Hooper ar 0790 873 8763 neu drwy e-bost

Notes to Editors:

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog a gwella amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd ar gael yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ben Hooper, Swyddog y Wasg, Asiantaeth Ffilm Cymru Ffôn:029 20 467480 neu ewch i www.filmagencywales.com.

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006