Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 02920 766931

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

7 Hydref 2008

SOUNDTRACK yn Sgorio gyda Rhestr Wych o Siaradwyr

Mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi cyhoeddi rhestr glodwiw o siaradwyr ar gyfer SOUNDTRACK, Gwyl Ffilm a Cherddoriaeth gyntaf Cymru, a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd (26-29) - mae'r enwau mawr yn cynnwys Gabriel Yared, a enillodd Oscar am ei sgôr ar gyfer The English Patient, a Danny Boyle, cyfarwyddwr Trainspotting, yn ogystal â'r sêr Jonathan Pryce a Robert Carlyle. Mae'r detholiad arbennig o ffilmiau a fydd yn cael eu dangos yn cynnwys rhai o'r clasuron mwyaf poblogaidd, a chynigion newydd cyffrous. Byddwn hefyd yn cyflwyno digwyddiadau cerddorol, gan gynnwys perfformiad gan James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers - oll yn dathlu'r berthynas greadigol sy'n bodoli rhwng ffilm a cherddoriaeth.

Cefnogir SOUNDTRACK gan Asiantaeth Ffilm Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'n agored i bawb. Bydd yr wyl yn rhoi sylw i'r defnydd mwyaf creadigol, dyfeisgar a chyffrous o gerddoriaeth mewn ffilm, gan gynnwys cyfres o weithdai. Bydd yr uchafbwyntiau'n cynnwys dangosiadau a pherfformiad – unigryw - byw gan y cyfansoddwr chwedlonol Gabriel Yared. Bydd Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru yn ymuno â Yared wrth iddo berfformio darnau o'r repertoire eang o'r traciau sain mae wedi eu cyfansoddi ar gyfer ffilm, fel teyrnged i'w gyd-weithiwr diweddar, y cyfarwyddwr Anthony Minghella.

Bydd y cyfarwyddwr adnabyddus, Danny Boyle, hefyd yn cymryd rhan yn yr wyl. Ei ffilm newydd ef, Slumdog Millionnaire, a enillodd wobr yng Ngwyl Ffilm Toronto, fydd yn agor y digwyddiad, mewn noson a noddir gan BAFTA Cymru. Bydd Danny'n cynnal dosbarth meistr yn yr wyl, a bydd sesiynau Sgwrs  (In Conversation) hefyd yn cael eu cynnal, gyda'r actor Jonathan Pryce, sydd wedi gweithio yn Hollywood, a gyda David Holmes, hoff droellwr disgiau clywedol y cyfarwyddwr Stephen Soderbergh, a chyfansoddwr traciau sain llwyddiannus y ffilmiau Ocean ac Out of Sight. Yn ddiweddar bu iddo ryddhau albwm solo o'r enw The Holy Pictures - digwyddiad prin iawn - ac mae ei bresenoldeb yn yr wyl yn sicrhau dangosiad o Hunger, a anrhydeddwyd yn Cannes.

Fel yr eglura'r gwneuthurwr ffilmiau, yr awdur a'r darlledwr Mark Cousins, sydd hefyd yn guradur ar SOUNDTRACK: "Mae SOUNDTRACK yn arbennig iawn. Mae'n ymdrin â'r berthynas greadigol, hollbwysig sy'n bodoli rhwng ffilm a cherddoriaeth. ‘Rydym wedi casglu ynghyd amrywiaeth eang o bobl sy'n ymarfer y gelfyddyd, rhai'n adnabyddus ac eraill yn fwy cyfoes, efallai, er mwyn apelio at gynulleidfa eang y tu mewn a thu allan i'r diwydiant. Mae Bae Caerdydd, lleoliad sy'n esblygu a datblygu'n feunyddiol, yn adlewyrchu bwriad yr wyl, a ‘rwy'n teimlo'n gyffrous iawn yn ei chylch."

Gan arddangos amrywiaeth gyfoethog o dalent Cymreig, mae'r ffilmiau fydd yn cael eu dangos yn cynnwys Flick gan David Howard, gyda Faye Dunaway a gitarydd a seren Pulp, Richard Hawley; premiere byd ffilm Wyndam Price, Abraham's Point gyda Mackenzie Crook; Sleep Furiously, ffilm y cyfarwyddwr Gideon Koppel - sydd eisoes wedi cael derbyniad gwresog mewn gwyliau - ac sy'n cynnwys trac sain y cerddor trydanol enwog Aphex Twin; a ffilm newydd y cyfarwyddwr cyffrous o Gymru Justin Kerrigan, I Know You Know gyda Robert Carlyle. Cyd-ariennir pob un ohonynt gan Asiantaeth Ffilm Cymru.

Cynhelir yr wyl mewn gwahanol leoliadau yn, ac o amgylch, Bae Caerdydd o'r 26ain tan y 29ain o Dachwedd. Mae ardal y Bae, erbyn hyn, wedi cael bywyd newydd ac yn llawn awyrgylch, ac yn adnabyddus i selogion y sinema yn dilyn y ffilm o'r 1950au, Tiger Bay, gyda John a Hayley Mills.

Gan gadw llygad ar ddyfodol cyfansoddi sgôr ar gyfer ffilm, mae'r wyl yn cynnal cystadleuaeth ryngwladol, ar y cyd â'r British Council i ddarganfod talent newydd. Gofynnir i gerddorion greu sgôr wreiddiol ar gyfer darn ffilm o'r 1950au sy'n sôn am Tiger Bay a dociau Caerdydd - a bydd y cerddor llwyddiannus yn cael ei (g)wahodd i'r wyl i weld dangosiad cyheoddus o'i (g)waith, ac i dderbyn y wobr o £1,000.

Ychwanegodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru: "Dyma ddigwyddiad unigryw a chyffrous. Mae safon uchel y siaradwyr gwadd sydd gan Soundtrack yn dangos sut mae Cymru'n cystadlu ar lwyfan y byd. Ein gobaith mawr yw y bydd yr wyl o fudd hirdymor gwirioneddol i'r diwydiant ffilm a cherddoriaeth yng Nghymru. Mae gennym restr o siaradwyr fydd yn torri tir newydd, yn sicr o ddiddanu ac a fydd yn apelio ac yn cynnig rhywbeth i bawb."

"Mae Soundtrack yn ‘coup' gwirioneddol i Gymru - mae P4 Music wedi gwneud gwaith gwych yn trefnu cystal rhaglen."

Mae tocynnau a gwybodaeth ar gael drwy ffonio 08700 40 2000 neu ar www.soundtrackfilmfestival.com

Nodiadau i Olygyddion:

Asiantaeth Ffilm Cymru

Sefydlwyd Asiantaeth Ffilm Cymru yng Ngorffennaf 2006, a dyma'r unig Asiantaeth ffilm yng Nghymru. Mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau fod agweddau economaidd, diwylliannol ac addysgol ffilm yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yng Nghymru, y DU a'r byd. Fel asiantaeth strategol, bwriad yr Asiantaeth Ffilm yw hyrwyddo datblygiad diwydiant ffilm hyfyw a chynaliadwy i Gymru, ac i hybu diwylliant ffilm bywiog a deinamig.

Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw adnabod a meithrin talent gwneud ffilmiau yng Nghymru - yn enwedig ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, awdur-gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr - drwy annog a chefnogi datblygiad eu gwaith, eu llwyddiannau a'u huchelgeisiau. Er mwyn ategu ein blaenoriaeth ganolog o greu a chynnal diwylliant ffilm deinamig ledled Cymru, 'rydym yn cefnogi polisi eang ar addysg ffilm. Ein nod yw gwella llythrennedd ffilm i bawb, ac i ysgogi archwaeth am ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.filmagencywales.com.

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006