Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Film Agency News

16th September 2008

FFILM GYMREIG AM ECO-SYRFFIO YN YMGYRCHU AM NEWID

Bydd y gymuned syrffio yn ymuno â'r gwneuthurwr ffilm o Gymru, Helen Iles, sydd eisoes wedi ennill gwobrau am ei gwaith, yn nangosiad cyntaf ei ffilm ddiweddaraf, 'On the Push', yng Ngwyl SurfCult Porthcawl, ddydd Sul, 21ain o Fedi 2008.

Arianwyd 'On the Push' gan Asiantaeth Ffilm Cymru, a chynhyrchwyd y ffilm gan Undercurrents Productions o Abertawe. Mae'n adrodd stori Anne, merch gyffredin o Gymru sy'n hoff o syrffio, sy'n penderfynu bod yn eco-actifydd. Mae'r ffilm yn dilyn taith Anne o Borthcawl i Gernyw, Sbaen a'r Swistir wrth iddi ddysgu am y bygythiad difrifol sydd ar fin digwydd i'r hinsawdd - a sut y gall syrffwyr helpu i warchod yr amgylchedd morol.

Saethwyd y ffilm ar arfordiroedd Cymru, Cernyw a Sbaen, ac mae'n codi proffil cannoedd o draethau sydd wedi eu llygru oherwydd bod lefelau carthion yn codi wrth i'r hafau gwlyb roi pwysau cynyddol ar y systemau trin dwr, sydd wedyn yn golygu fod miliynau o litrau o wastraff gwenwynig yn cael eu harllwys i'r môr.

Bwriad Iles, y Cyfarwyddwr, a'i thîm oedd amlygu'r problemau sy'n cael eu hwynebu gan syrffwyr yng Nghymru oherwydd llygredd cynyddol y dwr o ganlyniad i lifogydd yr haf. Dywedodd Iles: "Mae'r cynnydd mewn glaw yn cael effaith anferth ar y systemau carthffosiaeth. Eleni, mae profion Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gweld cynnydd yn y bacteria colifform - sy'n bresennol mewn ysgarthion dynol ac mewn dom anifeiliaid - mewn 310 o safleoedd profi. Mae'r bacteria yn golygu fod y syrffwyr yn agored i gastro-enteritis a chwydu. "

Yn 'On the Push' mae Chris Hines, sylfaenydd 'Surfers Against Sewage', ac sydd wedi derbyn MBE yn ddiweddar, yn cytuno fod y newid yn yr hinsawdd yn sialens fawr i bawb ohonom ond: ''Rydym yn rhywogaeth hynod o ddyfeisgar. Gallwn ddatrys hyn, ond mae'n rhaid ni ddod at ein gilydd er mwyn llwyddo.”

"Gyda ffotograffiaeth wych, cerddoriaeth afaelgar a lleoliadau prydferth, mae 'On the Push' yn cynnig golwg ar gynhesu byd-eang sydd yn un bleserus ac sy'n hawdd i'w ddeall, ond mae hefyd yn ysbrydoledig,” ychwanegodd Pauline Burt, Prif Swyddog Asiantaeth Ffilm Cymru.

Bydd 'On the Push', sydd wedi derbyn cefnogaeth gan 'Artists Project Earth', yn cael ei lansio ym Mhafiliwn Porthcawl ar Fedi'r 21ain fel rhan o Wyl SurfCult. Fel rhan o Wyl BeyondTV bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Nhafarn y Mariners Pub, Nolton Haven, Sir Benfro ar y 18fed o Hydref, yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar y 26ain o Hydref, ac yn Amgueddfa Glan y dwr, Abertawe ar y 23ain o Dachwedd. I archebu tocynnau ac am wybodaeth bellach ffoniwch Undercurrents ar 01792 455900 neu ewch i www.onthepush.org.

Nodiadau i Olygyddion:

Asiantaeth Ffilm Cymru

Sefydlwyd Asiantaeth Ffilm Cymru yng Ngorffennaf 2006, a dyma'r unig Asiantaeth ffilm yng Nghymru. Mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau fod agweddau economaidd, diwylliannol ac addysgol ffilm yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yng Nghymru, y DU a'r byd. Fel asiantaeth strategol, bwriad yr Asiantaeth Ffilm yw hyrwyddo datblygiad diwydiant ffilm hyfyw a chynaliadwy i Gymru, ac i hybu diwylliant ffilm bywiog a deinamig.

Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw adnabod a meithrin talent gwneud ffilmiau yng Nghymru - yn enwedig ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, awdur-gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr - drwy annog a chefnogi datblygiad eu gwaith, eu llwyddiannau a'u huchelgeisiau. Er mwyn ategu ein blaenoriaeth ganolog o greu a chynnal diwylliant ffilm deinamig ledled Cymru, 'rydym yn cefnogi polisi eang ar addysg ffilm. Ein nod yw gwella llythrennedd ffilm i bawb, ac i ysgogi archwaeth am ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.filmagencywales.com.

Archif

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo