Film Agency News
15th July 2008

JANE HUTT A.C. YN YMUNO Â PHLANT YSGOL CYMRU I LANSIO CLWB FFILM CYMRU
Mae John Giwa-Amu, cynhyrchydd y ddrama gomedi Gymreig ‘Little White Lies’, a enillodd wobr BAFTA Cymru, wedi ymuno â gwneuthurwyr ffilm ifanc o un o ysgolion Caerdydd i lansio Clwb Ffilm Cymru; mae hon yn fenter Brydeinig sydd wedi ei hanelu at ddatblygu llythrennedd ffilm ac i gynnig profiad ymarferol o wneud ffilm.
Cafodd disgyblion o Ysgol Pencae, Llandaf hefyd gyfle i gwrdd â Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a lansiodd Clwb Ffilm Cymru yn swyddogol.
Dywedodd John Giwa-Amu: "Mae'r Clwb Ffilm yn fenter ysbrydoledig sy'n rhoi cyfle i blant i fwynhau a thrafod ffilmiau ar eu lefel eu hunain. Mae'n gyffrous edrych 'mlaen a dychmygu beth fydd rhai o'r plant yn ei gyflawni."
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg: “Mae hwn yn brosiect cyffrous fydd yn ysbrydoli disgyblion am holl agweddau ffilm, ac yn rhoi’r cyfle iddynt gael cipolwg ar y diwydiant. ‘Rwy’n siwr y bydd y bobl ifanc sydd ynghlwm â’r fenter hon yn mwynhau trafod ffilmiau gyda’u cyfoedion, yn ysgrifennu adolygiadau yn ogystal â chwrdd â phobl sy’n gweithio yn y byd ffilmiau. Mae hwn yn gyfle gwych i danio dychymyg ein hieuenctid ac i ehangu eu gorwelion.”
Yn cyd-weithio ag Asiantaeth Ffilm Cymru, Academi Sgrin Cymru Skillset, ac elusen genedlaethol Continyou Cymru, mae disgyblion o 17 o ysgolion cynradd ac uwchradd, mewn saith awdurdod addysg lleol yng Nghymru, wedi uno i ffurfio 17 o glybiau ffilm fel rhan o gynllun peilot dwyieithog am flwyddyn.
Cynhelir Clwb Ffilm Cymru gan staff dysgu y tu allan i oriau ysgol, a bydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion werthuso ac adolygu ffilmiau sy’n cael eu dangos gan eu Clwb Ffilm eu hunain. Gobeithir hefyd y byddant yn parhau i gwrdd ag actorion, cyfarwyddwyr, ysgrifenwyr a gweithwyr eraill sy’n chwarae rhannau allweddol yn y diwydiant. Yn wir, bydd chwech o aelodau Clwb Ffilm Ysgol Pencae yn gwneud gwaith trosleisio ar gyfer rhaglen animeiddio Croeso; yn ymweld â stiwdio recordio sain broffesiynol ac yn gweithio â’r cwmni cynhyrchu lleol Calon.
Mae’r lansiad yng Nghymru yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus gyda 48 o ysgolion yn Swydd Efrog, Swydd Caint, Llundain a Gogledd Iwerddon. Diolch i gefnogaeth LOVEFiLM, mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn medru cael mynediad i fwy na 62,000 o deitlau drwy wefan arbennig, www.filmclub.org. (Mae’r aelodaeth yn rhad ac am ddim, a bydd pob Clwb Ffilm yn derbyn hyd at £1250.00 o nawdd gan Asiantaeth Ffilm Cymru ac Academi Sgrin Cymru Skillset.)
Wrth lansio Clwb Ffilm Cymru dywedodd Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru: “Yn ogystal â chanolbwyntio ar gefnogi datblygu a chynhyrchu ffilm, un o brif ddiddordebau'r Asiantaeth Ffilm yw lles diwylliannol ffilm, a’r amcan yw ehangu mynediad i, a lledaenu’r amrywiaeth o ffilmiau sydd ar gael i gynulleidfaoedd ledled Cymru.”
“Gyda’n cefnogaeth ni mae arbenigwyr addysg ac arddangos yn gweithio’n galed i ddatblygu cynulleidfaoedd drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol, gan ysgogi archwaeth am ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i’r brif ffrwd.”
“Mae hyrwyddo a rhoi cefnogaeth ariannol i fenter y Clwb Ffilm, drwy ddarparu deunyddiau addysg a thrafodaeth benodol sydd wedi’u eu teilwra’n arbennig ar gyfer y senario addysg ddatganoledig sydd yng Nghymru, yn ateb un o amcanion pwysicaf yr Asiantaeth Ffilm - sef sicrhau fod ffilm yn cael ei gosod yn gadarn ym mlynyddoedd cynnar plentyn fel rhan o’i brofiad diwylliannol. Profiad fydd yn denu ac yn cydio mewn meddyliau, yn cyfoethogi bywydau, yn datblygu sgiliau cyfathrebu, ac yn codi ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth a rennir, sydd mor hanfodol bwysig yn y 21 Ganrif.”
“Yn wir, mae plant heddiw’n dysgu drwy luniau yn ogystal â geiriau. Mae yma gyfle i bawb, nid i’r sêr yn unig, i ddysgu a chael hwyl, drwy wneud eu ffilmiau eu hunain”
Dywedodd Pam Boyd, Cyfarwyddwr ContinYou Cymru: “Fel rhan o’n gwaith yng Nghymru yn datblygu cyfleodd dysgu y tu allan i oriau ysgol i blant a phobl ifanc, ‘rydym wrth ein bodd cael cyfle i gyd-weithio ag Asiantaeth Ffilm Cymru ac Academi Sgrin Cymru ar ddatblygu Peilot y Clwb Ffilm.
Mae Clybiau Ffilm a gynhelir y tu allan i oriau ysgol yn rhoi cyfle gwych i wella sgiliau sylfaenol ac allweddol, gan wella cyrhaeddiad disgyblion drwy lythrennedd ffilm.”
Dywedodd Emma Flatley, Rheolwr Prosiect Academi Sgrin Cymru Skillset: “’Rydym wrth ein bodd cael bod yn rhan o’r prosiect hwn gan mai un o’n prif amcanion yw annog pobl ifanc i ystyried gyrfa mewn ffilm, ac i godi ymwybyddiaeth o’r addysg ffilm a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru. Bydd aelodau’r Clwb Ffilm hefyd yn cael blas ar wneud ffilmiau fydd, gobeithio, yn eu hysbrydoli i ddatblygu’n wneuthurwyr ffilm yn y dyfodol”.
Mae’r ysgolion sydd wedi cofrestru gyda Chlwb Ffilm Cymru ar gyfer y cynllun peilot yn cynnwys:
- Caerdydd
Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Gynradd Pencae - Sir y Fflint
Ysgol Uwchradd Castell Alun, Ysgol Uwchradd Elfed, Ysgol Uwchradd John Summers - Sir Benfro
Ysgol Sir Thomas Picton, Ysgol Uwchradd Penfro - Rhondda Cynon Taf
Ysgol Gymunedol Porth, Coleg Cymunedol Tonypandy, Ysgol Gyfun Treorci, Ysgol Gynradd Coed y Lan - Abertawe
Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt (Bishopston) - Torfaen
Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim, Ysgol Gymunedol Woodlands, Ysgol Uwchradd Fairwater, Ysgol Bryn Onnen
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn rhoi cymorth, annog ac ehangu’r amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd ar gael yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jenkins ar 0790 873 8763 neu ar cyswllt.
Quarterly archive
2007
2006


