Film Agency News
23 Mehefin 2008

Ar daith o the edge of love i Batagonia: Gwneuthurwyr ffilm o Gymru’n cyhoeddi’r ffilm hir ddiweddaraf
Gyda chefnogaeth Asiantaeth Ffilm Cymru mae’r cynhyrchydd o Gymru, Rebekah Gilbertson, a’r cyfarwyddwr Marc Evans wedi cyhoeddi eu ffilm hir ddiweddaraf, Patagonia.
Daw’r cyhoeddiad ar ddiwrnod ‘premiere’ Cymreig ffilm hir gyntaf Gilbertson, The Edge of Love, yn Abertawe.
Dewiswyd The Edge of Love i agor Gwyl Ffilm Caeredin yn 2008, ac mae’n adrodd hanes y bardd chwedlonol hwnnw, Dylan Thomas. Matthew Rhys sy’n chwarae’r Dylan Thomas ifanc, ochor yn ochr â Keira Knightley, Cillian Murphy a Sienna Miller. Fe’i hysgrifennwyd gan Sharman Macdonald, a’i chyfarwyddo gan John Maybury, sydd eisoes wedi ennill Ffilm Hir Orau Gwyl Ffilm Caeredin am For Love is the Devil; Astudiaeth am Bortread o Francis Bacon.
Cynhyrchir Patagonia gan Gilbertson, ynghyd â’r cynhyrchydd profiadol o’r Ariannin, Oscar Kramer, ac Evans fydd yn cyfarwyddo. Ysgrifennwyd y sgript gan Laurence Coriat (Wonderland, Me Without You ac A Mighty Heart), a Robbie Ryan (Red Road, Brick Lane) fydd y gwr camera.
Dyma gyd-gynhyrchiad dwyieithog mewn Cymraeg a Sbaeneg, a bydd y digwyddiadau’n pendilio rhwng pâr o Gymry sydd yn eu tridegau, sy’n teithio i’r Ariannin i ail-asesu eu perthynas yn y Wladfa, a menyw oedrannus sy’n mentro i’r cyfeiriad arall, yng nghwmni cydymaith ifanc, anfodlon. Chwaraeir dwy o’r prif rannau gan Matthew Rhys a Nia Roberts (a chwaraeodd ran allweddol yn Solomon a Gaenor, a enwebwyd ar gyfer Oscar am ffilm mewn iaith dramor).
Ariennir y prosiect gan Asiantaeth Ffilm Cymru, y Wales IP Fund, Boom Ffilms, S4C ac Oscar Kramer.
" Ceir cyfuniad grymus yn y prosiect hwn - Marc Evans o Gymru, cyfarwyddwr profiadol ac uchel ei barch, a Rebekah Gilbertson, sy’n datblygu ei chrefft fel cynhyrchydd. Daw Rebekah i weithio ar y prosiect yn syth wedi llwyddiant ei ffilm hir gyntaf Edge of Love," medd Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru.
"Mae’r ffilm Gymreig hon, sy’n ddiwylliannol arwyddocaol, yn archwilio syniadau hiraeth a gadael. Ceir yma ddwy daith gyfochrog mewn cyfeiriadau cyferbyniol - i ac o Batagonia. Yn y natur ddwyieithog mae gennym botensial gwirioneddol i hoelio sylw ar Gymru, yn enwedig o ystyried y dalent arbennig sydd ynghlwm â’r prosiect."
"Er mwyn manteisio ar harddwch a gwrthgyferbyniadau tirwedd Patagonia a Chymru, ‘rydym yn gobeithio saethu’r golygfeydd yn yr Ariannin yn eu haf hwy, pan gaiff y tir ei ddiffinio gan sychder, gwres a gwacter, ac yna’r golygfeydd yng Nghymru yn y gaeaf gwlyb a gwyntog,” eglura Gilbertson.
"Mae’r ffilm hon yn ein galluogi i symud oddi wrth ormes y system Eingl- Americanaidd, ac yn ein caniatáu i chwarae ar y cyrion. Mae mor anodd gwneud ffilmiau mewn ieithoedd tramor erbyn hyn oherwydd natur y byd dosbarthu ac arddangos. Mae gosod yr iaith Gymraeg ochr yn ochr â’r iaith Sbaeneg, sydd yn cael ei siarad drwy’r byd i gyd, yn golygu gallwn ddarganfod ffordd arall o weithio, ac i archwilio map arall yng nghyd-destun cynulleidfa a marchnadoedd. Dyna sydd mor gyffrous am y prosiect hwn,” meddai Evans.
Mae Kramer yn ychwanegu, "Yn ddiwylliannol, bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfle gwych i ni gyfnewid talentau, fydd yn sicr yn sialens ac eto’n werthfawr. Byddwn yn cyfuno criw a chast o’r ddwy wlad, i gynhyrchu ac i saethu mewn amrywiol leoliadau fydd o ddiddordeb amlwg i’r ddwy ochr."
Cyd-gynhyrchir Patagonia gan gwmni Boomerang o Gaerdydd, fel rhan o’u mentr Boom Ffilms, a sefydlwyd gydag S4C. "Dyma’r union fath o gyd-gynhyrchiad ‘rydym wedi bod yn ceisio’i sefydlu gyda S4C yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cynhyrchiad, yn ei hanfod, sydd â chyllideb isel, ond sydd ag uchelgais sinematig mawr,” medd Huw Eurig Davies o Boomerang. "Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o brosiectau tebyg, ac y bydd yn gosod patrwm ar gyfer y dyfodol. ‘Rydym eisoes yn trafod â Rebekah Gilbertson sut y gallwn wneud ffilmiau tebyg eraill."
Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae hwn yn gyfle gwych i S4C a’r partneriaid eraill ddod â grwp o unigolion talentog ynghyd, fydd yn cyflawni ein huchelgeisiau fel comisiynydd ac fel galluogwr gwaith o safon uchel. Mae natur ddwyieithog y cynhyrchiad hwn yn arbennig o gyffrous. Mae twf wedi bod yn y nifer o bobl sy’n teithio rhwng Cymru a Phatagonia yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n adlewyrchu diddordeb y ddwy wlad yn y gwreiddiau sy’n gyffredin iddynt."
Robbie Little o The Little Film Company bydd yn trin yr holl werthiant. Caiff y ffilm ei saethu yn gynnar yn 2009 yn yr Ariannin, ac yna yng Nghymru y gwanwyn wedyn.
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn rhoi cymorth, annog ac ehangu’r amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd ar gael yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jenkins ar 0790 873 8763 neu ar cyswllt.
Quarterly archive
2007
2006


