Film Agency News
18 Mehefin 2008

O GAERDYDD I FANCEINION: Comedi Brydeinig yn Ennill Cefnogaeth Asiantaeth Ffilm Cymru
Mae un o awduron Doctors, cyfres fuddugol Operâu Sebon Prydain 2007 a chyfres a enwebwyd ar gyfer Gwobr Deledu BAFTA, wedi ennill cefnogaeth Asiantaeth Ffilm Cymru ar gyfer ei ffilm gomedi Brydeinig am ddyn heterorywiol sy’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth harddwch i hoywon.
Bethan Evans yw cynrychiolydd Phil Charles, a anwyd yng Nghaerdydd, yn yr Asiantaeth, a bydd yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Asiantaeth Ffilm Cymru i ddatblygu Mr Manchester. Wedi ei lleoli ym Manceinion, hon yw’r ffilm hir gyntaf i Snowball Pictures, cwmni cynhyrchu Lee Ruette a Britt Harrison, ei datblygu.
Mae Charles wedi ennill gwobrau fel ysgrifennwr copi hysbysebion, ac wedi bod yn aelod o dîm ysgrifennu rheoliadd Doctors i’r BBC ers 2001. Mae Granada Television hefyd wedi comisiynu datblygu’r gyfres ddrama Strays, sy’n dychwelyd i’r rhwydwaith, a’i ffilm fer ef Punch, oedd enillydd y ‘Marchmont Shorts’ yn 2005. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys pennod o Murphy’s Law i BBC/Tiger Aspect a’r gyfres ddrama Village Life ar gyfer Radio’r BBC yn 2001.
Stori am adeiladwr sy’n dipyn o ferchetwr yw Mr Manchester sy’n mynd i ddyled go fawr. Pan ddaw cyfle annisgwyl iddo gymryd rhan mewn cystadleuaeth harddwch i hoywon mae’r wobr ariannol yn gryn demtasiwn. Mae ein harwr yn penderfynu cadw’i rywioldeb yn gyfrinach a rhoi cynnig arni, penderfyniad fydd yn newid ei fywyd am byth. Mae Mr Manchester yn ffilm brif ffrwd sy’n llawn hiwmor. Yn rhannol The Full Monty, yn rhannol Birdcage, dyma gomedi drwyddi draw.
“Mae adborth ac arweiniad Britt & Lee wedi bod yn amhrisiadwy, a gan i mi gael fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd ‘rwyf wrth fy modd cael datblygu fy ffilm hir gyntaf gyda chefnogaeth Asiantaeth Ffilm Cymru,” medd Charles.
Britt Harrison oedd Pennaeth Talent Asiantaeth Ffilm Cymru, ble bu iddi reoli datblygu a chynhyrchu llechen o fwy na 30 o brosiectau’n llwyddiannus. Deil i weithio fel Ymgynghorydd Sgript ochr yn ochr â chynhyrchu. “Mae Lee a minnau wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Phil Charles ar ei sgript ardderchog. Dyma destament i uchelgais ac egni cynifer o awduron Cymreig y cefais i’r fraint o gyd-weithio â hwynt yn ystod fy amser gyda’r Asiantaeth Ffilm.”
Yn ddiweddar bu i Lee Ruette, ei phartner cynhyrchu, gyd-gynhyrchu fersiwn wedi ei hailwampio o’r ffilm gomedi gerddorol Blondel i Feudal Productions a Wilde Justice. Mae wedi cynhyrchu ac wedi gwneud gwaith cynhyrchu llinell; gan gynnwys cylch o ffilmiau byr gan gyfarwyddwyr ffilm rhyngwladol fel Victor Erice a Spike Lee. Meddai Ruette: “Os ydych chi am ddweud y gwir wrth bobl, byddwch yn ddoniol neu byddant yn eich lladd. Mae Britt a minnau’n hynod o ffodus cael gweithio gyda Phil ar ei sgript gyfoethog.”
Wrth sôn am ddatblygiad Mr Manchester, dywedodd Keith Potter, Pennaeth Talent Asiantaeth Ffilm Cymru: “Fel asiantaeth, ein dyletswydd yw cefnogi a meithrin talent gwneud ffilmiau yng Nghymru. Wrth weithio gyda Britt a Lee yn Snowball Pictures mae Phil wedi datblygu sgript sy’n dangos yr holl elfennau angenrheidiol ar gyfer comedi boblogaidd, brif ffrwd.
“Unwaith eto ‘rydym yn falch iawn cael cyfle i gefnogi awdur o Gymru sydd wedi datblygu sgript ragorol - ein prif gymhelliad i roi cefnogaeth ariannol i brosiect, beth bynnag y genre, y gyllideb neu’r lleoliad.”
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu’r amrediad a’r nifer o ffilmiau sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac i feithrin y doreth talent greadigol sydd ar gael yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jenkins ar 0790 873 8763 neu ar cyswllt.
Quarterly archive
2007
2006


