Film Agency News
6 Mehefin 2008

Ioan Gruffudd, un o Brif Actorion Hollywood, yn Datgan Cefnogaeth i SOUNDTRACK
Heddiw (Mehefin 6) mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi cyhoeddi fod yr actor o Gymru, Ioan Gruffudd, (LLUN ATODEDIG), wedi cytuno i gefnogi’r wyl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol Gymreig gyntaf erioed, a gynhelir mewn lleoliadau ledled Caerdydd fis Tachwedd eleni.
Wrth siarad am yr wyl dywedodd yr actor adnabyddus, sy’n enwog am ymddangos mewn ffilmiau rhyngwladol llwyddiannus, gan gynnwys Titanic a The Fantastic Four: “Gellir gwneud dim ond cefnogi! Mae’n bleser clywed am raglen uchelgeisiol a thema arbennig SOUNDTRACK.”
Ychwanegodd: “’Rwyf bob amser yn falch pan mae digwyddiad deinamig yn ymddangos o Gymru. ‘Rwyf wrth fy modd fod SOUNDTRACK yn cydnabod ac yn dathlu goreuon y diwylliant ffilm a cherddoriaeth Cymreig, ac ‘rwy’n siwr bydd yr wyl yn gosod seiliau mewn lle amlwg ym mysg gwyliau ffilm y byd!”
Ganwyd Gruffudd ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr, ac mae’n ymuno â’r cerddor a phrif leisydd y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, wrth gefnogi’r wyl.
Asiantaeth Ffilm Cymru sy’n gyfrifol am SOUNDTRACK, fydd yn cael ei seilio ar gerddoriaeth ffilm, ac mae’n disodli Gwyl Ffilm Caerdydd. Fe’i cynhelir o 26 - 29 o Dachwedd 2008, a bydd y digwyddiad blynyddol yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a gwneuthurwyr ffilm o Gymru gymysgu â ffigyrau rhyngwladol pwysicaf y diwydiant ffilm a cherddoriaeth. Disgwylir y bydd mwy na 7000 o bobl yn mynychu’r digwyddiad dros y tri diwrnod.
Mae rhagor o wybodaeth am SOUNDTRACK ar gael ar www.soundtrackfilmfestival.com a bydd noddwyr a hyrwyddwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog ac ehangu’r amrediad a’r nifer o ffilmiau sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac i feithrin y doreth talent greadigol sydd ar gael yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jenkins ar 0790 873 8763 neu ar cyswllt.
Quarterly archive
2007
2006


