Film Agency News
Mai 2008

CYMRU I GYNNAL YR WYL RYNGWLADOL GYNTAF ERIOED AR GYFER FFILM A CHERDDORIAETH
Asiantaeth Ffilm Cymru’n cyhoeddi ‘SOUNDTRACK’: Gwyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Cymru
Heddiw (6ed o Fai 2008) bydd Asiantaeth Ffilm Cymru’n cyhoeddi’r wyl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol gyntaf i Gymru a gynhelir mewn lleoliadau ledled Caerdydd ym mis Tachwedd eleni.
Mae SOUNDTRACK yn disodli Gwyl Ffilm Caerdydd, a bydd yn seiliedig ar gerddoriaeth ffilm. Fe’i cynhelir o 26 – 29 o Dachwedd 2008, a bydd y digwyddiad blynyddol yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a gwneuthurwyr ffilm o Gymru ryngweithio â ffigyrau rhyngwladol mwyaf blaenllaw’r diwydiant ffilm a cherddoriaeth. Disgwylir y bydd mwy na 7000 o bobl yn mynychu’r digwyddiad dros y tri diwrnod.
Yn clodfori perthynas cerddoriaeth mewn ffilm, bydd rhaglen SOUNDTRACK yn gymysgedd o ddigwyddiadau cyflenwol, gan gynnwys dangosiadau ffilm, cerddoriaeth fyw, dosbarthiadau meistr, seminarau, areithiau cyweirnod, gweithdai a chystadleuaeth i’r dalent sy’n datblygu.
Bydd rhestr o gyfarwyddwyr, cyfansoddwyr, cynhyrchwyr a thalent ar-sgrîn yn cael ei chyhoeddi’n ystod y misoedd nesaf, ynghyd â manylion am berfformiadau cerddorol byw fydd yn sicr o fod yn drawiadol; bydd yma gerddoriaeth glasurol a chyfoes yn amrywio o gerddorfeydd byw fydd yn atgynhyrchu sgôr ffilmiau i berfformiadau roc a rôl.
Gan lansio’r wyl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol gyntaf erioed yng Nghymru dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth: “’Rwy’n edrych ‘mlaen i weld yr wyl newydd gyffrous hon yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, ac yn gobeithio bydd y cyhoedd yn manteisio ar y cyfleoedd fydd ar gael.”
Bydd yr awdur a’r cyfarwyddwr enwog Danny Boyle yn cynnal dosbarth meistr. Ef oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r ffilm hynod lwyddiannus Trainspotting gyda Ewan McGregor ac Ewen Bremner ym1996, a’r ffilm arswyd 28 days later... yn 2002.
Mae James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers hefyd yn gefnogol iawn i’r digwyddiad: “ Mae SOUNDTRACK yn ddigwyddiad arloesol a chyffrous, ac ‘rwy’n falch cael bod yn rhan ohono. Mae’n gyfle i’r diwydiant ffilm a cherddoriaeth byd-eang a’r cyfryngau’n gyffredinol ganolbwyntio ar Gymru, tra hefyd yn clodfori’r dalent orau sydd gennym yma ym myd ffilm a theledu, yng ngweddill y DU ac ar draws y byd. ‘Rwy’n falch cael cefnogi gwyl sy’n anelu at y nod hwnnw.”.
Rheolir y prosiect gan P4Music Limited o’r Barri, ac arweinir y rhaglen gan dîm sy’n brofiadol iawn mewn cynnal digwyddiadau arbenigol, a digwyddiadau ym maes ffilm a cherddoriaeth, gan gynnwys y curadur ffilm Mark Cousins. Fel gwneuthurwr ffilm, awdur a darlledwr mae’n enwog am adfywio Gwyl Ffilm Caeredin ac am ysgrifennu llyfr am hanes ffilm o’r enw ‘The Story of Film’, a ddisgrifiwyd gan y London Times fel ‘y llyfr gorau i ni ei adolygu erioed’.
"Mae gormod o lawer o wyliau ffilm yn y byd heddiw, felly mae’n rhaid i rai newydd gynnig rhywbeth go arbennig. Mae SoundTrack yn gwneud hyn. Nid gwyl am ffilmiau newydd fydd hi fel y cyfryw, ond am y berthynas greadigol hollbwysig sy’n bodoli rhwng ffilm a cherddoriaeth. Yn y blynyddoedd nesaf bwriedir iddi fod yn gwbl ryngwladol. Ni fydd yn ymwneud ag unrhyw hen dir canol diflas chwaith, ac mae’n digwydd mewn dinas sy’n prysur ail-greu ei hun, Caerdydd. ‘Rwyf wrth fy modd yn gweithio arni. Beth sy’n bosib ei gasáu?” medd Cousins.
“ Nid oes unrhyw wneuthurwr ffilm o Brydain wedi deall sut mae cerddoriaeth yn tansgorio ac yn rhoi egni i ffilm yn well na Danny Boyle. Fe ymddangosodd mewn eiliad cerddorol hudolus o swynol a bu’n gyfrifol am ffilmiau mor amrywiol â Trainspotting a Sunshine, sy’n mynegi’r eiliad honno. Deallodd beth sy’n afieithus am gerddoriaeth a chwistrellodd yr afiaith hwnnw i’w ffilmiau. Mae ei ddefnydd o gerddoriaeth mor amrywiol ag Underworld ac Iggy Pop wedi bod o gymorth i osod strwythur ar ei ffilmiau, a hefyd wedi newid y modd mae ffilm yn y gorllewin yn edrych ar gerddoriaeth. Nid oes yr un gwneuthurwr ffilm ers Martin Scorsese, neu Quentin Tarantino efallai, wedi cyfuno byd ffilm a cherddoriaeth i’r fath raddau. Dyna pam ‘rydym wedi ei wahodd i’r SoundTrack cyntaf erioed, a dyna pam ’rydym wrth ein bodd y bydd yno’n cynnal dosbarth meistr er mwyn esbonio’i ddull ef o weithio ac i gyflwyno’i ffilmiau.”
“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i Gymru; i’r rheini sy’n ymwneud â’r byd ffilm a cherddoriaeth ac i’r cyhoedd yn gyffredinol sy’n gwerthfawrogi’r dalent wych ‘rydym yn ddigon ffodus i’w chael yma,” ychwanegodd Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru.
“Bydd SOUNDTRACK yn ddigwyddiad unigryw a chyffrous fydd yn rhoi diwydiant ffilm a cherddoriaeth Cymru ar y map. Yn wir, ein gobaith yw y bydd gan yr wyl hon fanteision hirdymor sylweddol a phendant i’r diwydiant ffilm a cherddoriaeth yng Nghymru. Gyda chynulleidfa ryngwladol, bydd y cynnwys yn arloesol, yn ddifyr ac yn apelio at y diwydiant a’r cyhoedd fel ei gilydd.”
Mae rhagor o wybodaeth am SOUNDTRACK ar gael ar www.soundtrackfilmfestival.com Cyhoeddir noddwyr a hyrwyddwyr yn ystod yr wythnosau nesaf.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jenkins ar 0790 873 8763 neu ar cyswllt.
Quarterly archive
2007
2006