Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

It's My Shout 2007

Ionawr 13, 2007

Mae ITV Cymru mewn cydweithrediad â Cyngor Bwrdeistref Penybont yn chwilio am sgriptiau:

  • Sgriptiau ffilm deg munud o hud yn Gymraeg a Saesneg.
    Ein prif ddiddordeb yw "genre" comedi, ffilmiau plant ac arswyd ond rydym yn barod i ystyried "genres" eraill – hyd yn oed ffilmiau sioe cerdd.
  • Mae angen amgáu un tudalen gyda'r sgript sy'n diffinio'r stori mewn paragraff, nodiadau ar gymeriadau ac unrhyw nodiadau perthnasol.

Mae angen i'r sgriptiau ein cyrraedd ni erbyn 12 o'r gloch pnawn dydd Llun, 19eg o Chwefror 2007.

Mi fydd yr actorion yn dod o grwpïau theatre ifanc sy'n cael eu rhedeg gan Roger Burnell. Mae actorion fel Michael Sheen a Rob Bryndon yn esiampl o'r broses yma.

  • Mae angen ysgrifennu ar gyfer rhannau bechgyn a merched rhwng 8 – 25 mlwydd oed (ond mi fydd rhywfaint o gastio hun yn cael ei ganiatáu.)
  • Mae'n rhaid i'r storïau fod o ddiddordeb i'r oedran uchod.

Mi fydd saith sgript Saesneg yn cael eu dewis a mi fydd chwech yn cael eu cynhyrchu yn ystod yr Haf eleni cyn cael eu darlledu ar ITV Cymru hwyrach yn y flwyddyn.

Mi fydd tri sgript Cymraeg yn cael eu datblygu gyda dau yn cael eu cynhyrchu.

Anfonwch eich sgriptiau at sylw Anna Jones:

anna.jones@itvwales.com
neu
Adran Ddrama ITV Cymru
Y Ganolfan Deledu
Croes Cwrlwys
Caerdydd CF5 6XJ

Am unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â Clare Pompa
anthonyclare7@hotmail.com

Archif

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo