Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

TAC pact.

Datganiad i'r Wasg

7 Rhagfyr 2006

Pact a TAC yn uno i roi hwb i'r sector annibynnol

Mae TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru/Welsh Independent Producers) a Pact, y cyrff sydd yn cynrychioli buddiannau'r sector deledu annibynnol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi fod cyd-bennau'r cytundeb wedi cymeradwyo'r penderfyniad i gymryd camau tuag at gyfuno'n ffurfiol yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Pact ar y 6ed o Ragfyr.

Mae aelodau TAC wedi bod yn ceisio datblygu strategaeth newydd ers amser i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd newydd sydd wedi eu creu yn y sector annibynnol yn dilyn strategaeth newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol a'r newidiadau pell-gyrhaeddol i'r diwydiant darlledu a ddaeth yn sgil y Ddeddf Gyfathrebu yn 2003.

Yn eu tro mae'r cyfleoedd newydd hyn wedi achosi angen cynyddol i gynhyrchwyr dderbyn cynrychiolaeth effeithiol gan gymdeithas fasnach ag iddi adnoddau digonol. Mae'r penderfyniad gan aelodau TAC i uno â Pact yn ffactor allweddol i gwrdd â'u hamcanion busnes ac i ddatblygu'r sector.

Galluoga'r uniad yma rhwng TAC a Pact i swyddogion o'r corff newydd ddefnyddio adnoddau ac arbenigedd ehangach er mwyn lobïo, herio ac ymgyrchu dros eu haelodau a hefyd cynghori a chefnogi cwmnïau i sicrhau diwydiant cyfryngol cadarn ac egniol yng Nghymru drwy weithredu ar gyfleoedd ar gyfer y sector o fewn marchnadoedd y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Dywed Dafydd Rhys, Cadeirydd TAC, "Mae hwn yn newydd da iawn i ddatblygiad sector annibynnol egniol yng Nghymru yn y dyfodol. Sefydlwyd TAC ym 1984, ac ar hyn o bryd mae'n cynrychioli rhyw 70 o funsenesau sydd yn gweithio yn anad dim o fewn y maes cynhyrchu rhaglenni a chynnwys ar gyfer darlledwyr Cymreig a darparwyr eraill o wasanaeth gweledol a chlywedol.

"Mae Pact yn meddu ar adnoddau arbennig a fydd yn bendant o fudd i'r diwydiant cynhyrchu teledu a ffilm yn Nghymru ac yn eu galluogi i esblygu ac addasu law yn llaw â graddfa newid cyflym y diwydiant. Ni gymerwyd y penderfyniad i uno â Pact ar chwarae bach chwaith, ond cytunodd cyngor TAC yn unfrydol i symud ymlaen â'r uno. Adlewyrcha'r penderfyniad anghenion cynnyddol cwmnïau yng Nghymru wrth iddynt dyfu a cheisio manteisio ar farchnadoedd newydd yn y diwydiant hynod gystadleuol a thechnolegol hwn.

"Rydym hefyd wrth ein boddau o fedru datgan y bydd yr uniad yma'n darparu swyddfa ddwyieithog yma yng Nghymru a fydd yn parhau i gynrychioli ei aelodau yn eu gwaith fel darlledwyr yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y Cyfarwyddydd Cymru newydd, pan y'i apwyntir, yn cynrychioli buddiannau'r cynhyrchwyr Cymreig ar Grŵp Polisi Cenhedloedd a Rhanbarthau Pact.

"Yn ogystal â'r cynrychiolydd Pact ar gyfer aelodau yng Nghymru, sydd hefyd yn aelod o gyngor TAC, fe fydd aelod cyfetholedig ychwanegol o gyngor TAC yn ymuno â'r Grŵp Polisi Cenhedloedd a Rhanbarthau yn ystod y cyfnod trawsnewidiol, fydd o ganlyniad, yn darparu llais cryf i Gymru o fewn gweithrediad Pact.

"Rydym hefyd yn edrych ymlaen at drafodaethau maes o law gyda Pact ynghylch sefydliad bwrdd strategol dwyieithog ar gyfer Cymru er mwyn cynghori a thywys swyddfa Pact yng Nghymru i ddarparu buddiannau hir-dymor i'n haelodau."

Dywedodd Alex Graham, prif weithredwr Wall to Wall a chadeirydd Pact,

"Mae Pact yn croesawu'r uniad gyda TAC a'r cyfle i greu asianataeth gwirioneddol lled-Brydeinig a fydd yn cynrychioli buddiannau holl gynhyrchwyr y Deyrnas Unedig. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda'n haelodau Cymreig gan ddarparu'r gwasanaethau a'r genfnogaeth gynhwysfawr y mae aelodau Pact wedi dod i'w ddisgwyl."

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen, Cwmni Cyfathrebu Cambrensis ar 029 2025 7075 / 07885 416103

Sarah Walker, Pact ar 020 7067 4378 / 07787 523941

Pact yw'r asiantaeth sydd yn cynrychioli buddiannau masnachol cwmnïau ffilm, teledu, animeiddio a chyfryngau rhyngweithiol. Pact yw'r corff mwyaf o'i fath sydd yn cynrychioli cynhyrchwyr cynnyrch ar gyfer y sgrîn yn y Deurnas Unedig a'r asiantaeth fasnachol fwyaf yn y sectorau cyfryngau rhyngweithiol, ffilm a theledu.

Archif chwarterol

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo