Datganiad i'r wasg
Dydd Gwener 17eg o Dachwedd
Syniadau ffilm buddugol!
Mae dau newydd-ddyfodiad i'r diwydiant ffilm wedi ennill gwobr o £2,500 yr un, wedi iddynt ddod yn fuddugol mewn sesiwn agored yr Asiantaeth Ffilm Cymru – Cynnig Syniad i Ennill! Llwyddodd Aled Roberts o Lanelli ac Anthony James o Gaerdydd ddarbwyllo'r gynulleidfa a'r beirniaid mae eu syniad hwy oedd orau wedi sesiwn o gynnig syniadau, a gynlluniwyd fel platform ar gyfer hybu talent ifanc ym myd y ffilm yng Nghymru.
Fe wnaeth y ddau gymryd rhan yn y digwyddiad fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau 'Dysgu o'r Diwydiant' Gŵyl Ffilm Caerdydd, oedd yn gwahodd awduron sydd yn byw, neu wedi eu geni yng Nghymru i gynnig eu syniadau gwreiddiol o flaen cynulleidfa; cyd-gystadleuwyr yn ogystal â phanel o arbenigwyr y diwydiant.
Enillodd Aled, sy'n gweithio mewn ffatri rheiddiaduron ceir yn Llanelli, gyda'i syniad Graceland, ffilm wedi ei selio ar fywydau wyth cymeriad yn ystod cyfnod o dair wythnos o gwmpas cau ffatri – tra roedd syniad Anthony James, sy'n gweithio yn Ysgol Beirianneg Caerdydd, Death-Inc, ffilm-gyffro/ ffuglen wyddonol seicolegol yn ymdrin â ddiwedd y byd!
Meddai Aled, "Rwy'n hapus iawn fy mod wedi ennill – fe wnes i drio fy ngorau, a diolch byth roedd y beirniad yn hoffi'r syniad. Mae'r wobr yn fuddsoddiad ariannol sylweddol fydd yn sicr o fod yn hwb eithriadol ar gyfer datblygu fy sgiliau gwneud ffilm yng Nghymru."
Dywedodd Anthony, "Allai ddim credu'r peth, a rwy'n hapus iawn eu bod wedi hoffi fy syniad cymaint – fel arfer rwy'n ysgrifennu comedïau ond roedd y syniad yma ychydig yn wahanol. Mae hwn yn sicr yn arwydd da am yr hyn sydd i ddod."
Ychwanegodd Britt Harrison, Pennaeth Talent Asiantaeth Ffilm Cymru, "Drwy wahodd y gynulleidfa gyfan i bleidleisio dros eu hoff syniad, roedd hyn yn creu awyrgylch cyffroes iawn o amgylch digwyddiad Cynnig Syniad i Ennill! Roedd Aled ac Anthony ill dau yn enillwyr clir, diolch i'w prosiectau cymhellol. Dangosodd y digwyddiad hefyd y maes eang o storïau a phynciau y mae awduron Cymru yn ymdrin â hwy."
Diwedd
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yng Nghwmni Cyfathrebu Cambrensis ar 029 2025 7075.
Ceir gwybodaeth pellach am Asiantaeth Ffilm Cymru ar eu gwefan: Ceir gwybodaeth bellach am Asiantaeth Ffilm Cymru ar eu gwefan: www.filmagencywales.co.uk
Nodiadau i'r Golygyddion:
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor y Celfyddydau, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Busnes Creadigol Cymru) a Chyngor Ffilm y Deyrnas Unedig.
Archif chwarterol
2007
2006



