Datganiad i'r wasg
Dydd Mawrth 14 Tachwedd
Asiantaeth newydd yn rhoi ffilm yn gyntaf
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru, â sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith y bobl sydd yn gweithio neu yn ymgeisio i weithio o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru -yn cael ei lansio heddiw fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ffilm Caerdydd.
Fel rhan o'r lansiad fe fydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi ei ffilm gyntaf fel menter cyd-gyllido, gyda chefnogaeth cyllid loteri Cyngor y Celfyddydau. Fe fydd y ffilm, o'r enw Flick, yn dechrau cael ei gynhyrchu yn ardal Caerdydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Dyma ffilm gyntaf David Howard, awdur a chyfarwyddwr a anwyd yng Nghymru, wedi iddo gyfarwyddo rhaglenni dogfennol yn y gorffennol.
AV Pictures, sydd wedi cynrychioli ffilmiau llwyddiannus megis Dog Soldiers yn y gorffennol, sy'n gyfrifol am werthiant rhyngwladol y ffilm. Wrth y llyw fe fydd y cynhyrchydd o Gymru, Rik Hall yn ogystal â'r cynhyrchydd profiadol Pippa Cross (Shooting Dogs, Vanity Fair). Cyd ariennir y ffilm gan Gronfa IP Cyllid Cymru; a Derwen, y cwmni cyfleusterau ôl-gynhyrchu, sydd â lleoliadau yng Nghaernarfon a Chaerdydd; yn ogystal ag ecwiti preifat.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, "Mae lansiad yr Asiantaeth Ffilm yn garreg filltir holl bwysig i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ac i'r rheiny sydd am chwarae rôl yn ei ddyfodol. Mae cael y lansiad fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ffilm Caerdydd yn addas iawn i ni, oherwydd mae'r Ŵyl yn ffocysu ar arddangos talent gwneud ffilmiau yng Nghymru yn ogystal â darparu fforwm proffesiynol i'r diwydiant.
"Fel asiantaeth, ein gobaith dros y misoedd nesaf yw chwarae rôl gynyddol yn meithrin a chefnogi bron i bob ffased o fewn y broses gwneud ffilm – o ddatblygiad i gynhyrchiad, i arddangos ac addysgu – er mwyn creu diwydiant ffilm ddeinamig a chynaliadwy yng Nghymru. Ceir gwybodaeth bellach am elfennau allweddol ein gwaith ar ein gwefan: www.asiantaethffilmcymru.co.uk
"Mae ein datganiad o gefnogaeth i Flick yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi talent gwneud ffilmiau yng Nghymru. Rwy'n hynod falch ein bod yn cydweithio gyda chyd-arianwyr Cymreig eraill, Cyllid Cymru a Derwen, ar y prosiect hwn, sydd yn dynodi canlyniadau diriaethol Strategaeth Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wrth fagu cydweithrediad arwyddocaol a chynhyrchiol y sector.
Dywed Rik Hall, Cynhyrchydd gyda Monster Films Wales, "Mae'r gefnogaeth a'r cyngor yr ydym wedi ei gael gan Pauline Burt a Britt Harrison o Asiantaeth Ffilm Cymru wedi bod yn hynod allweddol i'r ffilm ddwyn ffrwyth o gwbl. Mae'r Asiantaeth Ffilm gyda chronfa IP a Barcud Derwen wedi galluogi i'r prosiect ddatblygu yma yng Nghymru, sydd yn anhygoel i ni yn ogystal â'r diwydiant ffilm Gymreig a'i dechnegwyr."
Ychwanegodd Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, "Mae hwn yn ddiwrnod hynod arwyddocaol i ffilm yng Nghymru. Bellach, mae gennym asiantaeth sydd yn ymrwymedig i'r diwydiant ffilm a chanddi unigolion sydd yn adnabod y diwydiant drwyddi draw. Mae Pauline a'i thîm yno i ddarparu cefnogaeth a chymorth i weithwyr y diwydiant ffilm yng Nghymru gan sicrhau y byddwn yn medru creu mwy o ffilmiau o'r safon uchaf yng Nghymru."
Dywedodd Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, "Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i greu diwydiant ffilm gynaliadwy a bywiog i Gymru ac yn dymuno'r gorau i'r Asiantaeth Ffilm yn ei holl ymdrechion. Mae sefydlu'r Asiantaeth, a'i rôl ganolog o ddod a nifer o bartneriaid creadigol allweddol gyda'i gilydd, yn hwb sylweddol a hir dymor i ddyheadau'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant ffilm yng Nghymru, nid yn unig yn y presennol ond hefyd wrth greu cyfleon cyflogaeth yn y dyfodol."
Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor y Celfyddydau, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Busnes Creadigol Cymru) a Chyngor Ffilm y Deyrnas Unedig.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke Cwmni Cyfathrebu Cambrensis ar 029 2025 7075.
Ceir mwy o wybodaeth am Asiantaeth Ffilm Cymru ar y wefan: www.asiantaethffilmcymru.co.uk.
Archif chwarterol
2007
2006



