Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Asiantaeth Ffilm Cymru

Datganiad i'r wasg

Hydref 31, 2006

Ffilmiau Ffresh yn Aber

Mae Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol yn nhref Aberystwyth, wedi derbyn ymrwymiad lawn Asiantaeth Ffilm Cymru, sydd nid yn unig wedi mabwysiadu'r digwyddiad ond hefyd yn ei gefnogi gyda grant sylweddol a'r grym penderfyniad i adeiladu a gwella ar ei lwyddiannau ar gyfer 2007. Yr Asiantaeth Ffilm yw cyfrannwr pennaf yr Ŵyl gyda phecyn ariannol o £45,000. Caiff yr

Ŵyl ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 15-16 o Chwefror 2007.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae'r Ŵyl yn dathlu ac yn gwobrwyo'r gwaith gorau gan y talentau newydd mewn delwedd symudol yng Nghymru. Mae'r Ŵyl hefyd yn darparu dolen gyswllt hanfodol rhwng addysg uwch a'r diwydiant ffilm, gan roi'r cyfle i wneuthurwyr ffilm a chyfryngau addawol i arddangos eu gwaith i rhai o fawrion y diwydiant.

Mae cystadleuwyr yn cyflwyno eu gwaith o dan ystod o naw o gategorïau, sy'n amrywio o'r ffeithiol i ffuglen, o gerddoriaeth gyfryngol i animeiddio ac o gyfryngau rhyngweithiol i ffilmiau byr – yn benodol ffilmiau o dan dri munud. Fe fydd y pum ymgeisydd gorau mewn pob categori yn cael eu darlledu yn yr Ŵyl, gyda seremoni wobrwyo arbennig yn cael ei gynnal yn ystod y digwyddiad i gyhoeddi enillwyr y categoriau. Mae'r gwaith cyfryngol llwyddiannus hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar wefan yr ŵyl, www.ffresh.com.

Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, "Dangosir ein buddsoddiad yng Ngŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru ein hymrwymiad i feithrin talent newydd ym myd y cyfryngau a ffilm yng Nghymru, yn unol â'n briff i sicrhau datblygiad diwydiant ffilm hyfyw a chynaliadwy. Roedd Gŵyl 2006 yn hynod lwyddiannus, gan ddenu dros 240 o ymgeiswyr gan fyfyrwyr o dros 12 o brifysgolion a cholegau. Rwy'n hyderus y bydd Gŵyl blwyddyn nesaf hyd yn oed yn well ac yn annog gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant ffilm i fynychu'r Ŵyl yn Aberystwyth er mwyn gweld ei hun ansawdd a chreadigwrydd y gwaith fydd yn cael ei arddangos."

Ychwanegodd Berwyn Rowlands, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Cwmni Gwyliau, a enillodd y tendr i reoli'r Ŵyl yn 2006/07, "Mae hwn yn newyddion gwych i Ŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru. Wrth i'r diwydiant cyfryngol esblygu'n gyflym yma yng Nghymru, fe fydd y gefnogaeth ariannol arwyddocaol yma gan yr Asiantaeth Ffilm yn sicrhau y byddwn yn dilyn y dechnoleg a'r technegau diweddaraf. Mae gennym gyfoeth o dalent newydd ymysg ein myfyrwyr ac mae'n anrhydedd i fedru arddangos eu cyweithiau newydd yn yr Ŵyl a medru eu darparu gyda hygyrchedd i gynulleidfa fyd-eang drwy lif byw ar ein gwefan."

DIWEDD

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lleucu Cooke, Cwmni Cyfathrebu Cambrensis ar 029 2025 7075.

Nodiadau i'r Golygyddion:

Caiff yr Asiantaeth ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ffilm y DU.

Archif chwarterol

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo