Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Cyfle

Datganiad i'r Wasg – 19 Hydref 2006

Rheolwr newydd Cyfle

Cyhoeddwyd mai Iona Williams fydd Rheolwr newydd Cyfle am gyfnod o chwe mis.

Daw'r penodiad yn sgil ad-drefnu tim rheoli hŷn Cyfle yn dilyn ymadawiad Siôn Hughes, sy wedi ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y cyfrifoldeb am arwain Cyfle am y cyfnod nesaf yn nwylo Iona Williams, Ian Wyn Roberts, y Rheolwr Cyllid, a Geraint Wyn Parry, y Rheolwr Busnes ac Ysgrifennydd.

"O ganlyniad i'r newidiadau yn Cyfle, mae'r Pwyllgor Rheoli wedi cymeradwyo trefn reolaethol fewnol gref i arwain y cwmni dros y misoedd nesaf nes y bydd y sefyllfa ynglyn ag arian y rhaglenni Ewropeaidd newydd yn gliriach," meddai Norman Williams, Cadeirydd Cyfle.

"Rydym yn ffyddiog y bydd Cyfle, dan arweiniad gadarn Iona Williams a'i thîm, yn gallu ymateb i'r her o ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel fydd yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion y diwydiant yng Nghymru."

Bu Iona Williams yn gweithio i Cyfle ers pymtheg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n bennaf gyfrifol am gynlluniau hyfforddi'r cwmni ar gyfer newydd ddyfodiaid ym maes teledu, ffilm, y cyfryngau newydd a bellach yr oes aml-blatfform. Bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Asesu'r Skillset NVQ yn Cyfle. Yn 2003, hi oedd y person cyntaf i dderbyn Gwobr Skillset am Gyfraniad Arbennig i Hyfforddiant a Datblygiad.

Ymunodd Ian Wyn Roberts â Cyfle ym mis Gorffennaf 2006 fel Rheolwr Cyllid. Yn Gyfrifydd Rheolaeth Siartriedig, enillodd brofiad eang gan weithio i Mowlem plc, West Coast Energy, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llaeth y Llan, a Theatr Gwynedd, ymysg eraill.

Bu Geraint Wyn Parry gyda Cyfle ers 1997, gyda chyfrifoldeb am geisiadau ariannol. Derbyniodd Cyfle oddeutu £2 filiwn o arian Ewropeaidd ers 2000 tuag at ei amrywiaeth o gynlluniau hyfforddi ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.

Yn ogystal â hyn, cadarnhawyd y bydd Nadine Roberts yn cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau Cyfle ar gyfer newydd ddyfodiaid; Gareth Davies am y cyfryngau newydd; a Shân Gwenfron Hughes am Gronfa Sgiliau Cymru. Mae David Ellis Jones yn parhau'n gyfrifol am hyfforddiant arbenigol Cyfle ym maes Iechyd a Diogelwch. Gwawr Williams yw Swyddog Datblygu Busnes a Marchnata'r cwmni.

Cyswllt: Geraint Wyn Parry – 01286 671000

Cyfle yw cwmni hyfforddi alwedigaethol genedlaethol y diwydiant ffilm, teledu a'r cyfryngau

rhyngweithiol yng Nghymru. Mae'n elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a sefydlwyd yn 1986. Mae ganddo swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd. Mae ei gynlluniau hyfforddi yn cynnwys y cynllun llawn amser alwedigaethol ar gyfer newydd ddyfodiaid i'r diwydiant; Dimensiwn 10, y rhaglen hyfforddi i newydd ddyfodiaid ar gyfer y cyfryngau rhyngweithiol; Cronfa Sgiliau Cymru, sy'n cynnwys y rhaglen o gyrsiau byrion ar gyfer gweithwyr y diwydiant; a'r cynllun Datblygu Cynhyrchwyr. Cyfle yw unig Ganolfan Asesu'r Skillset NVQ ar gyfer ffilm, teledu a'r cyfryngau rhyngweithiol yng Nghymru. Ariennir Cyfle gan S4C a chwmnïau teledu annibynnol mewn partneriaeth â TAC. Rhan ariennir llawer o'i gynlluniau hyfforddi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Skillset. Mae Cyfle'n Ddarparwr Hyfforddiant Cydnabyddiedig Cenedlaethol Skillset. Cydnabyddwyd Cyfle gyda gwobr Buddsoddwr mewn Pobol. Cadeirydd Cyfle yw Norman Williams o Tonfedd Eryri.

Archif chwarterol

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo