Newyddion
Hydref 16, 2006
Dau aelod newydd yn ymuno â'r asiantaeth ffilm
Mae dau aelod newydd wedi cael eu apwyntio i ymuno â Asiantaeth Ffilm Cymru. Daniel Thomas a Sue Milford sy'n ymuno â thim rheoli yr Asiantaeth â arweinir gan y Prif Weithredwr Pauline Burt, ac fe'u lleolir ym Mae Caerdydd gyda'r briff o hyrwyddo diwydiant ffilm lwyddiannus a blaengar yng Nghymru.
Ganwyd Daniel, 33 mlwydd oed, yng Nghaerdydd, er cafodd ei fagu yn Ardal y Llynnoedd yng ngogledd orllewin Lloegr, cyn dychwelyd i Gymru fel Rheolwr Datblygu Cynulleidfa'r asiantaeth. Gyda thystysgrif ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Ffilm gan y Sefydliad Ffilm Brydeinig a Gradd BA dosbarth cyntaf mewn Ffilm ac Ysgrifennu Creadigol, mae profiad a chymhwysterau Daniel yn ei wneud yn addas iawn ar gyfer swydd o fewn sector ffilm greadigol. Mae Daniel hefyd wedi gweithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn ei waith blaenorol.
Dechreuodd ei yrfa fel Rheolwr Marchnata Cynorthwyol yn Slough cyn symud i fod yn Rheolwr Marchnata sinema'r UGC yn Sheffield ac fe dreuliodd tair blynedd yn y West End yn Llundain fel Rheolwr Busnes Sinema. Yn ddiweddar mae wedi gweithio yn ne-orllewin yr Alban yn hyrwyddo mentrau rhaglennu ffilm, marchnata ac addysg ar ran Scottish Screen.
Yn ei rôl o fewn Asiantaeth Ffilm Cymru fe fydd Daniel yn gyfrifol am ehangu proffil gwneuthurwyr ffilm Gymreig yng Nghymru, gweddill y Deyrnas Unedig a thramor; gweithredu strategaeth yr asiantaeth o gynyddu ac ehangu mynediad cynulleidfa i ffilmiau arbenigol ar draws Cymru; a hefyd i gyfathrebu ac i gefnogi'r sectorau arddangos, gwyliau ffilm ac addysg ffilm.
Mae'r Asiantaeth yn derbyn ei gyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ffilm y Deyrnas Unedig. Fe fydd rhan o'r briff yn cynnwys dosbarthu cronfeydd drwy ffurf grantiau a buddsoddiadau ecwiti er mwyn ysgogi prosiectau a thalentau creadigol.
Fel y rheolwraig cyllid, fe fydd Sue Milford yn gyfrifol am gyllidebau a materion ariannol yr asiantaeth. Graddiodd Sue mewn Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol ac mae hi wedi bod yn Gyfrifydd Siartredig o fewn y gymuned fusnes yng Nghaerdydd am dros ugain mlynedd. Mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid mew sawl cwmni lleol ac yn bartner mewn cwmni Cyfrifwyr Siartredig ac ar hyn o bryd yn rhedeg ei chwmni ei hun, Cyfrifwyr Siartredig Isis. Felly, mae hi'n dod a chyfoeth o brofiad o fyd busnes a chyllid i'r Asiantaeth. Mae Sue yn byw yng Nghyncoed gyda'i thri o blant.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, "Mae hwn yn gyfnod cyffroes iawn i Asiantaeth Ffilm Cymru. Gan ein bod yn sefydliad newydd mae'n hanfodol ein bod yn apwyntio tîm rheoli cryf, profiadol a medrus. Gydag apwyntiad Sue a Daniel, rwy'n hyderus fod gennym y sbectrwm eang angenrheidiol o sgiliau i weithredu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithiol i'r diwydiant ffilm yng Nghymru."
Diwedd
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lleucu Cooke, Cwmni Cyfathrebu Cambrensis ar 029 2025 7075.
Archif chwarterol
2007
2006



