Datganiad i'r wasg
11/01/2007
Talent ar y top
Mae'r Asiantaeth Ffilm Cymru, sy'n sefydliad newydd gyda'r nôd o sicrhau bod y Diwydiant Ffilm yng Nghymru yn un hyfyw a chynaliadwy, wedi apwyntio tim o weithwyr talentog. Y Prif Weithredwr Pauline Burt sy'n arwain yr Asiantaeth ac yn ymuno â hi fydd Britt Harrison fel Pennaeth Talent. Caiff yr Asiantaeth ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ffilm y DG.
Er bod Pauline wedi bod yn gweithio yn Llundain am y pedair blynedd diwethaf i Mansfield Associates, nid yw Cymru'n ddieithr iddi, cyn hyn bu Pauline yn bennaeth cynhyrchu Sgrin, Asiantaeth Gyfryngau Cymru. Mae gan Pauline brofiad helaeth o fewn y diwydiannau creadigol, ac fel rheolwraig risg i Fanc Brenhinol yr Alban, roedd hi'n yn gyfrifol am gyllido dros bedwar deg o ffilmiau o bob cwr o'r byd gan gynnwys ffilm Mike Barker A Good Woman gyda Scarlett Johansson a Helen Hunt; Tulse Luper Suitcases gan Peter Greenway; ffilm agoriadol Sundance On a Clear Day gan Gaby Dellal gyda Peter Mullan a Brenda Blethyn; ffilm gyntaf Christopher Smith – Creep gyda Franke Potente; Opal Dream gan Peter Cattaneo (a enillodd enwogrwydd drwy'r ffilm The Full Monty); yn ogystal â Head in The Clouds gan John Duigan gyda'r actorion Charlize Theron, Stuart Townsend a Penelope Cruz.
Treuliodd Pauline flwyddyn yn Los Angeles lle bu ar gwrs cynhyrchu ym Mhrifysgol California Los Angeles sy'n uchel ei pharch ac yn gweithio i'r asiantaeth werthu rhyngwladol, August Entertainment a chwmni Alan Ladd Jnr (Braveheart) Ladd Company.
Fel Pennaeth Talent i'r Asiantaeth, cyfrifoldeb Britt Harrison yw adnabod a magu talent newydd o fewn y diwydiant ffilm. Fe fydd Britt yn gweithio gydag ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn y diwydiant er mwyn cefnogi datblygiad eu sgiliau a'u prosiectau, wrth gynnig cyngor pwrpasol a rhoi adborth penodol ar brosiectau a
buddsoddiadau ariannol.
Wedi gweithio fel ymgynghorydd sgript lawrydd ac yn fewnol fel Pennaeth Datblygiad Erthyglau i gwmni Tony Garrett – World Productions, yn ogystal a bod yn Uwch Weithredwr Sgript mewn Drama Sengl i'r BBC, daw Britt a gwybodaeth ymarferol o ddwy ochr y ffens gomisiynu i'w rôl newydd. Mae hi wedi gweithio gydag ystod eang o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr, yn amrywio o enillwyr ac enwebwyr Oscars megis Franco Zeffirelli, Al Reinert, Hugh Hudson a Jeffrey Caine – i wneuthurwyr ffilm newydd yn archwilio eu ffilmiau cyntaf.
Dywedodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, Pauline Burt, "Mae'n dda medru croesawu Britt i'r Asiantaeth. Rwy'n sicr bydd ei phrofiad, brwdfrydedd a'i gweledigaeth yn sicrhau y bydd yr Asiantaeth yn llwyddo yn ei amcanion i helpu diwydiant ffilm ac i gyflawni hyfywdra a chynaladwyedd. Wrth weithio o fewn y diwydiant, i'r diwydiant, rwy'n hyderus y gallwn, gyda'n gilydd, hyrwyddo diwylliant ffilm greadigol, ddirgrynol a llwyddiannus yma yng Nghymru."
Diwedd
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lleucu Cooke, Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Cambrensis ar 029 2025 7075.
Archif chwarterol
2007
2006



