Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Asiantaeth Ffilm Cymru

Datganiad i'r wasg

6 Hydref 2006

Pedair Wal i'r Asiantaeth Ffilm

Cyhoeddodd Asiantaeth Ffilm Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar fod ei pencadlys newydd am gael ei leoli ym Mae Caerdydd. Symudodd yr Asiantaeth, sef yr unig asiantaeth ffilm Gymreig, i mewn i'w swyddfeydd yn 33-35 West Bute St sydd gerllaw nifer o sefydliadau eraill sydd yn gweithio o fewn y sector diwydiant creadigol yng Nghymru, er enghraifft Busnes Creadigol Cymru, Skillset, Cyfle, y Welsh Music Foundation, NESTA a Griff Films.

Mae'r Asiantaeth Ffilm yn cyflogi pum aelod o staff llawn-amser, a phrif bwrpas ei sefydlu yw i ysgogi a sbarduno diwydiant ffilm gystadleuol, lwyddiannus a chynaliadwy yng Nghymru. Un o'i brif flaenoriaethau fydd i weithio i hyrwyddo a datblygu cydweithio gwell o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Yn benodol fe fydd gwaith yr Asiantaeth yn gorwedd ar draws meysydd datblygiad ffilm, cynhyrchu, arddangos (yn cynnwys gwyliau ffilmiau) ac addysg.

Fe fydd lleoliad y swyddfa newydd yn galluogi'r Asiantaeth a'i athroniaeth o 'ddrws agored' ar gyfer rhwydweithio a chyngor proffesiynol yn fwy effeithiol, ac i annog gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau a hapddalwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu lleoli yn yr un adeilad a'r Asiantaeth yn barod.

Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, "Fel asiantaeth strategol i'r diwydiant ffilm yng Nghymru mae gennym rôl holl bwysig i'w chwarae fel partner allweddol i ddosbarthu strategaeth Llwyddiant Creadigol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Uwchlaw popeth rydym yn cynrychioli'r diwydiant ac yn asiantaeth ar gyfer y diwydiant, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio ein safle ym Mae Caerdydd fel ffocws i annog cyfathrebu gwell o fewn sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru gyfan.

"Nid yn unig yw bwriad ein Asiantaeth i gyd-weithio'n effeithlon gyda'n partneriaid o fewn y diwydiant ond hefyd i sefydlu cyfrwng er mwyn i'r holl ddiwydiant yng Nghymru allu cyfathrebu'n fwy effeithiol. Er enghraifft, gwelaf yr Asiantaeth fel cyfrwng i ddatblygu perthynas agosach rhwng yr Cyngor Ffilm y DG; y Sefydliad Ffilm Prydeinig ac amryw o arianwyr ffilmiau ac asiantaethau gwerthiant ffilm ryngwladol – i fedru magu ac adnabod talent Cymru ym myd y ffilm gan agor sianeli newydd o ariannu datblygiad, cynhyrchu, dosbarthu ac addysg."

Diwedd

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yng nghwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Cambrensis ar 029 2025 7075

Archif chwarterol

2007

2006

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo