Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 02920 766931

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Canllawiau Arian Craidd ar gyfer Arddangos

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer ei hargraffu, 101 KB pdf

Nodau & Amcanion

Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw hybu diwylliant ffilm hyfyw a deinamig, drwy ehangu mynediad i, a chynyddu'r amrywiaeth o ffilmiau sydd ar gael i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Mae'r asiantaeth yn cynnig:

  • Cefnogi gweithgaredd craidd Arddangoswyr Ffilm Arbenigol yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i gyflwyno ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd[1]
  • Cymorth i wyliau ffilm yng Nghymru sydd ag arwyddocâd lleol a chenedlaethol. (Byddwch mor garedig â darllen y canllawiau sydd ar wahân)

Ble fo hynny'n addas mae'r Asiantaeth yn dymuno hybu cyd-weithio pellach rhwng yr arddangoswyr a'r gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Byddwn yn ymateb yn arbennig o gadarnhaol i gynigion sy'n datblygu'r agwedd hon.

Am ragor o wybodaeth am flaenoriaethau ariannu byddwch mor garedig â darllen Strategaethau'r Asiantaeth ar gyfer Arddangos a Gwyliau Ffilm.

Cymhwyster

  • Arian Craidd

    Bydd yr arian sydd ar gael yn y cynllun hwn yn cyfrannu tuag at gostau cyffredinol pob arddangoswr ffilm arbenigol, gan gynnwys yr arddangoswyr arbenigol hynny sy'n caniatáu i gymdeithasau ffilm ddefnyddio eu lleoliadau ar gyfer gweithgaredd sy'n uniongyrchol berthnasol i ddarpariaeth a chyflwyniad eu rhaglen o ffilmiau arbenigol.

    Mae tair haen o arian ar gael ar gyfer arddangoswyr ledled Cymru, yn seiliedig ar eu lefel o weithgaredd ffilm arbenigol, heblaw am Ganolfan y Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd fydd yn derbyn grant ariannol craidd penodol gan yr Asiantaeth Ffilm.

    Mae arian craidd Haen 1 ar gyfer arddangoswyr sy'n berchen ar raglen ffilm arbenigol hynod ddatblygedig, sy'n rhagori ar y tri gweithgaredd canlynol bob blwyddyn.

    • Nifer teitlau'r ffilmiau arbenigol a gyflwynir = 40
    • Nifer dangosiadau'r ffilmiau arbenigol a gyflwynir = 40
    • Nifer mewn cynulleidfa ar gyfer ffilmiau arbenigol= 4000

    Mae arian craidd Haen 2 ar gyfer arddangoswyr sydd wedi datblygu rhaglen o ffilmiau arbenigol ac sy'n rhagori ar y tri gweithgaredd canlynol bob blwyddyn.

    • Nifer teitlau'r ffilmiau arbenigol a gyflwynir = 20
    • Nifer dangosiadau'r ffilmiau arbenigol a gyflwynir = 20
    • Nifer mewn cynulleidfa ar gyfer ffilmiau arbenigol= 2000

    Dyfernir arian craidd ar gyfer Haen 1 a Haen 2 ar sail data manwl gywir a gesglir gan y lleoliadau, gan adlewyrchu perfformiad yn erbyn y nifer o deitlau arbenigol a ddangosir, nifer y dangosiadau a maint y cynulleidfaoedd, gan ystyried maint a dalgylch bob lleoliad.

    Mae'r Asiantaeth Ffilm hefyd wedi rhoi cronfa ddeori ar waith ar gyfer y lleoliadau hynny sydd angen cefnogaeth bellach i ddatblygu eu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilm arbenigol.

    Bydd y lleoliadau o fewn y gronfa hon yn cael grant ariannol craidd bendant, i'w hadolygu'n flynyddol, a byddant hefyd yn cael cymorth gan Rwydwaith Arddangoswyr Ffilm Arbenigol Cymru er mwyn datblygu eu rhaglen o ffilmiau arbenigol a'u cynulleidfaoedd.

    D.S. Rhaid i'r holl ddata a gasglwyd yn sgil dangosyddion perfformiad gael ei gyflwyno i'r Asiantaeth ar y dyddiad ac yn y fformat y gofynnir amdano yn eich cytundeb. Mae'r Asiantaeth yn cadw'r hawl i wrthod talu nes bodlonir y cymal hwn yn llwyr

  • Ariannu Gŵyl Ffilm

    Byddwch mor garedig â darllen canllawiau strategaeth ac ymgeisio'r Asiantaeth ar gyfer Gwyliau Ffilm, sydd ar gael ar wahân.

    Trefn Gwneud Cais

    Mae'r broses ymgeisio am arian craidd bellach ar ben.

    Meini Prawf

    Gofynnir i arddangoswyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun ariannu craidd gyflenwi'r meini craidd canlynol:

    • Data meintiol (ac ansoddol, os ar gael) manwl gywir, sy'n dangos yr ymrwymiad sydd eisoes yn bodoli i weithgaredd arddangos ffilm arbenigol am flwyddyn gyfan;
    • Ymrwymiad clir i barhau ac, os yn bosibl, ehangu amrywiaeth a nifer y ffilmiau arbenigol sydd ar gael i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Disgwylir tystiolaeth o hyn yng nghynllun busnes tair blynedd yr arddangoswr, ac mewn unrhyw ddeunydd ategol arall a gyflwynir.
    • Mentrau clir a/neu farchnata a anelir at ehangu mynediad cynulleidfa at ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd.

Dyfarniadau ac Amodau

Mae cyfanswm o £43,000 ar gael yn y gronfa ar gyfer lleoliadau Haen 1, a dyrennir yr arian i bob lleoliad yn unigol, yn unol â fformiwla Grŵp Arddangos Sinema Arbenigol Cymru (cyfeirir at hyn yn eu papur 'The Future for Specialist Film Exhibition in Wales 2006").

Mae cyfanswm o £16,000 ar gael yn y gronfa ar gyfer lleoliadau Haen 2, a dyrennir yr arian i bob lleoliad unigol, yn unol â fformiwla Grŵp Arddangos Sinema Arbenigol Cymru (cyfeirir at hyn yn eu papur: 'The Future for Specialist Film Exhibition in Wales 2006'). Rhoddir cap o £4,000 y lleoliad ar gyfer Arddangoswyr Haen 2.

Mae cyfanswm o £8,000 ar gael yn y gronfa ar gyfer lleoliadau Haen 3, a dyrennir yr arian yn gyfartal rhwng y 3 lleoliad, er mwyn cynyddu effaith bosib rhaglen ffilm arbenigol y lleoliadau hynny, o ystyried ffocws cynyddol yr Asiantaeth ar ardaloedd a chymunedau nad ydynt yn derbyn gwasanaeth digonol ar hyn o bryd. Bydd £2000 hefyd yn cael ei ddyrannu i Grŵp Arddangos Arbenigol Cymru i ddarparu cyngor ar raglennu, adnoddau a chefnogaeth gyffredinol i'r lleoliadau deori, gan roi mwy o bwyslais ar ymdrin â'r gwaith drwy rwydweithio.

Mae'r Asiantaeth yn awyddus i weithio'n glos â chydlynwyr y Prosiectau gan weithredu'n gwbl ymarferol drwy deilwra cytundeb penodol ar gyfer pob prosiect.

Bydd rhaid i'r Asiantaeth gymeradwyo bob trefniant ariannol ac unrhyw newidiadau arwyddocaol fydd yn digwydd i'r prosiect. Gall gwtogi'r nawdd, neu dynnu'r arian yn ôl yng ngoleuni newidiadau o'r fath. Bydd yr arian ar ffurf grant nad ellir ei ad-dalu, yn ôl amodau cytundeb ariannu ar wahân.

[1] Ffilm arbenigol fel y diffinnir gan yr UK Film Council ar: http://www.ukfilmcouncil.org.uk/specialisedfilmsdb