Strategaeth addysg
I lawrlwytho'r strategaeth addysg mewn fformat pdf (76 KB)
Cyflwyniad
Yn ogystal â'n blaengarwch ym myd Arddangos, 'rydym yn adnabod mai ein prif flaenoriaeth yw hybu diwylliant ffilm bywiog a deinamig , drwy gynyddu mynediad ac ehangu ystod y ffilmiau sydd ar gael i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ganolbwyntio cyson ar ddatblygiad cynulleidfa drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol, sydd yn bwriadu gwella llythrennedd ffilm ac ysgogi blas at ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r prif-ffrwd. Gwnawn hyn drwy:
- Werthfawrogi'r gwahanol ddulliau a ffyrdd o drosglwyddo addysg, yng nghyd-destun y math o gynulleidfa fydd yn cael ei thargedu (yn ôl oed, er enghraifft, lleoliad, iaith a grwpiau diddordeb);
- Ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer mentrau addysgol ffurfiol ac anffurfiol, ar draws amrediad o lwyfannau cyflenwi, gan gynnwys lleoliadau arddangos, ysgolion, mewn gweithgareddau arbennig ac oddi mewn i'r gymuned; yn ogystal â phosibiliadau ar-lein, DVD a CD-ROM. Fel Asiantaeth ffilm, mae gennym ddiddordeb cynhenid mewn gweithgaredd addysgol sy'n cael ei arwain gan leoliad, a'n nod parhaol yw ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mor niferus ac mor eang â phosib fydd yn gallu cael mynediad i ffilmiau arbenigol mewn lleoliadau arddangos. 'Rydym yn sylweddoli, fodd bynnag, nad oes mynediad rhwydd ar gael ar gyfer pob grŵp ac unigolyn, yn enwedig wrth dargedu cynulleidfaoedd ifanc oddi mewn i gyfyngiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, er enghraifft, sydd â chyllidebau addysgol cyfyngedig, neu mewn perthynas â chymunedau daearyddol anghysbell.
Egwyddorion arweiniol
- 'Rydym yn gweithredu polisi cyflwyno 'drws agored' parhaol. Hynny yw, byddwn yn derbyn cyflwyniadau ar unrhyw adeg, gan unrhyw un ac yn ystod unrhyw gyfnod o ddatblygiad y cyflwyniad. Os bydd hi'n ddyddiau cynnar ar y cyflwyniad, ond fod Bwriadau ac Amcanion ac Egwyddorion Arweiniol yr Asiantaeth yn cael, neu yn debygol o gael, eu cyflawni , byddwn yn cyd-weithio i ehangu ar y cyflwyniad hwnnw i'w hyrwyddo i gyrraedd ffurf y bydd yn bosibl i ni ei ariannu;
- Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant, gan gynnwys Grŵp Arddangos Ffilm Arbenigol Cymru, Ffederasiwn Cymdeithasau Ffilm Prydain – Grŵp Cymru, sefydliadau addysgol gan gynnwys Addysg y Cyfryngau Cymru, Addysg Ffilm, Reel Education, ACCAC, CBACC, Sefydliad Ffilm Prydain a'r UKFC;
- Mae'r Asiantaeth yn bwriadu ymateb yn gyflym, yn wybodus ac yn gwrtais bob tro.
Gweithgareddau craidd
Gweithgaredd addysgol craidd yr asiantaeth yw cefnogi a hyrwyddo lleoliadau arddangos, cymdeithasau ffilm a darparwyr addysg sydd â chyfrifoldeb i hybu llythrennedd ffilm, i'w cynorthwyo i weithredu cynllun datblygu cynulleidfa; i adnabod, i roi clust i, a deall
gofynion ac anghenion y sector hon, a ble maent yn cyfarfod ein Bwriadau a'n Amcanion , ymateb i'r gofynion a'r anghenion hynny gorau gallwn ni. Wrth weithredu'r gweithgareddau craidd hyn byddwn yn :
- Darparu safle gwe gynhwysfawr a digwyddiadau 'mynediad agored' ble gall yr Asiantaeth gyflwyno'i chynlluniau a'i gweithgareddau a ble gall unrhyw un sydd â diddordeb gyfarfod a thîm yr Asiantaeth, i gynnig syniadau a thrafod pynciau o ddiddordeb;
- Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer rhaglen i ddatblygu cynulleidfa a gweithgareddau llythrennedd ffilm yng Nghymru, drwy gydweithio â Grŵp Arddangos Ffilm Arbenigol Cymru, sefydliadau addysgol, BFI, CCC a UKFC.
- Cyfrannu tuag at adolygiad y strategaeth ar lefel Brydeinig, a gweithredu argymhellion ble mae hynny'n berthnasol;
- Ymgynghori â'r sector arddangos ac addysgol i benderfynu ar gryfderau a gwendidau'r cynllun presennol ar gyfer datblygu cynulleidfa a llythrennedd ffilm; adnabod y rhwystrau sy'n ein hatal rhag cyrraedd cynulleidfaoedd penodol; rhannu syniadau ar sut i gyrraedd ac ysgogi'r cynulleidfaoedd hynny (o ran oed, lleoliad, iaith a grwpiau diddordeb);
- Darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer cynlluniau addysgol ffurfiol ac anffurfiol, er mwyn gwella llythrennedd ffilm – gan gynnwys archwilio iaith ffilm, cynnwys diwylliannol a chael y potensial i ennyn diddordeb mewn ffilm arbenigol – ar draws pawb o bob oed ledled Cymru. Gall unrhyw un roi cyflwyniad ar unrhyw adeg ar sail prosiect-wrth-brosiect, neu fel llechen o hyd at 3 prosiect. Mae'r Asiantaeth yn cydnabod y pwysau sydd ar Adnoddau Dynol ac felly'n annog darpariaeth ar gyfer Rheolwr Prosiect oddi mewn i'r gyllideb ar gyfer pob prosiect. Yn arferol byddem yn rhagweld ariannu hyd at 75% o'r gost o unrhyw brosiect, neu hyd at £5,000 y prosiect, gydag uchafswm o £10,000 i unrhyw un darparwr mewn un flwyddyn. 'Rydym yn annog ymrwymiad yr arddangoswr sydd â ffocws penodol ar ffilm fel cyfrwng, ble bynnag fyddai hynny'n bosib, er 'rydym yn cydnabod y gellir hefyd sbarduno llythrennedd ffilm drwy gyfryngau eraill. 'Rydym hefyd yn annog ymgyfrannu gan gynrychiolwyr ac ymarferwyr y diwydiant ffilm, ble bynnag fo hynny'n bosib, er mwyn ennyn diddordeb a throsglwyddo profiad uniongyrchol. Bydd ein cytundebau nawdd yn cael eu teilwra ar gyfer prosiectau penodol ac yn adnabod, ac yn cytuno ar, amcanion clir a dulliau i gasglu data ac i asesu effaith y prosiect;
- Adolygu'r ddarpariaeth ac adolygu dylanwad cynlluniau addysgol 18-24 mis i mewn i'n rhaglen weithgareddau, gan ofyn i un neu fwy o'r Rheolwyr Prosiect i yrru amrediad o weithgareddau allan ar draws Cymru gyfan, gan ddefnyddio deunyddiau sydd eisoes yn bodoli a gan ychwanegu atynt pan fo angen;
- Datblygu cronfa ddata ganolog o becynnau addysgol a deunyddiau, fel y crëwyd gan y gwahanol weithgareddau 'rydym yn eu cefnogi;
- Cymryd rhan mewn, a chyfrannu tuag at, y Grŵp Gwaith Strategaeth mewn Addysg, Prydain, a byddwn yn adolygu'r strategaeth yn sgil canfyddiadau'r grŵp, pe bai raid.
Gweithgareddau ychwanegol
Yn ogystal â'n gweithgareddau craidd, byddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol ble bydd y rheini'n hyrwyddo Bwriadau ac Amcanion yr Asiantaeth a ble bydd cyfyngiadau'r gyllideb yn caniatáu. Er enghraifft, byddwn yn:
- Ble fydd hynny'n ymarferol ac yn fanteisiol, annog gwneuthurwyr ffilm fydd yn elwa o nawdd cynhyrchu a datblygu'r Asiantaeth i gyflenwi deunyddiau fyddai'n bosib eu defnyddiol ar gyfer dibenion addysgol, fel byrddau stori, sgriptiau saethu, golygfeydd sampl a golygfeydd na ddefnyddiwyd yn y cynhyrchiad, cynlluniau ar gyfer y cynhyrchiad a chynlluniau ar gyfer y gwisgoedd. Efallai y byddai hefyd yn bosib annog sefydliadau eraill i ddarparu deunyddiau tebyg, gan efelychu darpariaeth gyffelyb i Archifau Cenedlaethol, er enghraifft, er budd y Cyhoedd.
- Ceisio adnabod a dylanwadu ar ffynonellau ychwanegol o nawdd er mwyn ein galluogi i ehangu ein gweithgaredd addysgol.


