Canllawiau addysg yr Asiantaeth Ffilm
I lawrlwytho'r canllawiau addysg mewn fformat pdf (115 KB)
Nodau & amcanion
Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw hybu diwylliant ffilm bywiog a deinamig, drwy ehangu mynediad a lledu ystod y ffilmiau sydd ar gael i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ganolbwyntio cyson ar ddatblygiad cynulleidfa drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol, sydd yn bwriadu gwella llythrennedd ffilm ac ysgogi blas at ffilmiau arbenigol¹, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd, ar draws pobl o bob oed.
Mae'r Asiantaeth yn cynnig:
- cefnogaeth ariannol ar gyfer mentrau addysg ffurfiol ac anffurfiol, ar draws amrediad o lwyfannau cyflenwi, gan gynnwys lleoliadau arddangos, ysgolion, mewn gweithgareddau arbennig ac oddi mewn i'r gymuned; yn ogystal â phosibiliadau ar-lein, DVD a CD-ROM.
- polisi drws agored ble gallwn gynnig cyngor ar brosiectau penodol i unrhyw ymgeisydd.
Mae manylion pellach am flaenoriaethau ariannu ar gael yn Strategaeth Addysg yr Asiantaeth.
Cymhwyster
Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu derbyn ar unrhyw amser ac ar unrhyw adeg o ddatblygiad unrhyw brosiect. Os bydd hi'n ddyddiau cynnar ar y cyflwyniad, ond fod Bwriadau ac Amcanion ac Egwyddorion Arweiniol yr Asiantaeth, fel y disgrifir yn ein Strategaeth Addysg, yn cael, neu yn debygol o gael, eu cyflawni, byddwn yn cyd-weithio i ehangu ar y cyflwyniad hwnnw i'w hyrwyddo i gyrraedd ffurf y bydd yn bosibl i'w ariannu.
Gellir rhoi cyflwyniadau ar sail prosiect-wrth-brosiect, neu fel llechen o hyd at 3 prosiect ar unrhyw un amser. Yn y lle cyntaf mae'n rhaid i bob prosiect ddigwydd yng Nghymru, a chyfrannu tuag at ddatblygiad y gynulleidfa frodorol.
Mae'r Asiantaeth yn cydnabod y pwysau ar Adnoddau Dynol sydd yn wynebu nifer o sefydliadau, ac felly'n annog ymgeiswyr i ddarparu ar gyfer Rheolwr Prosiect neu bersonél ychwanegol i hyrwyddo trosglwyddiad fel rhan o'r cyllid arfaethedig. Mae costau cymwys hefyd yn cynnwys ymchwil, cynhyrchu a dyblygu deunyddiau, teithio a threuliau, marchnata a dadansoddi.
Fel Asiantaeth mae gennym ffocws penodol ar ffilm fel cyfrwng, ac yn annog cyfraniad gan yr arddangoswr fel bod ffilmiau'n cael eu dangos mewn lleoliad sinematig ble bynnag fo hynny'n bosibl, er ein bod hefyd yn cydnabod y gellir sbarduno llythrennedd ffilm drwy gyfryngau eraill. 'Rydym hefyd yn annog cyfraniad gan gynrychiolwyr ac ymarferwyr y diwydiant ffilm, ble bynnag fo hynny'n bosibl, er mwyn ennyn diddordeb a throsglwyddo profiad uniongyrchol.
Criteria dewis
Pan fyddwn yn dewis prosiectau byddwn yn ystyried y criteria canlynol:
- y potensial i wella llythrennedd ffilm a sbarduno'r awydd am ffilm arbenigol oddi mewn i'r grŵp targed;
- amcanion clir y gellir eu mesur;
- casglu data manwl gywir;
- ymarferoldeb y prosiect yn nhermau cyllideb a graddfa amser;
- cynnwys elfennau o gyd-weithio wrth gyflawni'r prosiect, ble fo hynny'n addas, a ble gellir cael 'gwerth ychwanegol';
- arfer da yng nghyd-destun cyfleoedd cyfartal a mynediad.
Trefn gwneud cais
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais. Gellir llawr lwytho hon o'r wefan a'i chyflwyno fel copi caled, neu gallwch gysylltu â'r Asiantaeth er mwyn i ni yrru copi caled atoch chi.
Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn drwy gydol y flwyddyn (h.y. ni fydd rowndiau/na dyddiad cau yn bodoli ar gyfer ariannu).
Penderfyniadau ariannu
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan y Rheolwr Datblygu Cynulleidfa a'r Prif Weithredwr, a byddwn yn galw ar y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn ôl yr angen. Bydd penderfyniadau fel arfer yn cael eu gwneud o fewn 4 wythnos, a'u cadarnhau drwy lythyr.
Dyfarniadau ac amodau
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn arian hyd at 75% o gostau unrhyw brosiect penodol, gyda chap o £5000, gydag uchafswm o £10,000 i unrhyw un darparwr mewn unrhyw un flwyddyn. Mae gan yr Asiantaeth hawl i gyflwyno gwobrau pellach os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Bydd nawdd yr Asiantaeth ar ffurf grant-cymorth fydd ddim angen ei dalu nôl, a bydd yn ddibynnol ar gytundeb ysgrifenedig rhwng yr Asiantaeth a'r ymgeisydd – cytundeb fydd yn cael ei deilwra i amgylchiadau penodol ac a fydd yn cynnwys anghenion am gasglu data sydd yn berthnasol i'r prosiect (e.e. nifer ac amrediad demograffig y cyfranogwyr, grwpiau diddordeb, amrywiaethau ethnig, ayb, fel sy'n addas). Gall yr Asiantaeth dynnu unrhyw nawdd yn ôl, neu gynnig swm is o arian, os digwydd unrhyw newidiadau penodol yn amgylchiadau'r ymgeisydd a/neu'r prosiect arfaethedig.
Bydd gofyn i gopïau o ddeunyddiau addysgiadol a ddatblygir ar gyfer unrhyw brosiect penodol gael eu cadw gan yr Asiantaeth Ffilm, er mwyn creu adnodd canolog, a bydd caniatâd yn cael ei roi i ddeunyddiau o'r fath fod ar gael i ddarparwyr addysg eraill yn y dyfodol.
Mae'r Asiantaeth yn awyddus i weithio'n agos â darparwyr addysg, a bydd cefnogaeth barhaol ar gael gan Reolwr Datblygu Cynulleidfa'r Asiantaeth, a'r Prif Weithredwr, ble fo hynny'n addas.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd o'ch prosiect cyn gwneud cais, cysylltwch â:
Dan Thomas
Rheolwr Datblygu Cynulleidfa
Asiantaeth Ffilm Cymru
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd
CF10 5LH
E-bost: daniel@filmagencywales.com
¹ Diffinnir ffilm arbenigol gan yr UK Film Council


