Asiantaeth Ffilm Cymru

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Addysg

'Rydym yn cefnogi polisi eang ar addysg ffilm i ategu ein prif fwriad o greu a chynnal diwylliant ffilm deinamig ledled Cymru. Ein nod yw gwella llythrennedd ffilm a hybu'r awydd am ffilmiau arbenigol, diwylliannol a ffilmiau nad ydynt yn perthyn i'r brif ffrwd.

'Rydym bob amser yn croesawu sgyrsiau anffurfiol yn ogystal â cheisiadau ffurfiol. 'Rydym yma i gynnig cymorth, a 'rydym yn annog unigolion i drafod eu cynigion cyn gwneud cais swyddogol, os ydynt yn dymuno. Mae ein strategaeth a'n hariannu yn cwmpasu addysg ffurfiol ac anffurfiol (h.y. cwricwlwm a di-gwricwlwm), i bob oed ac ymhob rhan o'r gymuned, gan gynnwys amrywiaeth o lefydd a dulliau o arddangos – drwy arddangoswyr, ysgolion, digwyddiadau arbenigol neu oddi mewn i'r gymuned, yn ogystal â photensial ar-lein, DVD a CD-ROM.

Er mwyn gwneud cais ffurfiol am gefnogaeth ariannol, llawr lwythwch ein ffurflenni Canllawiau a Cheisiadau. Gallwch hefyd ofyn am gopi caled.

Am wybodaeth bellach neu i gychwyn sgwrs, cysylltwch â:

Dan Thomas
Rheolwr Datblygu Cynulleidfa

Ffôn Uniongyrchol: 029 2046 7488
daniel@filmagencywales.com

Ymunwch â'n rhestr bostio

Looking for regular updates. Welsh film makers, join our mailing list.

ACW logo

UKFC logo

WAG logo