Strategaeth datblygu
I lawrlwytho'r strategaeth ddatblygu mewn fformat pdf (74 KB)
Cyflwyniad
Blaenoriaeth yr Asiantaeth yw adnabod a meithrin talent gwneuthurwyr ffilm yng Nghymru – yn enwedig awduron, cyfarwyddwyr, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr – drwy annog a chefnogi eu gwaith, eu huchelgais a'u llwyddiant. Gwnawn hyn drwy:
- Gynnig cefnogaeth i ddatblygu prosiect penodol, gan gynnwys cyngor, ariannu a chynnig cymorth i dargedu'r farchnad;
- Wella ac ehangu proffil y talent i gyllidwyr trydydd parti, dosbarthwyr, arianwyr a chyfleoedd marchnad eraill;
- Gynnig cyngor cyffredinol a gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd yn y diwydiant a hyrwyddo mynediad tuag atynt, ble bynnag fydd hynny'n bosib;
- Adnabod anghenion hyfforddi penodol; gweithio â sefydliadau hyfforddi i ateb yr anghenion hynny, a phan fo hynny'n angenrheidiol, greu a gweithredu cyfleoedd hyfforddi a gynlluniwyd yn arbennig.
Egwyddorion arweiniol
Wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn bydd yr Asiantaeth yn dilyn yr egwyddorion arweiniol canlynol:
- 'Rydym yn bwriadu cefnogi datblygu'r prosiectau hynny sydd â photensial i fod o fudd i dalent gwneuthurwyr ffilm Cymru. Bydd y ffocws pennaf yn cael ei roi i brosiectau sy'n cynnwys unrhyw un o'r talentau canlynol: awduron, ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr/cwmnïau cynhyrchu. Bydd raid i brosiectau heb y mewnbwn uchod ddangos budd i Gymru drwy ddulliau amgen, fel cynnwys cyfleoedd mentora i ddarpar-awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a Phenaethiaid Adrannau. Mae'n rhaid i'r cyfleoedd hyn gael eu cynnig yn ystod datblygiad y prosiect, ac yn ystod y cyfnod cynhyrchu os fydd hynny'n bosib, os fydd y ffilm yn cael ei chynhyrchu ar y diwedd.
- 'Rydym yn gweithredu polisi cyflwyno 'drws agored' parhaol. Hynny yw, byddwn yn derbyn cyflwyniadau ar unrhyw adeg, gan unrhyw un ac yn ystod unrhyw gyfnod o ddatblygiad y cyflwyniad. Fodd bynnag, os fydd ceisiadau sydd yn nyddiau cynnar eu datblygiad (cyn y drafft cyntaf) yn cael eu cynnig, bydd yr ariannu yn dibynnu ar i'r awdur neu'r ysgrifenwr-gyfarwyddwr gynnig deunydd ategol, megis sampl o sgriptiau ffilm y maent eisoes wedi'u hysgrifennu, neu esiamplau o'u gwaith sydd wedi eu cynhyrchu mewn cyfrwng arall (e.e. drama deledu). Fodd bynnag, gellir rhoi cyngor ar y darpar-brosiectau hyn heb dderbyn unrhyw ddeunydd ychwanegol.
- Prif fwriad yr Asiantaeth yw datblygu ffilmiau hir ar gyfer eu dosbarthu i theatrau. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried ariannu datblygu ffilmiau teledu sy'n canolbwyntio ar ryw 'ddigwyddiad' arbennig ac sydd o safon uchel, yn enwedig ble mae yna botensial i'w dosbarthu i theatrau. Nid ydym yn rhagweld cefnogi cynlluniau ar gyfer Ffilmiau Byr ar hyn o bryd.
- Bwriad yr Asiantaeth yw cefnogi datblygu ar draws pob 'genre' a holl ystod gyflawn cyllidebau cynhyrchu, o lais unigryw'r 'auteur' i driniaethau sy'n perthyn i'r brif ffrwd. Mae'r Asiantaeth yn bwriadu bod yn gefnogol iawn i bob dull gwreiddiol a dramatig o adrodd stori ac o wneud ffilm, os ydynt yn emosiynol ac yn angerddol, yn ddeallus, yn dreiddgar ac yn onest.
- O anghenraid bydd cefnogaeth ariannol yn cael ei sianelu tuag at brosiectau fydd yn gymwys i gael eu cydnabod fel Ffilmiau Prydeinig fel y diffinir yn y Ddeddf Ffilm 1985.
- Mae'r Asiantaeth yn bwriadu ymateb yn gyflym, yn wybodus ac yn gwrtais bob tro.
Gweithgareddau craidd
Gweithgarwch datblygu craidd yr Asiantaeth yw cynnig cefnogaeth i ddatblygu prosiectau penodol, fydd yn cynnwys cyngor, ariannu a chymorth i dargedu'r farchnad; i adnabod, i roi clust i, i ddeall gofynion ac anghenion y gymuned ffilm ac i ymateb i'r gofynion a'r anghenion hynny, gorau gallwn ni. Gwnawn hyn drwy:
- Ddarparu gwasanaeth gwybodaeth fydd yn cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â chynhyrchu ffilm a hyfforddiant i'r cyfeiriad cywir. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wefan gynhwysfawr a digwyddiadau 'mynediad agored' ble gall yr Asiantaeth gyflwyno'i chynlluniau a'i gweithgareddau a ble gall unrhyw un sydd â diddordeb gyfarfod a thîm yr Asiantaeth a thrafod pynciau o ddiddordeb.
- Ddarparu gweithdai a threfnu cyfarfodydd penodol er mwyn cael gwybodaeth am fynediad i'r diwydiant. Byddwn yn gwahodd cynghorwyr, arbenigwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau sy'n gweithio yn y diwydiant i gynnal y gweithgareddau hyn.
- Ddarparu arian datblygu i amrediad o brosiectau, tua 20 ar unrhyw amser penodedig. Bydd y gefnogaeth yn cael ei theilwra i anghenion bob prosiect yn unigol a bydd y cyllid yn cael ei drefnu mewn ymateb i'r sgript, yr amserlen, y castio, y gweithdai/ymarferion, y cyllid, y cynllun ariannu a chostau datblygu arferol eraill. Wrth benderfynu ar gyfansoddiad datblygu 'llechen' yr Asiantaeth, bydd prosiectau sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth datblygu gan Cyngor Celfyddydau Cymru a/neu Sgrin – Asiantaeth y Cyfryngau, Cymru – yn cael eu hail-werthuso i gyd-fynd â bwriadau ac amcanion yr Asiantaeth, ynghyd â chyflwyniadau eraill sydd wedi eu derbyn drwy drefn 'mynediad agored' yr Asiantaeth. Byddwn yn derbyn cyflwyniadau datblygu gan awduron unigol (h.y. datblygu deunydd ar 'spec', heb ymlyniad cynhyrchydd), a gan dimau creadigol (wedi'u cyflwyno drwy gwmni cynhyrchu, gan gynnwys awdur(on)/ysgrifenwr-gyfarwyddwr a/neu gyfarwyddwr). 'Rydym yn rhagweld y bydd y gefnogaeth ariannol yn cael ei defnyddio gyntaf oll ar gyfer hyrwyddo datblygiad drafftiau o sgriptiau ffilm sydd eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, bydd rhai symiau arian ar gael i helpu awduron i ddatblygu o gysyniad, amlinelliad neu driniaeth i ddrafft cyntaf, a bydd yr Asiantaeth yn rhoi blaenoriaeth i'r cysyniadau, amlinelliadau neu driniaethau hynny sydd â syniad clir am ddiwedd eu ffilm, a ble mae deunydd ychwanegol (fel samplau o sgriptiau ffilm a ysgrifenwyd gan yr ymgeisydd) a/neu ddeunydd a gynhyrchwyd mewn cyfrwng gwahanol (e.e. drama deledu) eisoes ar gael.
- Gefnogi cynhyrchwyr drwy gyd-weithio'n agos wrth ddatblygu eu prosiectau ac wrth adnabod a hyrwyddo posibiliadau cyllido a dosbarthu. Yn ogystal â hyn, er na allwn roi ein harian yn uniongyrchol tuag at 'gefnogi cwmni', 'rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaol y cynhyrchwyr at ddatblygiad eu prosiectau a'r talent creadigol, a cheisiwn eu helpu ble bynnag fydd hynny'n bosib, naill ai drwy adnabod a hyrwyddo cefnogaeth cwmni trydydd parti, neu drwy gynnig arian datblygu'n uniongyrchol i nifer o'u prosiectau ar unrhyw adeg, i gynnwys gorbenion ychwanegol y cwmni.
Gweithgareddau ychwanegol
Yn ogystal â'n gweithgareddau craidd, byddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol pan fydd y rheiny'n hyrwyddo Bwriadau ac Amcanion yr Asiantaeth, ac yn dangos budd sylweddol i dalent gwneuthurwyr ffilm yng Nghymru, ble mae cyfyngiadau'r gyllideb yn caniatáu. Er enghraifft, byddwn yn:
- Gweithio gyda'r rheiny sydd wedi derbyn nawdd ar gyfer datblygu a chynhyrchu, a chyd-weithio â sefydliadau trydydd parti ac unigolion gan obeithio creu cyfleoedd mentora a phrofiad pellach. Yn ogystal, byddwn yn rhannu gwybodaeth a byddwn yn cydweithio â sefydliadau hyfforddi sydd eisoes yn bodoli, a byddwn yn ceisio ateb anghenion, naill ai drwy gynlluniau hyfforddi sydd eisoes yn bodoli, neu drwy gynllunio a gweithredu darpariaeth hyfforddiant arbennig, ble fo angen.
- Cynllunio a gweithredu cynlluniau penodol i annog datblygiad ceisiadau o wahanol ffynonellau, megis awduron, awduron dramâu, newyddiadurwyr a chyfarwyddwyr hysbysebion, gyda'r bwriad o ddarganfod lleisiau newydd fydd â'r potensial i gyflwyno gwaed newydd i'r gymuned ffilm bresennol.
O bryd i'w gilydd, er enghraifft pan fydd angen defnyddio dull anghyffredin o weithio ar ffilm, neu os bydd Cyfarwyddwr amhrofiadol yn cael ei benodi, bydd yr Asiantaeth yn ariannu rhai golygfeydd sampl/peilot fel rhan o broses datblygu'r prosiect, i ganiatáu arbrofi ac i greu 'cerdyn galw' i'r gwneuthurwr ffilm, a fydd efallai'n hwyluso codi arian ar gyfer y prosiect.


