Canllawiau datblygu'r Asiantaeth Ffilm
I lawrlwytho'r canllawiau datblygu mewn fformat pdf (167 KB)
Amcanion cyffredinol a phenodol
Bwriad yr Asiantaeth yw adnabod a meithrin gwneuthurwyr ffilm Cymreig – yn enwedig awduron, cyfarwyddwyr, a chynhyrchwyr – drwy gefnogi ac annog datblygiad eu gwaith a'u huchelgais.
Mae'r Asiantaeth yn cynnig:
- cefnogaeth, cyngor a chyllid ar gyfer datblygu unrhyw brosiect penodol;
- cymorth i godi proffil y talent gydag arianwyr trydydd parti, dosbarthwyr, comisiynwyr a chysylltiadau eraill o fewn y diwydiant;
- cyngor a gwybodaeth ynglŷn â chyfleodd hyfforddi yn y diwydiant, gan hyrwyddo mynediad atynt ble mae hynny'n bosib;
- adnabod anghenion hyfforddi penodol, gan gyd-weithio â sefydliadau er mwyn ateb y gofynion hynny, a chynllunio a gweithredu cyfleoedd hyfforddi arbennig, ble fydd hynny'n angenrheidiol.
Mae'r Asiantaeth yn cefnogi prosiectau sydd yn amrywio o ran genre a chyllid, gan gefnogi tua 20 prosiect mewn datblygiad ar unrhyw adeg. Byddwch cystal â darllen strategaeth datblygu'r Asiantaeth am fanylion pellach ar flaenoriaethau ariannu.
Ariannu datblygiad prosiect penodol
Cymhwyster
Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu derbyn ar unrhyw amser ac ar unrhyw adeg o ddatblygiad y prosiect. Derbynnir ceisiadau gan unigolion (ar gyfer costau datblygu sgript) neu gan gynhyrchydd neu gan gwmni cynhyrchu. Gall cynhyrchwyr a chwmnïau cynhyrchu wneud cais am gyllid ar gyfer amrediad eang o weithgaredd datblygu, gan gynnwys ailysgrifennu sgriptiau, amserlennu, cyllido, castio, mynd i ymweld â lleoliadau, a chostau sydd ynghlwm â chodi diddordeb arianwyr, gwerthiant a dosbarthu.
Mae'r Asiantaeth yn annog cyfraniad arianwyr trydydd parti fel rhan o'r cynigion datblygu, yn enwedig pan fydd hyn yn dangos galw yn y farchnad. Fodd bynnag, bydd yr Asiantaeth hefyd yn cysidro ariannu 100% o gostau arian parod y datblygiad ar sail cyfraniadau 'mewn ffyrdd eraill' fydd yn cael eu gwneud gan yr ymgeisydd a/neu gan ei bartneriaid drwy gyd-gyllido. Nid yw'n bosib digolledu cyfraniadau 'mewn ffyrdd eraill' fel hyn ac efallai bydd y rhain ar ffurf ffioedd is, a/neu gyfraniadau tuag at gyfleusterau ac adnoddau.
Efallai y byddwn yn rhyddhau cyllid datblygu pellach ar gyfer gweithdai a/neu ar gyfer saethu golygfeydd prawf yn ystod y datblygiad, ble fydd hynny'n fanteisiol. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd i'r prosiectau hynny sydd eisoes yn derbyn arian datblygu'r Asiantaeth.
Criteria dewis
Pan fyddwn yn dewis prosiectau byddwn yn ystyried y criteria canlynol:
- ansawdd, potensial a gwreiddioldeb y gwaith;
- y budd i wneuthurwyr ffilm Cymreig;
- ymarferoldeb y prosiect yn nhermau cyllid a photensial y farchnad;
- cymhwyster y prosiect i gael ei hadnabod fel ffilm Brydeinig, yn dilyn termau'r Ddeddf Ffilm 1985 (Diwygiedig 1999). (Edrychwch ar wefan DCMS am fanylion pellach : www.culture.gov.uk ).
- amrediad a nifer y prosiectau sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan yr Asiantaeth.
Yn ychwanegol i'r uchod mae'n rhaid i'r Asiantaeth ddilyn cyfarwyddiadau ar gyfer asesu ceisiadau sydd wedi eu gosod gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1993 (Diwygiedig 1998). Gweler Atodiad 1.
Trefn gwneud cais
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais. Gellir llawr lwytho hon o'r wefan a'i chyflwyno fel copi caled, neu gallwch gysylltu â'r Asiantaeth er mwyn i ni yrru copi caled atoch chi.
Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn drwy gydol y flwyddyn, ac mae'r Asiantaeth yn bwriadu rhoi ymateb cyntaf o fewn 4 wythnos i dderbyn y cais.
Penderfyniadau ariannu
Bydd penderfyniadau ariannu hyd at £25,000 yn cael eu gwneud gan y Prif Weithredwr, y Pennaeth Talent a'r Swyddog Datblygu Talent.
Bydd penderfyniadau ar geisiadau ariannol rhwng £25,000 a £50,000 yn cael eu gwneud gan yr uchod a gan Gadeirydd Bwrdd yr Asiantaeth.
Bydd penderfyniadau ariannol ar fwy na £50,000 yn rhwym i gymeradwyaeth y Bwrdd.
Bydd pob penderfyniad yn cael ei gadarnhau drwy lythyr.
Pan na fydd prosiect yn llwyddiannus byddwn yn darparu esboniad byr.
Byddwn yn gyrru llythyr o gynnig i geisiadau llwyddiannus fydd yn manylu ar ofynion penodol yr ariannu. Yn ychwanegol at hyn, bydd prosiectau llwyddiannus yn dibynnu ar dermau ariannu arferol yr Asiantaeth.
Dyfarniadau ac amodau
Mae'r cynnig o gyllid yn parhau ar agor am gyfnod penodol, a bydd manylion am hyn yn y llythyr o gynnig. Os na fydd defnydd o'r arian yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn, efallai y byddwn yn tynnu'r cynnig yn ôl.
Mae prosiectau sydd yn derbyn nawdd yn dibynnu ar gytundeb datblygu sy'n cynnwys cynllun ariannu a gytunwyd arno, ac ar dargedau datblygu penodol.
Bydd buddsoddiad yr Asiantaeth yn cael ei ad-dalu pan fydd y prosiect yn mynd i gynhyrchu, a daw yn ad-daladwy ar ddiwrnod cyntaf prif ffotograffiaeth. Mae premiwm o 50% fel arfer yn ofynnol ar y cyllid datblygu.
Bydd yn rhaid i'r Asiantaeth gymeradwyo bob trefniant cyllid ac unrhyw newidiadau arwyddocaol i'r prosiect. Efallai y bydd yn tynnu'r nawdd yn ôl, neu yn lleihau'r nawdd, yn sgil newidiadau o'r fath.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae'r Asiantaeth wedi'i rwymo i egwyddor cyfleoedd cyfartal. Darllenwch ddogfennau polisi'r Asiantaeth am wybodaeth bellach.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd o'ch prosiect cyn gwneud cais, cysylltwch â:
Britt Harrison
Pennaeth Talent
Asiantaeth Ffilm Cymru
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd
CF10 5LH
E-bost: britt@filmagencywales.com
Atodiad 1
Mae Deddf y Loteri Genedlaethol 1993 (Diwygiedig 1998) yn amlinellu'r criteria allweddol y dylid eu hystyried wrth wneud cais am nawdd. Mae'r Asiantaeth yn dehongli'r rhain fel a ganlyn:
Ansawdd artistig
Mae'r Asiantaeth yn ceisio cefnogi gwneud ffilmiau gwreiddiol a dramatig.
Budd cyhoeddus
Gellir llwyddo i wneud hyn drwy amrywio ystod y deunydd sinematig sydd ar gael; rhoi proffil i dalent newydd neu ehangu'r gynrychiolaeth o gymunedau sydd heb gael sylw digonol yn y gorffennol.
Datblygiadau newydd
Nid oes modd cyfnewid cronfeydd y Loteri. Hynny yw, ni ddylid eu defnyddio yn lle ffynonhellau eraill o nawdd sydd ar gael i unrhyw brosiect. Gellir eu defnyddio, fodd bynnag, i godi buddsoddiad ychwanegol i brosiectau. Gellir defnyddio ein nawdd mewn partneriaeth ag arianwyr Loteri eraill, ond yn rhwym i gap cyflawn o 50% o ffynonhellau Loteri.
Ymarferoldeb ariannol
Byddwn yn ystyried ymarferoldeb ariannol y prosiect a chydnawsedd yr elfennau ariannol eraill gyda thermau ariannu'r Loteri. Mae angen i'r ceisiadau gael eu cyllido'n addas ar gyfer cynulleidfa darged y prosiect a'r farchnad derfynol.
Cyllid partneriaeth
Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o arian datblygu trydydd parti neu lefelau addas o gefnogaeth 'mewn ffyrdd eraill'.
Angen clir
Mae'r Asiantaeth yn dymuno cefnogi prosiectau ffilm sydd yn debygol o gael dosbarthiad llwyddiannus.
Rheolaeth effeithiol
Mae'r Asiantaeth yn gyfrifol am wariant arian cyhoeddus, ac felly mae'n rhaid iddo fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn debygol i gyflawni o fewn cyllideb, ac ar amser, ac i ddefnyddio'r ariannu ar gyfer y rhesymau pwrpasol.


