Datblygu
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru'n awyddus i ddarganfod a chefnogi talent newydd a thalent sydd eisoes yn bodoli oddi mewn i'r diwydiant ffilm yng Nghymru.
'Rydym yn cynnig arian i ddatblygu, ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor. Mae ein hariannu'n canolbwyntio ar ffilmiau hir, gan gynnwys ffilmiau dogfen sy'n gobeithio cael eu dangos mewn theatrau, yn ogystal â ffilmiau teledu hir, ond mae gennym bob amser ddiddordeb mewn gwybod beth arall sydd gennych mewn golwg. Os ydych am gael sgwrs â rhywun ynglŷn â'ch stori; os ydych angen i rywun daro golwg ar y sgript o'r newydd; os ydych yn dymuno chwilio am arianwyr posib, neu os ydych am ofyn cwestiynau sylfaenol ynglŷn â'r diwylliant, 'rydym yma i gynnig cymorth.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cofiwch godi'r ffôn, neu gyrrwch gopi o'ch sgript atom drwy'r post, a byddwn yn cysylltu â chi mewn ychydig wythnosau. Byddem yn eich argymell i beidio a gyrru unrhyw driniaeth neu amlinelliad lle mae gennych sgript eisoes – mae'n well gennym gael syniad o'ch sgiliau fel awdur sgript, yn hytrach na'ch gallu i ysgrifennu'n goeth a chaboledig. Os ydych yn gynhyrchydd, gyrrwch unrhyw wybodaeth bellach berthnasol mewn nodyn ychwanegol.
Er mwyn gwneud cais ffurfiol am gefnogaeth ariannol, llawr lwythwch ein ffurflenni Canllawiau a Cheisiadau. Gallwch hefyd ofyn am gopi caled.
Dylai'n Strategaeth Ddatblygu roi syniad manwl i chi o'r hyn 'rydym yn ei wneud, yr hyn nad ydym yn ei wneud, a sut 'rydym yn gweithredu. 'Rydym yn fwy na pharod i drafod prosiectau a/neu geisiadau posib yn anffurfiol, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Bydd pob prosiect yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a phob cais yn cael ei drin â pharch. Ni ddefnyddir unrhyw bersonél o'r tu allan i'r Asiantaeth Ffilm yn y broses ddarllen nag wrth roi ystyriaeth i unrhyw brosiect.
Am wybodaeth bellach neu i gychwyn sgwrs, cysylltwch â:
Adam Partridge
Swyddog Datblygu Talent
Ffôn Uniongyrchol: 029 2046 7490
adam@filmagencywales.com


