Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Board members

Peter Edwards

Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru

Wedi rhedeg ei Gwmni Annibynnol ei hun am 11 mlynedd, ymunodd Peter â HTV ym 1998 fel Pennaeth Drama. Mae ei waith yn cynnwys "A Way of Life" (Enillydd Gwobr Bafta Carl Foreman), Executive Producer “The History of Taliesin Jones”, “Darklands”, “Little White Lies”, "Nuts & Bolts" (Gwobr y Rhaglen Ranbarthol Orau RTS), "Pen Tennyn" (S4C), "Chosen" (ITV Wales & RTE), 14 pennod o "A Mind To Kill", cyfarwyddwr "East Enders" a "District Nurse", "A Bride of War" a ennillodd wobr Bafta a gwobr yn yr Ŵyl Ffilmiau Geltaidd a "Penyberth".

Sybil Crouch

Is-Gadeirydd

Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin. Mae Sybil yn un o sylfaenwyr Grŵp Arddangos Sinema Cymru, wedi cynrychioli'r sector arddangos ar Weithlu Arddangos Cymru, a hi oedd cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 1999–2003. Mae Sybil hefyd yn lywodraethwr ar fwrdd Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio.

Angharad Evans

Aelod o'r Bwrdd

Mae Angharad yn gyfreithwraig ffilm a theledu. Mae'n cynghori gwneuthurwyr ffilm annibynnol ac ariannwyr ffilm ar amrediad eang o agweddau cyfreithiol ffilm gan gynnwys datblygu, ariannu, cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau. Mae Angharad hefyd yn cynghori ar agweddau cyfreithiol cynhyrchu ar gyfer y teledu, cynnwys gemau symudol a chyfraith gyfryngol a chyfathrebol yn gyffredinol. Wedi ei geni a'i magu ar gyrion

Caerdydd, mae erbyn hyn yn byw yn Llundain, lle gall weithredu'n benodol fel cyfreithiwr cyfryngol. Bu i Angharad astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Exeter cyn mynd i Goleg y Gyfraith, Guildford, ac yn ddiweddar ennillodd Dystysgrif Ôl-radd mewn Cyfraith Hawlfraint y DU, Ewrop ac UDA a Hawliau Perthynol, o Goleg y Brenin, Llundain. Dychwelodd Angharad i Gymru i gwblhau ei chytundeb hyfforddi gyda chwmni cyfreithiol Morgan Cole ym 1999, ble bu iddi gynghori nifer o gleientiaid oddi mewn i ddiwydiant teledu Cymru, a chafodd ei derbyn i Adran Gwasanaethau Busnes Morgan Cole ym mis Medi 2001, lle bu'n arbenigo ar waith Cyfryngol a Masnachol. Ymunodd Angharad ag Adran Gyfryngau a Masnach SJ Berwin LLP ym mis Mawrth 2004

Elan Closs Stephen

Aelod o'r Bwrdd

Ar hyn o bryd mae Elan Closs Stephens CBE yn Athro mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Theatr, Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ble mae wedi bod yn aelod o staff ers 1975. Yn aelod o Bwyllgor Addysg y BFI ers mis Rhagfyr 2000, ymunodd â Bwrdd y BFI ym mis Hydref 2001, ac erbyn hyn mae'n un o Lywodraethwyr y BFI. Hi hefyd yw cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Cyngor Prydeinig Cymru, ac mae'n un o Ymddiriedolwyr y prif Fwrdd sy'n cynhrychioli Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ddiweddar bu i Elan oruchwylio Adolygiad Celfyddydau Cymru, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, o dan Alun Pugh AC. Bwriad hyn oedd adolygu'r trefniadau cyllido sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y celfyddydau, gan gynnwys rôl Cyngor Celfyddydau Cymru, ac edrych ar fframwaith bosib ar gyfer y dyfodol ar gyfer ariannu a gwella mynediad a chynhwysiad i'r celfyddydau, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol.

Ym 1998, Elan oedd y person cyntaf i gael ei hapwyntio fel Cadeirydd S4C mewn cystadleuaeth agored. Cafodd ei hapwyntio gyntaf gan yr Arglwydd Smith o Finsbury (Chris Smith y pryd hynny) o'r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yna cafodd ei hail-apwyntio gan yr Ysgrifennydd Gwladol Tessa Jowell, am dymor llawn arall. 'Roedd Elan hefyd yn aelod o Weithlu'r UK Film Council/Skillset ar hyfforddiant ar gyfer y diwydiant ffilm.

Nerys Lloyd

Aelod o'r Bwrdd

Mae Nerys Lloyd (alumni ACE 2003) newydd gwblhau "Daddy's Girl", ffilm arswyd seicolegol a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan David Evans, gyda Richard Harrington, Jaime Winstone a Louise Delamere (arianwyd gan CCC a Carnaby Films.) Mae'r ffilm wedi ei phrynu yn y DU gan "Contender" er mwyn ei harddangos mewn theatrau yn Hydref 2007.

Yn 2005 bu i Boda gyd-gynhyrchu'r comedi rhamantus "Dead Long Enough" gyda Grand Pictures, a ysgrifennwyd gan James Hawes ac a gyfarwyddwyd gan Tommy Collins, gyda Michael Sheen a Jason Hughes (arianwyd gan Fwrdd Ffilm Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Ffilm a Theledu Gogledd Iwerddon, Eclipse, Non Stop Sales, Media Luna, RTE, ITV Wales). Mae'n cael ei dangos mewn gwyliau ar hyn o bryd cyn cael ei dosbarthu, ac enillodd gwobr y gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru yn ddiweddar.Mae Boda wedi bod ynghlwm â'r cynllun talent newydd ar gyfer Sgrin Cymru, ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maent wedi cynhyrchu deg ffilm fer 35mm. Sefydlwyd Boda gan Nerys Lloyd ym 1993 fel Cwmni Teledu a Ffilm, ac ers 2001 mae wedi canolbwyntio'n llwyr ar ffilm. Mae'r credydau ffilm blaenorol yn cynnwys 'Beautiful Mistake' (cyf. Marc Evans) a 'Crosscurrent' (cyf. Pip Broughton.)

Ynyr Williams

Aelod o'r Bwrdd

Ynyr Williams Penodwyd i'r Bwrdd o 14 o fis Gorffennaf 2006. Ynyr yw Cynhyrchydd Cyfres, Pobol y Cwm i BBC Cymru. Dechreuodd ei yrfa fel actor theatr gyda Theatr Ystwyth a Theatr Cymru rhwng 1981 a 1984. Bu'n gweithio yn y sector annibynnol gyda Ffilmiau Elidir, Dime Goch ac amryfal eraill cyn sefydlu ei gwmni ei hun, SALEM, mewn cydweithrediad â Tinopolis. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA am raglenni megis UNED 5, 'Johnny Owen - the Long Journey' a 'DAL;YMA/NAWR'.

Alison James

Board Member

Fel Pennaeth Swyddfa Paris y papur newydd Variety o 2000-2007, mae Alison James, sy’n arbenigwr ar y farchnad Ffrengig, wedi gohebu’n helaeth ar ddiwydiannau ffilm a theledu Ewrop, ac mae’n dal i gyfrannu erthyglau i argraffiad wythnosol Variety.

Yn ddiweddar lansiodd Alison gwmni annibynnol newydd ym Mharis, Lutetia Productions, er mwyn datblygu a chynhyrchu ffilmiau yn Saesneg ac yn Ffrangeg, ac i gynnig gwasanaeth ymgynghori a chynhyrchu llinell i’r diwydiant ffilm rhyngwladol. Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghastell-nedd a deil â chysylltiadau agos â Chymru, ond erbyn hyn mae’n byw ar gyrion Paris gyda’i gwr a’i dau blentyn.

Will Machin

Board Member

Fel Pennaeth Thinkfilm International, adran arbenigol o Capital Films, mae gan Will Machin fwy na deng mlynedd o brofiad ym meysydd cynhyrchu, gwerthu a dosbarthu ffilm.

Fel Cyd-lywydd Gwerthiant Rhyngwladol Lolafilms, ef oedd yn gyfrifol am y gwerthiannau a’r caffaeliadau ar ran y prif gwmni cynhyrchu, dosbarthu a gwerthu ffilm yn Sbaen. Aeth Will yn ei flaen i lansio cangen gwerthiant rhyngwladol Carnaby Films Plc, y prif gwmni ffilm yn y DU a gefnogir gan y Cynllun Buddsoddi Menter (EIS - Enterprise Investment Scheme). Ef oedd yn goruchwylio’r gwaith cynhyrchu, yr ariannu, y materion busnes a gwerthiant rhyngwladol holl deitlau Carnaby.

Cath Davies

Board Member

Mae Cath Davies yn ddarlithydd ar gwrs Astudiaethau’r Cyfryngau â’r Diwylliannau Gweledol yn UWIC. O 1994 - 2004 bu’n dysgu Astudiaethau Ffilm i ddisgyblion Lefel A yng Ngholeg Glan Hafren, coleg trydyddol Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn ‘roedd hefyd yn arholwr mewn Astudiaethau Ffilm ar gyfer CBAC, ac yn gyfrifol am lu o brosiectau addysg ffilm - o ddysgu cyrsiau byr ar ffilm yn Chapter, i weithdai ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd mewn sinemâu yng nghymoedd De Cymru.

Ar hyn o bryd mae’n gwneud gwaith ymchwil ar ‘Stardom and Iconic Status’ ar gyfer ei Doethuriaeth.

Nikki Christie – Arsyllwr ar ran yr UK Film Council

Nick Davies – Arsyllwr ar ran yr UK Film Council

Allison Dowzell – Arsyllwr ar ran Busnes Creadigol Cymru