Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

3 Chwefror 2010

Slave

Drama newydd gan Sianel 4 i’w rhyddhau mewn theatrau yn cael ei chynhyrchu gan dîm The Last King of Scotland, a’i chyfarwyddo gan Gabriel Range

Mae Sianel 4, mewn partneriaeth â’r UK Film Council, Asiantaeth Ffilm Cymru a Limelight, wedi comisiynu ffilm nodwedd wreiddiol gan wneuthurwyr The Last King Of Scotland. Yn serennu ynddi bydd y dalent rhyngwladol newydd Wunmi Mosaku (Moses Jones), Lubna Azabal (Occupation, Body of Lies), Igal Naor (The House of Saddam) a Nonso Anozie (Occupation, Atonement). Mae’r awdur Jeremy Brock a’r cynhyrchydd Andrea Calderwood yn cyd-weithio am y tro cyntaf ers The Last King of Scotland, ffilm a enillodd wobr Oscar®. Yn ymuno â nhw ar y prosiect hwn, sydd heb deitl ar hyn o bryd, mae’r cyfarwyddwr Gabriel Range (Death of a President). Ysbrydolwyd y prosiect gan ddigwyddiadau go iawn, stori ryfeddol un fenyw sy’n brwydro i ddianc o gaethwasiaeth ym Mhrydain heddiw.

“Mae ceisio canfod faint o bobl sy’n cael eu masnachu ar gyfer eu defnyddio fel caethweision domestig hyd yn oed yn fwy anodd, gan fod y bobl hyn, trwy ddiffiniad, yn gweithio ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau bychain, mewn tai sydd wedi eu rhentu, maent ar wasgar a phur anaml yn dod i sylw’r awdurdodau yn y DU.” Adroddiad y Pwyllgor Materion Cartref ar Fasnachu mewn Pobl yn y DU 2009

Dengys ffigyrau’r Swyddfa Gartref fod 5,000 o bobl yn cael eu defnyddio fel caethweision yn y wlad hon ar hyn o bryd. Hanes bywydau’r bobl yma, sydd wedi eu dadleoli a’u gwerthu er mwyn eu defnyddio fel caethweision domestig yma yn y DU, oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm sydd heb enw hyd yma.

Yn ardal Nuban, Sudan, mae Malia, sy’n 12 oed, yn cael ei chipio o freichiau ei thad pan mae’r Muharalee yn ymosod ar eu pentref. Wedi ei churo a’i gwerthu fel caethferch, mae Malia (Mosaku) yn treulio chwe blynedd nesaf ei bywyd yn gweithio i deulu o Sudan, yna yn 18 oed yn cael ei gyrru i weithio i Lundain.

Yn fuan iawn mae’r ddinas yn ei charcharu gymaint â’r cartref lle’i cedwir; wedi ei chuddio yng ngolwg pawb, nid oes neb a ddaw i gysylltiad â hi yn sylwi na’n poeni am sefyllfa argyfyngus Malia. Heb basbort, ac yn byw mewn ofn o’r hyn allai ddigwydd i’w theulu yn y Sudan petai’n agor ei cheg, mae Malia wedi ei dal mewn amgylchedd didrugaredd, dieithr.

Er ei hanobaith llwyr am y bywyd mae wedi ei gondemnio i’w ddilyn, mae’n llwyddo i ymgyfnerthu er mwyn dianc yn ôl i Sudan mewn modd dramatig; yn ôl at ei thad nad oedd erioed wedi rhoi’r gorau i gredu nad oedd ei ferch dal ar dir y byw; na roddodd gorau i chwilio amdani erioed.

Slate Films sy’n gwneud y ffilm 90 munud, sy’n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd, ac fe’i cydariannir gan Sianel 4, yr UK Film Council, Asiantaeth Ffilm Cymru, Limelight, Molinare a JAC Rights Management LLP. Mae’r ffilm yn cael ei gwneud ar gyfer ei rhyddhau mewn theatrau, gyda Content Film yn trafod y gwerthiant rhyngwladol - gan gynnwys rhoi proffil i’r ffilm yng Ngwyl Ffilm Rhyngwladol Berlin fis Chwefror eleni. Caiff y ffilm ei dangos ar deledu am y tro cyntaf yn y DU ar Sianel 4 yn 2010.

Dywedodd Camilla Campbell, Pennaeth Drama Sianel 4: “Mae’r prosiect hwn yn parhau â’r enw mae Sianel 4 wedi ei sefydlu iddi’i hun o ymdrin â deunydd anodd sy’n gosod yr agenda. Gydag awdur a chynhyrchydd The Last King of Scotland, ffilm a enillodd wobr Oscar®, yn ogystal â chyfarwyddwr Death of a President, bydd hon yn ffilm nodedig dros ben fydd yn sicr o godi cwestiynau anodd a heriol.”

Dywedodd Lenny Crooks, Pennaeth Cronfa Sinema Newydd y DU: “Mae’r UK Film Council yn falch o fod wedi buddsoddi arian Loteri er mwyn sicrhau fod y ffilm ysbrydoledig hon yn cael ei gwneud. Mae’n adrodd stori ddynol arw mewn modd gofalus a thrugarog, ac yn nwylo cadarn Gabriel, Jeremy ac Andrea, bydd yn rhoi golwg ddigyfaddawd ar gymhlethdodau byd Malia i gynulleidfaoedd y DU. Gyda Content Film yn gofalu am y dosbarthu rhyngwladol, edrychaf ymlaen at weld y ffilm yn ymestyn at diriogaethau eraill, gan ddechrau â Berlin y mis yma.”

Ychwanegodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru“’Rydym wrth ein bodd cael hyrwyddo gwaith Gabriel Range, yn enwedig ochr yn ochr â thîm mor dalentog a phrofiadol. Gabriel yw un o’r cyfarwyddwyr mwyaf diddorol, ysbrydoledig a thalentog i ddod o Gymru yn ddiweddar, ac ‘rydym yn arbennig o falch fod apêl a pherthnasedd y prosiect hwn mor rhyngwladol.”

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006