E-fwletin Arddangos ac Addysg
Tachwedd 2009
Ffilm Justin Kerrigan, I Know you Know, a enillodd wobr BAFTA Cymru, yn mynd i Efrog Newydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a BAFTA Dwyrain America.
Cinetig, aelod o’r Rhwydwaith Addysg Ffilm, ac Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ennill gwobr yn yr Wyl Ffilm Ryngwladol i Blant yn Chicago
Y llwyddiant rhyngwladol, Sleep Furiously, a arianwyd gan yr Asiantaeth Ffilm, ‘nawr ar gael i’w phrynu ar DVD
Teitlau Cymreig sydd ar ddod: Mugabe and the White African
Dyddiadau i'ch Dyddiadur
Ffilm Justin Kerrigan, I Know you Know, a enillodd wobr BAFTA Cymru, yn mynd i Efrog Newydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a BAFTA Dwyrain America.
Yn dilyn dangosiad llwyddiannus yng Ngwyl y Smithsonian, Washington yn gynharach eleni, bydd BAFTA Dwyrain America yn cynnal dangosiad o I Know You Know ar Ragfyr 1af yn Efrog Newydd, ar gyfer aelodau BAFTA a gwesteion arbennig, cyn i’r ffilm gael ei rhyddhau yn y DU yn gynnar yn 2010. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys sesiwn Cwestiwn & Ateb arbennig gyda Justin Kerrigan, y Cyfarwyddwr a Pauline Burt, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ffilm.
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf erioed yng Ngwyl Ffilm Llundain, ac fe’i cyflwynwyd am y tro cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol yng Ngwyl Ffilm Berlin, cyn cipio Gwobr BAFTA Cymru am y Ffilm Orau yn 2009.
Mae I Know You Know yn dilyn hanes Charlie (Robert Carlyle), gwr cynhyrfus, anniddig sy’n byw ar ymyl y dibyn - mae’n asiant cudd, ar drywydd rhyw berwyl dirgel yn dragwyddol, heb fyth aros yn ei unfan. Mae ei fab, Jamie (Arron Fuller), wedi ei swyno gan waith ysbio ei dad, hyd nes i fyd yr ysbiwyr droi’n realaeth. Mae Charlie’n anwadal, yn ffrwydrol, ond mae ganddo galon garedig ac mae’n hynod ofalus o Jamie, sy’n araf sylweddoli fod ei dad, efallai, yn byw mewn realaeth tra gwahanol.
Fel un o gyd-arianwyr y ffilm mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn cyd-weithio â’r cwmni dosbarthu Network Releasing, ac yn cynnig cyfle i sinemâu ledled Cymru ddangos y ffilm Gymreig hon, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, wrth iddi gael ei rhyddhau yn y DU. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn cysylltwch â Dan neu Eve am ragor o fanylion. I ddarganfod rhagor am I Know You Know, ewch i wefan y ffilm ar: www.iknowyouknowmovie.com
Cinetig, aelod o’r Rhwydwaith Addysg Ffilm, ac Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ennill gwobr yn yr Wyl Ffilm Ryngwladol i Blant yn Chicago
Mae’r cwmni animeiddio Cinetig, ynghyd â rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Caerdydd wedi cipio’r 2il wobr yng nghategori Rheithgor y Plant, ar gyfer y Ffilm Fer orau i’w Chynhyrchu gan Blant, gyda’u ffilm Skool Daze.
Bu i Skool Daze gystadlu yn un o 265 o ffilmiau o 40 gwlad er mwyn ennill y wobr - camp ragorol sydd wedi bod yn gyfle gwych i ymarferwyr addysg ffilm o Gymru a phobl ifanc arddangos eu gwaith ar lwyfan y byd. Gan gyflwyno rhaglen amrywiol sy’n cynnwys ffilmiau nodwedd a ffilmiau wedi eu hanimeiddio, ffilmiau byrion, cyfresi teledu, dogfennau yn ogystal â gwaith a gynhyrchwyd gan blant, y CICFF yw un o wyliau mwyaf unigryw UDA. Mae’n arddangos y sinema newydd orau sydd ar gael i blant o ran amrywiaeth diwylliannol, sinema di-drais, a sinema sy’n cadarnhau’r gwerthoedd gorau. Anrhydeddwyd y CICFF ymhellach pan y’i dewiswyd fel yr unig wyl ffilm i blant sy’n gymwys i gystadlu ar gyfer Gwobrau’r Academi®.
Dywedodd Gerald Conn a Jane Hubbard, animeiddwyr Cinetig, fu’n gyfrifol am gyfarwyddo a chynhyrchu Skool Daze, gyda chymorth disgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch: “’Rydym yn falch dros ben fod ein ffilm Skool Daze wedi ennill gwobr yn yr Wyl Ffilm Ryngwladol i Blant yn Chicago. Yn yr wyl hon y dangosir y nifer mwyaf o ffilmiau ar gyfer plant yn y byd i gyd, a dewiswyd 3 o’n ffilmiau ni allan o 200. Arianwyd y ffilm gan First Light Movies, a gweithiodd Cinetig gyda grwp o ddisgyblion Blwyddyn 5 o Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Caerdydd. Mae’r ffilm yn sôn am Ysgol Maestir, ysgol sy’n nodweddiadol o Oes Fictoria ac sydd erbyn hyn i’w gweld yn Amgueddfa Sain Ffagan. Bu i’r plant, eu hathro a’r prifathro wisgo dillad o’r cyfnod ac ail-greu diwrnod ysgol nodweddiadol yng Nghymru yng nghyfnod Oes Fictoria.”
Mae Cinetig eisoes wedi derbyn arian Addysg gan Asiantaeth Ffilm Cymru am gyfres o brosiectau ffilm, gan gynnwys Behind the Stone, The Travelling Harpists a Roman Remains. Mae’r holl brosiectau wedi ymwneud â dysgu egwyddorion sylfaenol llythrennedd ffilm i bobl ifanc, ac wedi cyflwyno amrywiaeth o dechnegau animeiddio wrth iddynt fynd i’r afael â chreu eu ffilmiau byrion eu hunain.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ffilm: “Yr Wyl Ffilm Rhyngwladol i Blant yn Chicago yw’r wyl ffilmiau plant flynyddol fwyaf yn y byd. Felly mae’n anrhydedd arbennig i bawb oedd yn ymwneud â'r prosiect i gipio’r wobr hon, ac iddynt gael cyfle i arddangos eu rhagoriaeth creadigol ar lwyfan rhyngwladol.”
Y llwyddiant rhyngwladol, Sleep Furiously, a arianwyd gan yr Asiantaeth Ffilm, ‘nawr ar gael i’w phrynu ar DVD
Mae New Wave Films yn falch o gyhoeddi bod DVD o ffilm lwyddiannus y cyfarwyddwr newydd Gideon Koppel, Sleep Furiously ‘nawr ar gael i’w phrynu. Gwelwyd y ffilm mewn sinemâu yn gynharach eleni pan dderbyniodd adolygiadau 5-seren, gan esgyn i’r 5ed safle yn siartiau’r swyddfeydd-tocynnau ar gyfer canran y gynulleidfa ym mhob dangosiad.
Sleep Furiously oedd darganfyddiad beirniadol Gwyl Ffilmiau Caeredin 2008, ac yn un o lwyddiannau mwyaf y sinema Brydeinig y flwyddyn honno. Fe’i disgrifiwyd gan Jonathan Romney yn yr Independent on Sunday fel gwaith “aruchel” ac yn arwydd o adfywiad y sinema gelfyddydol ym Mhrydain, (ynghyd â HUNGER, a ffilmiau eraill a ryddhawyd gan New Wave, UNRELATED a HELEN). Meddai Andrew O’Hagan: “Y ffilm ddogfen sylfaenol harddaf i’w chynhyrchu ym Mhrydain am ddegawd o leiaf… Rhywbeth sy’n ein hatgoffa o hud Sinema” (Evening Standard).
Astudiaeth fyfyriol o gymuned amaethyddol fechan yng nghanolbarth Cymru yw’r ffilm. Mae’n arsylwi ar rythmau bywyd y wlad, a rhythmau ymweliadau misol y llyfrgell symudol. Ond mae’r ffordd hon o fyw yn newid - mae ysgol y pentref ar fin cau; mae peirianwaith yn disodli’r hen fyd; mae cynulleidfaoedd y capel a’r eglwys yn edwino; ond mae sioe'r pentref a’r cystadlaethau cwn defaid yn parhau. Mae dull arsylwadol barddonol y ffilm wedi ei gymharu â gwaith Humphrey Jennings, ac mae diddordeb Koppel mewn hynodrwydd bywyd yn deimladwy, yn annwyl, ac yn ddoniol dros ben. Mae Sleep Furiously hefyd yn cynnwys trac sain hudolus, llawn awyrgylch gan Aphex Twin.
Mae’r DVD arbennig hefyd yn cynnwys “A Sketchbook for The Library Van” – ffilm beilot 50 munud, a’r rhaglun theatraidd. Gwelir manylion llawn y cyflenwyr ar www.newwavefilms.co.uk/view-film-detail.html . Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflenwi Sleep Furiously eich hunan, cysylltwch â Dena Blakeman ar Dena@newwavefilms.co.uk.
Teitlau Cymreig sydd ar ddod: Mugabe and the White African
Erbyn hyn mae Mugabe and the White African, a gefnogwyd gan yr Asiantaeth Ffilm ac a enillodd ffilm Orau’r Byd yng Ngwyl Silverdocs, Gwyl Ffilm yr American Institute, yn cael ei henwi gan Screen Daily fel cystadleuydd posibl yn yr Oscars.
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn y DU yng Ngwyl Ffilm Llundain, ac mae eisoes wedi ei dangos yn rhyngwladol yng Ngwyl Hotdocs (Toronto). Fe’i cyflwynwyd hefyd ochr yn ochr â dangosiadau sy’n gymwys ar gyfer yr Oscars yn Efrog Newydd a Los Angeles drwy Docuweeks, ac mae eisoes wedi ei dewis ar gyfer Dinard ac IDA (Amsterdam).
Mae Mugabe and the White African yn adrodd stori Michael Campbell a’i deulu. Michael yw un o’r ychydig gannoedd o ffermwyr gwyn sydd ar ôl yn Zimbabwe ers i’r Arlywydd Robert Mugabe ddechrau ar ei raglen dreisiol i ddwyn tiroedd yn 2000. Ers hynny mae’r wlad wedi dirywio i gyflwr o anrhefn lwyr. Mae’r economi’n chwilfriw wrth i ffermydd oedd yn berchen cynt i’r dyn gwyn gael eu rhoi i gyfeillion a swyddogion y ZANU-PF sydd heb unrhyw wybodaeth, profiad na diddordeb mewn ffermio. Mae Mike, fel cannoedd o ffermwyr gwyn o’i flaen, wedi dioddef blynyddoedd o gyrchoedd ac o ymosodiadau ar ei fferm.
Yn 2008, bu i Mike, taid 75 mlwydd oed - gan nad oedd posib iddo wneud cais i unrhyw un o awdurdodau Zimbabwe i’w ddiogelu, a chan nad oedd yn bosibl iddo chwaith ddibynnu ar gefnogaeth y ffermwyr gwyn eraill, gan eu bod oll yn wynebu’r un bygythiad treisgar - gymryd y cam gwbl unigryw o herio Robert Mugabe yn llys rhyngwladol y SADC (Cymuned Ddatblygu De Affrica), gan ei gyhuddo ef a’i lywodraeth o wahaniaethu hiliol ac o droseddu yn erbyn Hawliau Dynol.
Hanes personol dewrder rhyfeddol un teulu yn wyneb creulondeb sydd yn y ffilm, wrth iddynt frwydro i ddiogelu eu heiddo, eu bywoliaeth a’u gwlad. Wrth i gyd-ddyn barhau i frwydo yn erbyn cyd-ddyn, gall canlyniad yr achos llys benderfynu nid yn unig dyfodol Mike a’i deulu, ond dyfodol miliynau o drigolion Zimbabwe sy’n parhau i ddioddef wrth law unben sydd wedi profi mai grym yw’r unig beth sy’n mynd â’i fryd.
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru, fel un o gyd-arianwyr y Ffilm, yn cyd-weithio ag asiantaeth werthu ryngwladol Hanway i gynnig cyfle i sinemâu ledled Cymru i ddangos y cynhyrchiad Cymreig hwn, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, wrth iddi gael ei rhyddhau yn y DU. Oes oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch â Dan neu Eve am ragor o fanylion. I ddarganfod rhagor am Mugabe and the White African, ewch i wefan y ffilm ar: www.mugabeandthewhiteafrican.com
Dyddiadau i'ch Dyddiadur
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer arian prosiect AFfC ar gyfer prosiectau Gwyliau ac Addysg yw 5 y.h. dydd Gwener 27ain Tachwedd. Am ragor o wybodaeth ynglyn â cheisiadau cysylltwch ag hana@filmagencywales.com.
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn gwahodd sefydliadau priodol i enwebu cymunedau penodol ledled Cymru i gyd-weithio â’r Asiantaeth Ffilm, Skillset, Academi Sgrin Cymru a phartneriaid eraill i gynhyrchu rhaglen addysg ac arddangos sydd wedi ei seilio yn y gymuned. Disgwylir cychwyn ar y prosiect ym Medi 2010 am uchafrif o 3 blynedd. Am ragor o wybodaeth ac am ffurflenni cynnig cysylltwch ag hana@filmagencywales.com. Rhaid derbyn pob cynnig erbyn 5 y.h. dydd Gwener 27ain Tachwedd.
Mae Zoom - yr Wyl Ffilm Ryngwladol i Bobl Ifanc yn derbyn ceisiadau ar gyfer gwobrau Zoom 2010 ar gyfer Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc. Rhaid i’r ffilmiau fod wedi eu cynhyrchu gan blant/pobl ifanc sy’n 25 neu’n iau; gallant gynnwys genres Ffuglen, Animeiddio, Fideo-Cerdd neu Ddogfen; rhaid iddynt beidio a bod yn hwy na 10 munud o hyd; ac mae’n rhaid iddynt fod wedi eu gwneud yng Nghymru ar ôl Ionawr 2008. Am fanylion llawn a ffurflenni cais, cysylltwch ag info@zoomcymru.com. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15fed Ionawr 2010.
Mae’r ICO yn cynnal cwrs dwys ar Arddangos Sinema Ddiwylliannol ar 18fed- 29ain Ionawr 2010 (heb gynnwys y penwythnos) yn y BFI Southbank, Llundain. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle unigryw i bobl sy’n gweithio yn y sector arddangos sinema arbenigol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o raglennu ffilm.
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu gan amrediad eang o arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn y diwydiant ffilm ac mae’n cynnwys:
- Cyflwyniad i ddosbarthu ac arddangos
- Rhaglennu sinemâu, gwyliau ffilm, teledu a lleoliadau heb fod yn theatrau
- Dangos ffilmiau archif, ffilmiau byrion a delweddau symudol artistiaid
- Ehangu cynulleidfaoedd: pobl ifanc, anabledd ac amrywiaeth ddiwylliannol
- Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ar gyfer ffilmiau arbenigol
- Hawliau a fformadau
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.independentcinemaoffice.org.uk/training-2010-culturalcinemaexhibition neu cysylltwch â Tilly Walnes ar info@independentcinemaoffice.org.uk
- Diwedd -




