Asiantaeth Ffilm Cymru

Neidio at y cynnwys

Rhif ffôn: 029 2046 7480

Yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru

Film Agency News

18 Tachwedd 2009

Buddsoddiad o £1.15 miliwn mewn ffilm yn uno diwylliant a masnach yng Nghymru

Heddiw (dydd Mercher 18 Tachwedd) bydd Asiantaeth Ffilm Cymru yn cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos buddsoddiad o £1.15 miliwn yn y diwydiant ffilm yng Nghymru.

Daw’r datganiad wrth i fwy na 100 o elît y byd gwneud ffilmiau yn Ewrop gwrdd yng Nghaerdydd ar gyfer rhaglen yr ‘European Audiovisual Entrepreneurs’ (EAVE) 2009, a gynhelir yng Ngwesty’r St David’s, Caerdydd, ac ar ddiwrnod agoriadol Soundtrack, gwyl ryngwladol ffilm a cherddoriaeth Cymru. Cefnogir y ddau ddigwyddiad pwysig hyn gan Asiantaeth Ffilm Cymru.

Wrth lansio Adroddiad Blynyddol 2008/09, sy’n manylu ar y buddsoddiad o £1.15 miliwn, dywedodd Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru fod cyfanswm y dyfarniadau ariannol, tua £940,050, wedi caniatáu i 20 ffilm nodwedd gael eu datblygu, ac wyth eu cynhyrchu dros y deuddeg mis diwethaf. ‘Roedd talent o Gymru ynghlwm â phob un ohonynt.

Rhannwyd £162,996 rhwng saith lleoliad sinema, 17 cymdeithas ffilm, deg gwyl ffilm a phedwar digwyddiad ffilm arbenigol er mwyn ehangu arddangos ffilm arbenigol ledled Cymru, a bu codiad o 35% yn y gynulleidfa yn ystod y tair blynedd. Dyfarnwyd £52,168 hefyd i 13 o brosiectau addysg ffilm oedd o fudd i tua 2300 o bobl ifanc Cymru.

“Erbyn hyn yn ei thrydedd flwyddyn mae Asiantaeth Ffilm Cymru’n newid wyneb yr economi ddigidol. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar uno diwylliant a masnach, yn arloesi yng nghyswllt ffilm ddigidol, ac yn holl bwysig, yn cynhyrchu llwyddiant,” eglura Mr Edwards.

“Wrth gyd-weithio â budd-ddeiliaid y diwydiant mae’r tîm wedi canolbwyntio ar ecsbloetio manteision yr economi ddigidol, gan groesawu dyfodol darlledu digidol yng Nghymru, tra hefyd yn cysylltu pobl ifanc a thalent y dyfodol â'r diwydiant ffilm yng Nghymru.”

“Eleni mae’r gwaith cynhyrchu wedi cychwyn, neu wedi ei gwblhau, ar 15 ffilm a arianwyd gan yr Asiantaeth Ffilm. £4 miliwn yw amcangyfrif cyfanswm y gwariant Cymreig, gyda chyfanswm nawdd o fwy na £11.1 miliwn gan ein partneriaid - camp aruthrol a chysidro’r cyfyngderau oedd ar fewnbwn ein harian cynhyrchu, £2.1 miliwn yn unig, ers ein sefydlu yn 2006.”

Fel y prif gorff ar gyfer ffilm o ac yng Nghymru, mae’r Asiantaeth Ffilm yn cyd-weithio â phartneriaid gan gynnwys BBC Wales, S4C, Film London, Film4, yr UK Film Council a Chronfa Eiddo Deallusol Cymru, yn ogystal â chyd-gynhyrchwyr, arianwyr ac asiantaethau gwerthu rhyngwladol.

Rhai o’r ffilmiau nodwedd a fuddsoddwyd yn eu cynhyrchu oedd ffilmiau dogfen theatrig fel Little Matador (sydd yn cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd), Mugabe and the White African, sydd wedi ei dewis ar gyfer Gwyl Ffilm Llundain, IFDA, Hotdocs ac wedi ennill ‘Ffilm Nodwedd y Byd’ yng ngwyl Silverdocs yr AFI, A Boy Called Dad, a ddewiswyd ar gyfer Gwyl Ffilm Caeredin, a Barafundle Bay sydd ar restr yr 20 sgript ffilm orau sydd heb ei chynhyrchu, yn ôl Variety. ‘Roedd ysgrifennwr, cyfarwyddwr a neu gynhyrchydd(wyr) o Gymru wrth graidd pob un o’r prosiectau hyn.

“Wrth gwrs, un o’r manteision ariannol mwyaf sylweddol, nad oes tystiolaeth ohono yn ein cyfrifon, yw dylanwad y nawdd a gafwyd gan bartneriaid ar gyfer nifer o’r ffilmiau nodwedd ‘rydym yn eu cefnogi, gan y rhoddir mwyafrif cyllideb pob ffilm gan un neu, fel arfer, fwy o drydydd partďon,” ychwanega Edwards.

“Mae manteision strategol ychwanegol a graddfeydd economaidd i’w cael mewn amgylchedd ble anogir cynnal busnes gyda chyd-arianwyr dro ar ôl thro, a ble gall yr arianwyr hynny weithio gyda’i gilydd er mwyn llwyddo’n well yn eu bwriad. ‘Rydym yn awyddus iawn i gryfhau’r perthnasau prosiect dechreuol hyn, gan feithrin y manteision ddaw yn sgil cyfuno’r ffordd hon o ariannu ffilm a’r ffocws ar ddosbarthu rhyngwladol, gyda gwybodaeth gynhenid y darlledwyr o’u cynulleidfa graidd, a sut y gallant hwy gyrraedd y farchnad honno yn y modd mwyaf uniongyrchol. Gyda’n gilydd gallwn greu arlwy safonol dros ben na fyddai’n bosibl i unrhyw barti ei gynhyrchu ar ei ben ei hun, gan osod gwneuthurwyr ffilm o Gymru yn gadarn ar lwyfan byd-eang.”

“Mae’r Asiantaeth Ffilm yn chwarae rhan ym mhob cam o’r broses, o gyfrannu tuag at gynnwys y ffilm, hyd at y defnyddiwr. Mae’n amlwg i ni gael blwyddyn gynhyrchiol a llwyddiannus, ac yn bwysicach oll, gwelwyd fod gan y diwydiant ffilm yng Nghymru gyfraniad sylweddol i’w wneud i’n llwyddiant economaidd. Mae’n hanfodol, felly, bod ein harianwyr yn cydnabod bod angen buddsoddi’n barhaol er mwyn sicrhau llwyddiant yr economi ddigidol yng Nghymru.”

“Ac yn wir, mae’r ffigyrau sy’n cael eu rhyddhau heddiw’n amlygu’r rhan allweddol sydd gan yr Asiantaeth Ffilm i’w chwarae wrth roi cyfle a chefnogi, a thanio brwdfrydedd y gwneuthurwyr ac arddangoswyr ffilm sy’n gweithio yng Nghymru heddiw ac yfory.”

Ariennir Asiantaeth Ffilm Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr UK Film Council a Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Busnes Creadigol Cymru. Sefydlwyd yr olaf er mwyn cefnogi, annog a lledaenu amrediad a nifer y ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, ac i feithrin y doreth o dalent greadigol sydd yng Nghymru. Cefnogir nawdd ar gyfer datblygu a chynhyrchu ffilmiau nodwedd gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

- Diwedd -

Archif Newyddion allanol

Archif Newyddion 2009

Archif Newyddion 2008

Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006